Ymgyrch tynnu cig coch o'r fwydlen ysgol yn 'ddi-sail'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch i geisio perswadio cynghorau sir i dynnu cig oddi ar fwydlenni ysgolion wedi cael ei gondemnio fel protest ddi-sail sy'n anwybyddu'r wyddoniaeth ddiweddaraf a safon cig coch Cymreig.
Mae'r grŵp ymgyrchu Animal Rebellion wedi dweud wrth Newyddion S4C mai'r nod yn y pen draw yw sicrhau nad oes cig yn rhan o fwydlenni ysgolion Cymru.
Er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, rhaid troi at ddeiet llysieuol, medden nhw.
Mae'r diwydiant amaethyddol a chefn gwlad wedi ymateb yn chwyrn gan ddadlau bod gan Gymru yr adnoddau naturiol i gynhyrchu cig o'r safon uchaf, mewn ffordd gynaliadwy.
'Yr unig ddyfodol yw dyfodol llysieuol'
Mae Animal Rebellion eisoes yn hawlio buddugoliaeth yn Rhydychen gan ddweud fod y cyngor sir yno wedi gwrando arnyn nhw a chyflwyno bwydlenni ysgol sy'n cynnig dim ond bwyd llysieuol am ddeuddydd bob wythnos.
"Ry'n ni credu bod pobl ifanc yn pryderu'n fawr am yr amgylchedd," meddai Dave France o'r mudiad.
"Ry'n ni hefyd yn gwybod fod amaethu yn cyfrannu at effeithiau newid hinsawdd a'r argyfwng amgylcheddol.
"Yr unig ddyfodol yw dyfodol llysieuol, dyna be mae'r wyddoniaeth yn ddweud wrthon ni.
"Mae'n newid hawdd i wneud ac fe fydd y genhedlaeth nesa' yn credu mai'r lle gorau i ddechrau yw yn ein hysgolion."
Cofio'r cyd-destun Cymreig
Daw'r ymgyrch ynghanol cryn anniddigrwydd yn Sir Benfro ymhlith amaethwyr ar ôl i'r cyngor sir yrru e-bost mewnol i'w staff yn dweud y gall bwyta llai o gig a chynnyrch llaeth helpu'r amgylchedd.
Mae'r e-bost wedi ei dynnu yn ôl bellach, ond mae'r cynghorydd sir John Davies yn anhapus fod y cyd-destun Cymreig yn cael ei anwybyddu bob tro.
Dywedodd: "Mae mwy o bobl yn dilyn y ffasiwn i fwyta llai o gig neu ddim cig ond yn anffodus heb edrych ar y gwyddoniaeth, sydd yn dweud fod angen cydbwysedd mewn unrhyw ddeiet ac yn enwedig ymhlith pobl ifanc a phlant."
Mae John Davies yn cydnabod bod amaethu yn niweidiol i'r amgylchedd, ond nid ymhob rhan o'r byd.
"Mae 'na gysylltiad, ond mae rhaid ei roi yn y cyd-destun cywir", meddai.
"'Peidiwch â bwyta cig coch' sy'n cael ei ddweud, ond mae angen gorffen y frawddeg: 'Peidiwch â bwyta cig coch sy'n dod o bellafion byd, fel de America'."
Systemau Cymru'n 'gynaliadwy'
Neges debyg sydd gan y corff Hybu Cig Cymru. Yn ôl eu prif weithredwr, Gwyn Howells mae ffermwyr Cymru'n cynhyrchu cig sydd ymhlith y mwyaf cynaliadwy drwy'r byd.
"Teg dweud bod 'na systemau ffermio cig eidion, weden i, sy' ddim yn gynaliadwy - yn nhermau de America neu Brasil, er enghraifft," meddai.
"Felly bydden i'n tueddu i gytuno fod amaethu yn medru bod yn wael ond mae'n hawdd iawn peintio'r un pictiwr ar bob gwlad, ond 'di hwnna ddim yn wir yn nhermau Prydain, a Chymru yn benodol."
Bwyta mwy o gig lleol yw neges Cynghrair Cefn Gwlad Cymru hefyd.
"Mae pobol fel Animal Rebellion yn rhoi llawer o bwysau ar gynghorau Sir, ac yn lobïo llywodraeth hefyd," meddai Rachel Evans.
"A ma' nhw am roi gore i ffermio anifeiliaid, a dechre trwy gael gwared ar gig coch o fwydlenni ysgolion. Dwi ddim yn meddwl y dylsen ni fwyta llai o gig, ond yn hytrach bwyta mwy o gig lleol.
"A ni'n credu mai rhieni ddylai benderfynu beth mae eu plant yn fwyta, nid cynghorau sir na llywodraeth."
Yn ôl llefarydd ar ran y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AS, mae 'na hyblygrwydd o fewn y drefn bresennol.
"Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i gynllunio eu prydau ysgol, yn seiliedig ar ein canllawiau statudol ar fwyta'n iach.
"Mae deiet llysieuol a figan yn ddewis i blant a phobl ifanc ac rydym yn rhoi cyngor i awdurdodau lleol ar sut i ddarparu ar gyfer y deietau hyn.
"Fodd bynnag, nid ydym yn cefnogi tynnu'r opsiwn cig oddi ar fwydlenni cinio ysgol yn llwyr."
Talu ffermwyr cynaliadwy?
Ond er y gwrthwynebiad mae Animal Rebellion yn bwriadu parhau â'u hymgyrchu.
"Dwi'n deall yr effaith all hyn gael ar Gymru yn enwedig Cymru wledig fel y rhan o Gymru rwy'n byw ynddo," meddai Dave France.
"Dyna pam nad ydyn ni am droi y tap i ffwrdd yn syth a gwneud i bobl ddiodde'.
"Ond mae llawer o ffermio ar hyn o bryd yn cael ei sybsideiddio - does 'na ddim rheswm pam na ellid defnyddio yr arian yma i dalu am ffyrdd mwy cynaliadwy o amaethu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019