Codi tâl o £7.50 i barcio ger Pen y Fan
- Cyhoeddwyd
Fe fydd angen i bobl sy'n teithio i ddringo Pen y Fan dalu £7.50 i barcio ym Mannau Brycheiniog yn y dyfodol agos.
Bydd angen i bobl sydd ddim yn aelodau o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru dalu i ddefnyddio maes parcio Pont ar Daf ger yr A470.
Ni fydd angen i aelodau dalu i barcio yno.
Bydd y tâl yn cael ei gyflwyno ar ôl cwblhau gwaith i wella cyfleusterau'r maes parcio wrth droed Pen y Fan, fydd yn dechrau yn yr haf.
Fe fydd y gwelliannau yn cynnwys 200 o lefydd parcio ychwanegol, mannau gwefru i gerbydau trydanol a thai bach i bobl anabl.
Mae'r ymddiriedolaeth hefyd yn gobeithio cyflwyno ardal arbennig i'r gwasanaethau brys, llefydd parcio i fysus a beiciau a mannau newid babis.
Mae disgwyl i'r gwaith ddod i ben yng ngaeaf 2022.
Mewn datganiad, dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Trwy gyflwyno tâl i barcio ym Mhont ar Daf yn y dyfodol, bydd modd codi arian sy'n allweddol er mwyn cynnal cyfleusterau a chwblhau gwaith cadwraeth pwysig ym Mannau Brycheiniog."
Mae tua 350,000 o bobl yn dringo Pen y Fan bob blwyddyn.
Dywedodd Alan Kearsley-Evans o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru fod gwella'r maes parcio yn "elfen allweddol" o'u cyfrifoldeb i ofalu am Fannau Brycheiniog a'r tir o amgylch Pen y Fan.
Ni fydd y gwaith yn tarfu rhyw lawer ar y maes parcio a'r cyfleusterau presennol, meddai'r ymddiriedolaeth, ac fe fydd yn cael ei gwblhau mewn modd cynaliadwy.
'Sefyllfa anodd'
Dywedodd Will Renwick, llywydd elusen Ramblers Cymru eu bod "yn croesawu opsiynau parcio mwy diogel a gwell cyfleusterau i gerddwyr, ond os codir tâl am barcio, byddem am i hyn gael ei ailfuddsoddi i wella llwybrau a mynediad yn yr ardal".
Fe ddisgrifiodd y sefyllfa'n un "anodd", sy'n amlygu'r pwysau "anghynaliadwy" yn ardal Pen y Fan yn y blynyddoedd diwethaf.
Nid yw'r elusen, meddai, "am weld unrhyw rwystrau sy'n atal pobl rhag mynd allan a mwynhau natur" ond mae niferoedd ymwelwyr â Phen y Fan "yn creu cryn dipyn o waith i gynnal ac atgyweirio llwybrau sydd wedi erydu, yn enwedig i'r copa o Bont ar Daf".
Mae'n galw am wella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys" opsiynau parcio a theithio i'r safle o Aberhonddu a Merthyr", ac yn pwysleisio bod "digon o leoedd gwych eraill i ymweld â nhw sy'n rhad ac am ddim" o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn rhan o drafodaethau ynghylch "lleihau niferoedd y cerbydau sydd wedi bod yn parcio'n anghyfreithlon ar hyd yr A470 er mwyn i bobl ddringo Pen y Fan".
Ychwanegodd: "Bydd y gwaith i wella'r cyfleusterau a nifer y llefydd parcio, gobeithio, yn lleddfu'r problemau a'r risgiau i bobl sy'n ymweld â'r ardal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2021
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2017