Troseddu wedi cynyddu 8% yng Nghymru yn ystod 2021 - ONS

  • Cyhoeddwyd
Swyddog heddluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cynnydd o 20% mewn troseddau stelcian a gofnodwyd gan luoedd heddlu Cymru

Bu cynnydd o 8% yn nifer y troseddau a gofnodwyd yng Nghymru yn ystod 2021, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

O'r 256,945 o droseddau a gofnodwyd gan heddluoedd Cymru yn ystod 2021, roedd cynnydd o 20% mewn troseddau stelcian ac o 18% mewn troseddau rhyw, o'i gymharu â'r flwyddyn gynt.

Roedd hefyd cynnydd o 16% mewn troseddau yn ymwneud â thwyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron, gan gynnwys naid o 49% yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.

Y cynnydd cyfartalog mewn troseddau o'r fath ar draws Cymru a Lloegr oedd 14%.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu naid o 49% mewn troseddau twyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron yn ardal Heddlu Dyfed-Powys

Yn ystod y flwyddyn, wrth gwmpasu cyfnod y pandemig Covid-19, gwelwyd gostyngiad o 6% mewn lladrata ac o 11% mewn byrgleriaethau.

Ond roedd cynnydd o 27% yn nifer y troseddau a gofnodwyd yn Nyfed-Powys - gan gynnwys 38% mewn troseddau treisgar.

Bu cynnydd o 13% mewn troseddau yng ngogledd Cymru, tra bod troseddu wedi codi'n llai na chyfartaledd Cymru yn ardaloedd heddluoedd De Cymru a Gwent.

Y gyfradd droseddu ar gyfer Cymru oedd 81.1 fesul pob 1,000 o bobl, gyda'r uchaf yng ngogledd Cymru, sef 90.7. Mae hyn yn cymharu gyda'r cyfartaledd yn Lloegr o 85.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod 4% o droseddau difrifol yn ymwneud â chyllyll yng Nghymru, o'i gymharu â 6% yn Lloegr.

Roedd 130 o droseddau yn ymwneud â drylliau, sef cynnydd arall o 17%.

'Lefelau cyn-bandemig'

Mae'r ONS hefyd wedi darparu manylion ffigyrau'r Arolwg Troseddau - sy'n dangos cynnydd o 54% mewn troseddau twyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron ers cyn y pandemig, ond gostyngiad o 15% mewn lladrata ar draws Cymru a Lloegr.

Mae hefyd yn dangos bod troseddau a gofnodwyd yn symud yn ôl i lefelau cyn-bandemig erbyn mis Ebrill y llynedd.

Mae'n amcangyfrif bod 2% o oedolion yn debygol o brofi troseddau treisgar a llai na 22% o unrhyw drosedd.