Dwbl nifer y gigs ar ddau lwyfan ym Maes B eleni
- Cyhoeddwyd
Bydd dwywaith cymaint o fandiau na'r arfer ym Maes B eleni wrth i'r ŵyl gael dau lwyfan byw yn lle un.
Bydd llwyfan DJ yn yr ŵyl unwaith eto wrth i drefnwyr geisio helpu adfywio'r sin gerddoriaeth ar ôl effaith Covid-19.
Fel arfer, 16 o fandiau sy'n chwarae ar un o brif lwyfannau'r sin Gymraeg, ond yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Tregaron bydd tua 30 yn cael y cyfle.
Bydd dau lwyfan yn galluogi trefnwyr i fynd yn syth o un perfformiad byw i'r un nesaf heb ddisgwyl i'r cerddorion osod eu hoffer, a bydd llwyfan DJ ar wahân yn rhoi dewis o gerddoriaeth electroneg.
Dywedodd Elan Evans, sy'n rhan o dîm Clwb Ifor Bach sy'n trefnu'r ŵyl ar ran yr Eisteddfod: "'Dan ni wedi colli'r gynulleidfa mwy na dim byd a roedden ni just yn teimlo 'maen nhw wedi colli Maes B hefyd', so doedd e dim ond yn deg bod ni yn rhoi parti go iawn 'mlaen iddyn nhw.
"Hefyd mae 'na gymaint o artistiaid sy'n eistedd ar albyms sydd ddim wedi cael eu clywed lot gan gynulleidfaoedd byw so roedden ni'n awyddus iawn i allu rhoi cyfleodd i fandiau, ond yn amlwg gydag un llwyfan ma'n dod â'r niferoedd ti'n gallu bwcio reit lawr."
Bydd rhestr o'r bandiau sy'n chwarae ym Maes B, fydd yn digwydd rhwng dydd Mercher a dydd Sadwrn 3-6 Awst, yn cael ei rhyddhau yn fuan.
Mae mwy ar y stori hon yn ein herthygl gylchgrawn: Maes B: 'Mae am fod yn fwy ac yn well eleni’
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2022
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2021