Cladin: 'Mae fel petai rhywun wedi dwyn £50,000'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gaerdydd yn teimlo'i fod wedi'i "dwyllo" ar ôl gwerthu ei fflat am £50,000 yn llai na'i werth, ar ôl i broblemau cladin ddod i'r amlwg.
Roedd fflat Leigh Faulkner, 54, ym Mae Caerdydd werth £175,000, ond cafodd ei werthu i gwmni sy'n buddsoddi mewn eiddo ym mis Mehefin am £125,000.
Penderfynodd Mr Faulkner i "dderbyn y golled" ariannol wrth werthu'r fflat oherwydd ansicrwydd dros ddarpariaeth cymorth gan y llywodraeth.
Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James ei bod yn cydymdeimlo'n fawr ag unigolion sydd wedi eu heffeithio gan broblemau'n ymwneud â chladin, ond bod darparu cymorth yn "gythreulig o gymhleth".
Mae cronfa Llywodraeth Cymru ar gyfer arolygon i gadarnhau pa waith atgyweirio sydd angen ar adeiladau'n derbyn ceisiadau o ddydd Iau.
Mae ymgyrchwyr yn rhwystredig oherwydd yr amser hir mae'n cymryd i Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa ariannol i ddatrys y problemau.
Daeth problemau cladin a diogelwch tân i'r amlwg mewn sawl adeilad fflatiau yng Nghymru yn dilyn trychineb Grenfell.
Mae nifer o lesddalwyr mewn blociau fflatiau wedi gweld hi'n amhosib gwerthu eu heiddo oherwydd bod benthycwyr arian yn anfodlon cynnig morgeisi am y fflatiau.
Maent hefyd wedi wynebu costau sylweddol am yswiriant ac i osod mesurau diogelwch tân dros dro.
'Anodd ei dderbyn'
Ar ôl byw yn Dubai am nifer o flynyddoedd, symudodd Mr Faulkner a'i deulu yn ôl i'w fflat yng Nghaerdydd yn 2019 tra'u bod nhw'n chwilio am dŷ.
Cyn i'r problemau cladin a diogelwch tân gael eu darganfod, credodd Mr Faulkner bod y fflat yn werth £175,000, ac fe gytunodd i gyfnewid y fflat fel rhan o gytundeb i brynu tŷ newydd yn Ninas Powys.
Ond cafodd y cytundeb ei atal ar ôl i'r problemau yn Victoria Wharf ddod i'r amlwg.
Gyda phryderon dros ddiogelwch a chostau gwasanaethu yn codi i £5,000 y flwyddyn, penderfynodd Mr Faulkner i werthu'r fflat mewn ocsiwn.
"Roedd hi'n benderfyniad anodd, o'n i eisiau cario ymlaen i raddau a gweld beth fyddai'n digwydd gyda'r datblygwr," meddai.
"Doedd dim byd positif yn dod gan Lywodraeth Cymru ar y pryd, oll oedden nhw'n 'neud oedd siarad."
"Felly'r ansicrwydd na'th orfodi ni i dderbyn y golled yn y diwedd.
"Dwi'n siŵr dydy 40,000 neu 50,000 ddim yn swnio'n lot i rai, ond i lawer o bobl mae colli cymaint yn hynod o boenus," ychwanegodd.
Trwy werthu'r fflat, roedd modd i'r teulu brynu tŷ ger Llanilltud Fawr, opsiwn rhatach o'i gymharu'r â'r tŷ roedden nhw eisiau yn Ninas Powys.
'Dwyn £50,000'
Dywedodd Mr Faulkner ei bod hi'n "anodd derbyn" ar ôl gadael ysgol gyda "llond law o TGAU" a threulio'i fywyd yn gweithio ac yn arbed arian.
"Mewn gwirionedd mae rhywun wedi dod a dwyn £50,000," meddai.
"Rydym wedi gwneud y pethau cywir, heb wario gormod o arian ar wyliau, dy' ni byth wedi gwario lot o arian.
"Mae'n teimlo fel bod rhywun wedi dod mewn a chymryd yr arian allan o fy nghyfrif banc."
Dywedodd un cwmni rheoli, sy'n gyfrifol am dri adeilad yng Nghaerdydd sydd wedi'u heffeithio gan broblemau cladin - gan gynnwys adeilad Leigh Faulkner - ei fod yn "awyddus" i Lywodraeth Cymru agor cronfa oherwydd bod gwaith arolygu wedi'i atal ar hyn o bryd.
Dywedodd Mary-Anne Bowring, prif weithredwr cwmni Ringley, bod y gwasanaeth tân yn gofyn am ddogfennau sydd heb eu cyflawni eto.
"Dyma ni yn gwthio yn erbyn y gwasanaeth tân ac yn dweud sut allwn ni rhoi e i chi nawr," meddai.
"Ni'n gwybod mewn mis dylai cronfa bod ar gael i roi hyd at £50,000 i gleientiaid ar gyfer y gwaith yma."
'Mae angen i ni ariannu'r pethau cywir'
Pan ofynnwyd pam mai dim ond nawr y mae Llywodraeth Cymru'n agor cronfa ar gyfer cynnal arolygon, atebodd y Gweinidog Tai, Julie James: "Oherwydd ei fod yn gythreulig o gymhleth, yw'r ateb byr.
"Does wnelo fe ddim â pha mor ddaer rydyn ni i helpu pobl gael eu hunain mas o'r sefyllfa yma.
"Nid ar chwarae bach y dywedaf, mae fy nghalon i'n mynd mas i'r bobl sy'n gaeth yn y sefyllfa hyn - mae'n ofnadwy.
"Ond mae angen i ni ei gael yn gywir, mae angen i ni beidio gwneud cawl ohono ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn ariannu'r pethau cywir.
"Mi wn ei fod yn ymddangos yn oeraidd i'r bobl mas yna sy'n byw gyda hyn o ddydd i ddydd, ond mae'n beth mor gymhleth i'w wneud ry'n ni eisiau ei wneud yn iawn,. Felly rwy'n falch i'w gyhoeddi a rydyn ni'n gobeithio nawr y bydd pobl yn ymgeisio'n syth."
Ychwanegodd Ms James y bydd "gwahanol fathau" o gyllid ychwanegol ar gyfer gwaith atgyweirio'n cael eu datblygu wrth i'r arolygon ddechrau cael eu cwblhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2019