Argyfwng cladin: Cynllun i werthu fflatiau i'r llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
cladinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae lesddalwyr yn wynebu ansicrwydd dros bwy sy'n gyfrifol am atgyweirio'r adeiladau yn y tymor hir

Mae'n bosib y bydd y rheiny sydd wedi'u taro waethaf gan yr argyfwng cladin yn gallu gwerthu eu fflatiau i Lywodraeth Cymru fel rhan o gynllun newydd.

Dywedodd y gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros lety, Julie James, y bydd y cynllun yn lansio'r flwyddyn nesaf.

Y nod fydd helpu "nifer fach" o bobl sydd mewn "caledi ariannol sylweddol" oherwydd costau cynyddol.

Ond dyw hi ddim yn amlwg eto pwy fydd yn gymwys, na beth fydd costau'r cynllun.

Ers i broblemau diogelwch tân mewn blociau o fflatiau ddod i'r amlwg yn dilyn trychineb Grenfell, mae nifer o lesddalwyr wedi ei chael hi'n amhosib gwerthu eu fflatiau.

Maen nhw hefyd yn wynebu costau cynyddol ar gyfer yswiriant a mesurau diogelwch dros dro, ac ansicrwydd dros bwy sy'n gyfrifol am atgyweirio'r adeiladau yn y tymor hir.

Yn siarad yn y Senedd awgrymodd Ms James y gallai'r cynllun gynnwys y rheiny sydd wedi methu â gwerthu eu fflatiau ar y farchnad agored am na fyddai eu gwerth yn gallu talu eu morgais yn llawn.

Awgrymodd hefyd y gallai pobl sydd wedi methu â thalu eu morgais hefyd fod yn gymwys.

Disgrifiad o’r llun,

Mae fflatiau Victoria Wharf ym Mae Caerdydd ymysg y rheiny wnaeth fethu profion diogelwch yn sgil trychineb Grenfell

"Mae 'na sawl math o galedi ry'n ni'n barod i'w hystyried," meddai.

Byddai pobl sy'n gwerthu eu fflatiau i'r llywodraeth yn gallu un ai aros yno fel tenant, neu "gymryd yr arian a dechrau eto rhywle arall".

"Rwy'n gwybod o siarad gyda nifer fawr o bobl y byddai 'na lot o ddiddordeb mewn cynllun o'r fath," meddai Ms James.

Ychwanegodd y byddai'r fflatiau yn cael eu prisio gan y swyddfa brisio - fel sy'n digwydd yn achos pryniant gorfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julie James y bydd y llywodraeth yn ystyried "sawl math o galedi"

Dywedodd Mark Habberfield o grŵp ymgyrchu Welsh Cladiators ei fod yn falch y bydd pobl sy'n wynebu mynd yn fethdalwyr neu'n profi problemau iechyd meddwl oherwydd y sefyllfa yn gallu cael cymorth.

"Ond rydyn ni'n bryderus am ddiffyg brys a diffyg amserlen, ac yn teimlo fod y sgandal yma yn cymryd yn llawer rhy hir i'w datrys," meddai.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar lety, Janet Finch-Saunders ei bod yn "allweddol" fod mwy o eglurder ar ba mor hir y byddai'r llywodraeth yn berchen ar y fflatiau, a "sut yn union y byddan nhw'n cael eu rheoli.

Galwodd Mabon ab Gwynfor o Blaid Cymru i'r llywodraeth ddatgan faint o bobl fydd yn gymwys ar gyfer y cynllun, a sut y bydd "caledi ariannol sylweddol" yn cael ei ddiffinio.

Mae cynllun ehangach gan y llywodraeth i dalu am arolygon ar adeiladau - a gafodd eu disgrifio fel "rhy ychydig ac yn rhy hwyr" gan ymgyrchwyr - wedi derbyn mwy na 100 o geisiadau, a dywedodd Ms James y byddai'r gwaith yna'n dechrau yn y flwyddyn newydd.

Fe wnaeth Ms James hefyd ategu ei galwad ar "ddatblygwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am wallau mewn adeiladau" i "gamu i'r adwy a gwneud mwy i ddatrys yr argyfwng".

Pynciau cysylltiedig