'Dylai defnydd cyffuriau fod yn fater iechyd cyhoeddus'

  • Cyhoeddwyd
Dr Richard Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dr Richard Lewis ei sylwadau ar raglen Politics Wales

Bydd marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru "yn parhau i gynyddu" oni bai bod yr awdurdodau'n dilyn trywydd gwahanol, yn ôl prif gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys.

Mae Dr Richard Lewis yn credu y dylid trin problemau cyffuriau fel mater iechyd cyhoeddus yn hytrach nag un trosedd cyfiawnder.

Dywedodd y dylid ystyried tystiolaeth ynghylch dad-droseddoli cyffuriau o wledydd eraill ond bod hynny'n "fater gwleidyddol".

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Bydd ein strategaeth 10 mlynedd yn gostwng y galw am gyffuriau wrth i ni ymateb yn llymach i gyflenwyr.

"Ry'n hefyd yn cydnabod pwysigrwydd partneriaethau lleol i ddelio gyda'r defnydd o gyffuriau ac mae ein strategaeth yn rhoi cryn bwyslais ar driniaeth a gwasanaethau adfer - mae £780m ychwanegol wedi ei neilltuo yn ystod y tair blynedd nesaf ar gyfer hyn ac mae'r llywodraeth hefyd yn buddsoddi £300m i ddelio â chyflenwyr yn ystod yr un cyfnod."

Yn 2020, fe gafodd 224 o farwolaethau gwenwyn cyffuriau eu cofnodi yng Nghymru, ac roedd 77% o'r rhain yn gysylltiedig â heroin a morffin.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae marwolaethau'n ymwneud â cynnwys chocên ar gynnydd, gan gyfateb i 15% o'r holl farwolaethau yn ymwneud â chamddefnydd cyffuriau yn 2020.

Mewn cyfweliad ar raglen Politics Wales, dywedodd Dr Lewis: "Er gwaethaf rhai llwyddiannau nodedig o ran atafael, rydym yn dal i weld y cyffuriau hynny ar y stryd.

"O siarad â nifer o bobl sy'n gaeth i heroin… gofynnais i un: 'Gynted â rydym ni'n rhoi stop ar eich deliwr, pa mor fuan yw hi cyn i chi allu cael gafael ar gyffuriau?' ac fe atebodd: 'Yr un diwrnod'.

"Os rydyn ni'n parhau i wneud pethau yr un ffordd â'r 50 mlynedd diwethaf… byddwn yn gweld yr un canlyniadau a bydd niferoedd y marwolaethau yn parhau i gynyddu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae maer Llundain, Sadiq Khan wedi sefydlu grŵp i ystyried a ddylid dad-droseddoli canabis.

Gofynnwyd i Dr Lewis a yw'n cefnogi'r egwyddor o ddad-droseddoli'r defnydd personol o gyffuriau ar gyfer defnydd personol - cam sy'n bolisi mewn gwledydd fel Portiwgal. Atebodd: "Dydw i ddim yn mynd mor bell â hynny.

"Rwy'n credu y gall dau beth fod yn wir ar yr un pryd. Rwy'n credu y gallwn ni gael agwedd iechyd cyhoeddus at bobl sy'n dioddef camddefnydd cyffuriau, pobl sy'n gaeth, ac fe allwn ni ymateb trwy'r system cyfiawnder troseddol yn achos pobl sy'n gwerthu cyffuriau yn ein cymunedau.

"Ond mae'n bwysig ein bod yn cymryd tystiolaeth o wledydd eraill.

Ychwanegodd bod pwerau'r heddlu i stopio ac archwilio pobl yn "tynnu cyffuriau o'n strydoedd ac mae hynny'n arwain at euogfarnau a charchar i'r rhai sy'n troseddu".

Trefn stopio ac archwilio'n 'annigonol'

Mae ymchwil Prifysgol Caerdydd wedi darganfod fod pobl ddu yn fwy tebygol o gael eu stopio gan yr heddlu.

Yn ôl data ar gyfer 2020/21, roedd 56 o bob 1,000 person du wedi cael eu stopio a'u harchwilio yng Nghymru, o gymharu â 28 i bob 1,000 person o gefndir ethnig cymysg, 16 o bob 1,000 person Asiaidd, ac wyth i bob 1,000 o bobl gwyn.

Ffynhonnell y llun, Cleveland Police
Disgrifiad o’r llun,

Mae stopio ac archwilio cerbydau yn gweithio, medd Richard Lewis - ond mae angen tactegau eraill yn ogystal

Yng Nghymru, mae gan yr heddlu hawl i stopio ac archwilio person neu gerbyd os oes "sail resymol" i amau fod person yn cario cyffuriau anghyfreithlon neu arf. Ond mae Adran 60 yn caniatáu'r fath archwiliadau heb fod angen "sail resymol".

Dywedodd Richard Lewis: "Mae stopio ac archwilio yn gweithio - cafodd 16,000 o gyllyll ac arfau eu tynnu o'r strydoedd y llynedd drwy dactegau stopio ac archwilio.

"Mae tynnu unrhyw gyllell o'r stryd yn ganlyniad da… ond ni fyddai'n effeithiol petai stopio ac archwilio yw'r unig ymateb cyfiawnder troseddol."

Ychwanegodd: 'Mae'n bwysig dweud bod y ffigurau anghyfartal hyn bellach yn gostwng ac mae hynny'n ganlyniad, rwy'n meddwl, o'r gwaith rydym wedi'i wneud gyda swyddogion heddlu i sicrhau eu bod yn hyfforddi'n ddigonol, yn deall rhagfarn a thuedd anymwybodol."