Darganfod mynydd newydd ‘unigryw’ mewn chwarel yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr a tirfesurwr profiadol yn dweud ei fod wedi dod o hyd i fynydd newydd yn ardal Blaenau Ffestiniog, Eryri.
Cafodd y copa newydd ei asesu gan Myrddyn Phillips a'i ffrind, wedi wedi iddyn nhw sylweddoli arno o edrych ar fapiau topograffeg.
Mae'r copa yn gorwedd yn chwarel Graig Ddu uwchben y dref, ac fe gafodd ei greu yn dilyn gwaith ar y safle.
Yn ôl Mr Phillips mae'n "unigryw" felly yng Nghymru, fel yr unig gopa dros 2,000 troedfedd sydd wedi'i greu o waith pobl yn hytrach na bod yn un naturiol.
Mae Mr Phillips, sy'n byw yn Y Trallwng, yn mapio mynyddoedd ers blynyddoedd, ac wedi 'darganfod' sawl copa newydd eisoes wrth wneud.
Dywedodd fod y darganfyddiad diweddaraf wedi dod ar ôl i'w ffrind sylwi ar raddiant y mynydd mewn map ar-lein.
"Mae'r map ar-lein oedd yn dangos y copa newydd wedi profi'n gywir sawl gwaith, felly fe aethon ni ati i ymweld â bryniau cyfagos ers mwyn cadarnhau ei statws," meddai.
Y gred yw, meddai, fod y copa newydd wedi cael ei ffurfio wedi i waith cloddio yn y chwarel ddyfnhau'r bwlch rhwng brig y chwarel a chopa gogleddol Manod Mawr.
Roedd hynny'n golygu bod y copa'n gymwys i gael ei ystyried fel mynydd, gan ei fod yn 613m o uchder a bod y bwlch i'r copa nesaf yn disgyn 21m.
Mae felly yn cyrraedd y gofynion sy'n cael eu defnyddio yn rhestr Welsh Highlands ar gyfer mynydd (610m+, disgyniad o 15m+ cyn y copa nesaf) o drwch blewyn.
"I raddau mae pob mynydd a bryn yng Nghymru yn unigryw, ond mae rhai yn sefyll allan," meddai.
"Er bod nifer o gopaon a thopiau yng Nghymru wedi eu creu gan waith chwareli a chloddio, hyd y gwn i dyma'r cyntaf sydd wedi'i ganfod sydd dros 2,000 troedfedd.
"Felly mae'n wahanol iawn i unrhyw beth arall yn y wlad, ac mae wastad yn dda i ddarganfod copaon mynyddoedd fel hyn. Mae'n ychwanegu at ba mor gywir ydi'n rhestrau ni o fryniau."
Er bod Mr Phillips yn cydnabod fod gan rai pobl ddiffiniad gwahanol, neu gwestiynu a yw'r copa newydd yn edrych fel mynydd 'go iawn', mae'n hapus fod y darganfyddiad newydd yn un dilys.
"Dros sawl blwyddyn o gerdded bryniau Cymru dwi wedi canfod fod y disgyniad o 15m+ yn fesuriad sy'n gweithio'n dda ar gyfer [mesur mynyddoedd yn] ucheldiroedd Cymru," meddai.
Ychwanegodd bod nifer o esiamplau ar draws Cymru o fryniau newydd yn cael eu creu o waith diwydiannol, ac nad yw hynny'n golygu na ddylen nhw gael eu hystyried.
"Ond does dim un o'r rhain dros 2,000 troedfedd fel mae Chwarel Graig Ddu," meddai.
"Mae rhai pobl yn gweld y copaon hyn fel rhai artiffisial ac felly'n eu diystyru nhw o unrhyw restrau. Ond rydyn ni'n fwy sympathetig yn ein rhestrau ni ac yn eu cynnwys os ydyn nhw'n gadarn, sefydlog ac yn cwrdd a'r gofynion.
"Oherwydd ymyrraeth ddynol maen nhw'n bodoli, felly 'dyn ni'n portreadu eu bodolaeth."
Yn ogystal a'i waith ar fynyddoedd, roedd Myrddyn Phillips hefyd yn rhan o ymdrechion i fesur Ffordd Pen Llech yn Harlech er mwyn iddi gael ei chofnodi'n swyddogol fel y stryd fwyaf serth yn y byd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2019