Dyngarwr lleol yn cyfrannu £500,000 i brosiect Theatr Clwyd
- Cyhoeddwyd

Agorodd y theatr yn 1976 ond bellach mae problemau wedi codi gyda'r adeilad
Mae Theatr Clwyd wedi cyhoeddi eu bod bellach wedi derbyn rhoddion o £3m fel rhan o'u cynlluniau i drawsnewid yr adeilad Rhestredig Gradd II gafodd ei adeiladu yn y 1970au.
Dywedodd llefarydd fod y rhoddion diweddaraf yn cynnwys £500,000 gan ddyngarwr lleol.
Mae'r theatr yn nhref Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint, wedi gosod nod o gasglu £5m o ffynonellau preifat fel rhan o'r cynlluniau adnewyddu uchelgeisiol gwerth £42m.
Yn ogystal â'r dyngarwr lleol, daeth £1.5m oddi wrth Sefydliad Moondance, £500,000 o Sefydliad Wolfson, £500,000 o Sefydliad Garfield Weston a £300,000 oddi wrth Sefydliad Esmée Fairburn.
Yn ôl y Theatr, y cyfanswm rhoddion o £3m hyd yma yw'r mwyaf o'u bath i unrhyw theatr yng Nghymru.

Sut mae disgwyl i Theatr Clwyd edrych ar ei newydd wedd yn dilyn y gwaith gwerth £42m
Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol Theatr Clwyd, Liam Evans-Ford: "Pan wnaethom gychwyn ar y siwrne yn 2017 roedd pobl yn dweud y byddai'n annhebygol y byddwn yn codi mwy na £2m o gyllid preifat ar gyfer theatr yng Nghymru.
"Diolch i gefnogaeth hael ein rhoddwyr rydym eisoes wedi cyrraedd £3m."
Llywodraeth Cymru sydyn cyllido mwyafrif y gost o £42m, gyda chyfraniadau hefyd wedi'i derbyn gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cwblhau'r gwaith ailddatblygu.
Y nod yw ailagor yn yr adeilad yn llawn yn ystod 2024.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022