AS Pen-y-bont ar Ogwr yn pledio'n ddieuog i bedwar cyhuddiad
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr, Jamie Wallis, wedi pledio'n ddieuog yn Llys Ynadon Caerdydd i bedair trosedd traffig.
Gwadodd iddo fethu â stopio, methu ag adrodd am wrthdrawiad ar y ffordd, gyrru heb ofal a sylw dyladwy a gadael cerbyd mewn safle peryglus.
Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â gwrthdrawiad hwyr y nos pan darodd car bolyn lamp yn Llanfleiddan, ger Y Bont-faen, ar Dachwedd 28, 2021.
Yn ystod y gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd dywedwyd wrth Mr Wallis y bydd ei achos yn cychwyn ym mis Gorffennaf.
Mr Wallis, 37, o'r Bont-faen ym Mro Morgannwg, oedd yr AS cyntaf i ddatgan, ddiwedd mis Mawrth, ei fod yn drawsryweddol.
Cafodd Jamie Wallis ei ethol i gynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiad cyffredinol 2019.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2021