Ailagor twnnel tanddaearol cudd o'r 1930au yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae twnnel tanddaearol cudd a oedd yn cadw casgliadau pwysicaf Cymru yn yr Ail Ryfel Byd wedi ailagor yr wythnos hon.
Mae'r twnnel, sy'n mynd o dan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, wedi agor eto am y tro cyntaf ers 1993 fel rhan o brosiect cymunedol gan brifysgol y dref.
Ymhlith yr eitemau o eiddo'r Llyfrgell Genedlaethol a gafodd eu cadw yno roedd Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Gwyn Rhydderch, casgliad Peniarth, a llawer o weithiau celf o bwysigrwydd cenedlaethol.
Cafodd llyfrau Chaucer, The Canterbury Tales, eu cadw yno hefyd, a dyddiaduron yr anturiaethwr a aeth i'r Antartig, Capten Scott.
Roedd hyn am fod y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain wedi cyfrannu tuag at y gost o'i adeiladu.
Cafodd y twnnel ei adeiladu rhwng 1938 ac 1939 gyda'r bwriad o fod yn guddfan i rai o gasgliadau pwysicaf Cymru wrth i'r bygythiad gan luoedd yr Almaen ddwysáu.
Does dim ymweliadau cyhoeddus wedi bod i'r twneli ers yr 1990au, ag eithrio ymweliadau preifat ar ran y Llyfrgell Genedlaethol.
Cafodd y teithiau cyhoeddus eu trefnu ar ran prosiect hanes gan Brifysgol Aberystwyth sydd yn ymchwilio i hanesion pobl Aberystwyth rhwng 1939 ac 1945.
Creu cuddfan 'rhag y Natsïaid'
Ddydd Sadwrn fe wnaeth dau grŵp o bobl gael taith tywys o amgylch y twnnel - sydd ar siâp pedol.
Will Troughton wnaeth arwain y daith, sy'n archifydd gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cafodd 40 o bobl fynd i'r twnnel yn ystod dwy sesiwn debyg ddydd Mercher diwethaf.
Dywedodd Mr Troughton wrth y gynulleidfa: "Yr Arglwydd Harlech gododd y syniad o gael llefydd cudd ar sefydliadau ar gyfer eu casgliadau, a hynny yn 1933.
"Rhoddodd y Llyfrgell Genedlaethol gynllun ar waith i edrych ar y posibilrwydd o greu cuddfan lle byddai modd cadw eitemau o bwysigrwydd cenedlaethol yn ddiogel yn wyneb y posibilrwydd o ryfel byd arall, a rhag y Natsïaid."
Cafwyd sawl cynllun ar gyfer y guddfan. I gychwyn, penderfynwyd creu twnnel ar siâp pedol, cyn i'r cynllun hwnnw esblygu i gynnwys gofod siâp hecsagon ar y pen.
Wrth i'r cynllunio fynd yn ei flaen, fe glywodd y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain am y bwriad i greu cuddfan, ac fe gysyllton nhw gyda swyddogion yn Aberystwyth i holi a fyddai modd iddyn nhw hefyd gael lle i ddeunydd yn y twnnel, ac y byddan nhw'n ysgwyddo hanner y gost o'i gyflawni.
Twnnel mewn dau hanner
Dechreuwyd ar y gwaith o gloddio'r graig o dan y Llyfrgell Genedlaethol yn 1938.
"Roedd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio ffrwydron i greu'r gofod," meddai Mr Troughton wrth y gynulleidfa o bobl leol ddydd Mercher, "am fod y graig yn rhy galed ar gyfer bwyell.
"Wrth iddyn nhw gloddio fe ddaeth hi'n amlwg nad oedd hi'n ddoeth iddyn nhw ymestyn y twnnel y tu hwnt i'r hyn oedd yn cael ei gloddio, ac fe roddon nhw'r gorau i'r syniad o greu ystafell ar y pen."
Roedd dau ran i'r twnnel - gydag un hanner ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol, a'r hanner arall i'r Llyfrgell Brydeinig.
Mae giât fetel a oedd yn gwahanu'r ddau ran yn parhau mewn lle hyd heddiw.
Cwblhawyd y gwaith o greu'r twnnel yn 1939, cyn i'r eitemau cyntaf gael eu storio yno yn 1940.
Ar un adeg roedd creiriau o 10 o wahanol sefydliadau ar draws Prydain yn cael eu cadw yn y twnnel o dan y graig yn Aberystwyth.
Roedd yna eitemau hefyd o'r Galeri Cenedlaethol yn Llundain, ac o gasgliad Brenhinol Windsor hefyd.
Argraffiadau'r gohebydd Sara Gibson
Os 'y chi'n byw yn Aberystwyth, mae 'na siawns go lew eich bod wedi clywed am y guddfan yma. Mae'n chwedlonol.
Wrth gerdded o gyfeiriad Ffordd Llanbadarn, heibio Ysbyty Ddydd Gorwelion a thuag at y llwybr troed sy'n mynd â chi i'r Llyfrgell Genedlaethol fe ddowch chi ar draws y fynedfa, sydd wedi ei cherfio i mewn i'r garreg lwyd.
Os na fyddai drws metel, trwm, yn eich rhwystro rhag cael mynediad i'r safle, fe fyddech chi'n taeru eich bod yn camu i mewn i ogof.
Yn y tywyllwch, sydd wedi ei oleuo gyda chyfres o lampau, fe gewch chi droi i'r dde, neu i'r chwith. Mae'r twnnel wedi ei gerfio i mewn i'r garreg; mae'n oer, ac yn llaith, ac yn syndod o fach hefyd, a finne wedi disgwyl cafn enfawr, gwag, fel ogofau Llechwedd.
Wrth wrando ar hanes adeiladu'r twnnel unigryw hwn, mae eich meddwl yn crwydro, ac ry' chi'n rhoi eich hun yn esgidiau'r curaduron nôl ym '40au'r ganrif ddiwetha'.
Pa drysorau cenedlaethol fydden i wedi dewis eu rhoi yno? Beth fyddai'n cael blaenoriaeth, a beth fyddai'n cael ei adael ar ôl i wynebu perygl posib y bomiau?
Teg dweud bod pawb a fu ar y daith wedi eu cyfareddu, ac yn teimlo'n ffodus o fod wedi cael y profiad, a'r fraint.
Roedd 'na farn gadarn hefyd y byddai mwy, o fod wedi clywed am ein teithiau, yn dymuno ymweld hefyd o gael y cyfle. Ond, hyd y gwyddon ni, does dim bwriad ar hyn o bryd i agor y twnnel i'r cyhoedd yn barhaol - gwaetha'r modd.
Ond, er dyfalu mawr, does dim sail i'r honiad bod rhai o goronau a gemwaith y teulu Brenhinol wedi cael eu cadw yno yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd, meddai Mr Troughton.
"Y syniad oedd y byddai'r eitemau yma i gyd yn cael eu storio ar silffoedd a fyddai wedi cael eu gosod ar ganol y llawr," meddai, "yn hytrach nac ar silffoedd oedd wedi cael eu rhoi ar y welydd.
"Mae'r welydd yn 18 modfedd o drwch, ac er eu bod yn ddigon sych ar y pryd nid oedd y peirianwyr am i unrhyw beth gael ei osod ar wyneb y welydd rhag ofn i ddŵr o'r graig o'i amgylch ddod i mewn."
Wrth grwydro drwy'r twnnel mae modd gweld yr haenen o frics coch sydd yn creu siâp y to.
Yn eu lle o hyd mae bylchau ar gyfer y system awyru, a'r drysau metel cadarn sydd yn gwahanu'r ddau dwnnel rhag y brif fynedfa, a'r graig.
Mae'r twnnel wedi bod yn wag ers 1945, ac mae tipyn o ddifrod a thamprwydd i'w weld yn amlwg.
Mae olion o graffiti hefyd a gafodd eu gosod yno gan "blant o'r ysgol leol yn ystod yr wythdegau a'r nawdegau", meddai Mr Troughton.
Ac er nad oes modd i unrhyw un fynd i mewn i'r twnnel heb wahoddiad (mae drws cadarn â chlo arni o flaen y twnnel) mae modd gweld y fynedfa o hyd ar y llwybr sy'n arwain o'r Llyfrgell at Ffordd Llanbadarn yn Aberystwyth.
Cafodd y teithiau i'r cyhoedd eu trefnu fel rhan o brosiect hanes cymunedol dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, o'r enw Aberystwyth a Rhyfel: Lleisiau Pobol Mewn Rhyfel 1939-1945.
Dyma ydy pen-llanw dwy flynedd o waith gan wirfoddolwyr a darlithwyr o'r Brifysgol.
"Mae'r cynllun hwn yn dilyn prosiect tebyg iawn wnaethon ni ar brofiadau pobl Aberystwyth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf," meddai Dr Siân Nicholas o'r Adran Hanes, sy'n arwain ar y prosiect.
"Y syniad ydy ein bod ni'n annog pobl leol i wneud eu gwaith ymchwil eu hunain, a'u cyflwyno nhw i Archif Ceredigion a'r archif sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol.
"Mae dros 50 o bobl yn cymryd rhan yn y prosiect, ac mae'r ymweliadau yma yn gyfle iddyn nhw i weld y twnnel drostyn nhw eu hunain," meddai, "cyn i'r prosiect ddod i ben yn swyddogol ym mis Mehefin."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021