Diswyddo heddwas yn dilyn achos cyhuddiadau ffug
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog heddlu o Abertawe a wnaeth cyfres o gyhuddiadau ffug am fyfyrwraig wedi cael ei ddiswyddo a'i atal rhag gwasanaethu eto yn y dyfodol..
Mae'r Cwnstabl Abubakar Masum, oedd gyda Heddlu De Cymru, yn aros i gael ei ddedfrydu wedi i lys ei gael yn euog ym mis Mawrth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Roedd wedi cyhuddo myfyrwraig 23 oed ar gam o werthu cyffuriau, cadw gwn a llofruddio 'gangster' o Albania.
Yn dilyn panel disgyblu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fe gafodd Masum, nad oedd yn bresennol, ei ddiswyddo.
Roedd yr achos yn ei erbyn yn Llys Y Goron Caerdydd wedi clywed bod ganddo "obsesiwn" gyda'r fyfyrwraig, a'i fod wedi gwneud cyhuddiadau ffug yn ei herbyn ar linell ffôn Taclo'r Taclau.
'Camymddygiad difrifol'
Gan gofnodi ei benderfyniad, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Jeremy Vaughan bod gweithredoedd Masum yn "gamymddygiad difrifol", a bod "dim lle i'r math yma o ymddygiad o fewn Heddlu De Cymru".
Ychwanegodd bod yr ymddygiad dan sylw'n "cynnwys rhagfwriad, cynllunio, targedu a chymryd camau bwriadol ac felly mae yna raddfa uwch o euogrwydd".
Penderfynwyd bod Masum wedi torri safonau'n heddlu o ran gonestrwydd, cyfrinachedd ac ymddygiad cywilyddus.
Bydd yn cael ei gyfeirio at y Coleg Plismona a'i roi ar restr sy'n ei atal rhag gwasanaethu eto fel swyddog heddlu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022