Cynllun £1m i gael pobl ar eu beic yn hytrach na char

  • Cyhoeddwyd
E-feicFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth yn cydnabod fod beiciau trydan yn parhau'n rhy ddrud i nifer

Mae cynllun gwerth £1m wedi cael ei lansio er mwyn ceisio cael rhagor o bobl yng Nghymru i ddefnyddio beiciau trydan yn hytrach na cheir.

Mae'r cynllun yn benthyca e-feiciau am gyfnod mwy hirdymor am ddim i bobl sydd ddim yn seiclo yn rheolaidd, neu sy'n gweld cost beiciau o'r fath fel rhwystr i'w prynu.

Mae'r cynllun, sy'n cael ei redeg gan elusen Sustrans, wedi cael ei lansio mewn pum lleoliad i ddechrau - Abertawe, Aberystwyth, Y Barri, Y Drenewydd a'r Rhyl.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd hynny yn rhoi'r cyfle iddyn nhw gasglu data a fydd yn sail i argymhellion ynghylch y defnydd hirdymor o feiciau trydan a theithio llesol.

'Newid diwylliannol enfawr'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth, Lee Waters mai'r nod ydy sicrhau fod "cerdded a beicio yn dod yn ddewis arferol ar gyfer teithiau byrrach".

"Mae teithio llesol nid yn unig yn well i'n hamgylchedd, ond hefyd i'n hiechyd a'n heconomi," meddai.

"Rydyn ni'n gwybod y bydd hyn yn golygu newid diwylliannol enfawr a dyna pam rydyn ni'n buddsoddi mewn cynlluniau fel y cynllun peilot beiciau trydan i helpu pobl sydd erioed wedi beicio o'r blaen i newid eu dulliau teithio mewn ffordd fforddiadwy a chynaliadwy."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Mae teithio llesol nid yn unig yn well i'n hamgylchedd, ond hefyd i'n hiechyd a'n heconomi," meddai Lee Waters

Dywedodd Landen Sweeney, un sydd wedi elwa o'r cynllun, ei fod yn defnyddio ei feic ar gyfer ei daith ddyddiol o Hen Golwyn i'r Rhyl i'w waith.

"Gan fy mod yn byw yn Hen Golwyn byddwn fel arfer yn gyrru i'r gwaith, sy'n cymryd llawer mwy o amser nag y dylai oherwydd bod y ffyrdd yn brysur - yn enwedig yn ystod misoedd yr haf," meddai.

"Felly pan ges i gynnig y cyfle i fenthyg beic trydan i feicio i'r gwaith penderfynais fynd amdani.   

"Mae nid yn unig wedi arbed amser i mi ac wedi rhoi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i mi, ond mae wedi bod yn wych ar gyfer fy iechyd a lles hefyd."

'Wrth fy modd'

Un arall sydd wedi manteisio ar y cynnig ydy Marie Moore o Ruddlan.

"Mae'r beic gen i ers pythefnos bellach ac rydw i eisoes wedi teithio 130 milltir. Rydw i wrth fy modd!" meddai.

"Rydw i'n defnyddio'r car lawer yn llai aml ac felly rydw i'n gwario llawer iawn llai ar danwydd.

"Rydym yn ystyried o ddifrif gwerthu un o'n ceir a phrynu beic trydan yn ei le. Mae'n drueni nad ydynt ychydig yn fwy fforddiadwy!"