Dyn yn cyfaddef iddo ladd Lily Sullivan, 18, yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Cafodd corff Lily Sullivan ei ganfod yn oriau mân 17 Rhagfyr
Mae dyn wedi cyfaddef iddo ladd dynes 18 oed yn Sir Benfro fis Rhagfyr diwethaf.
Cafwyd hyd i gorff Lily Sullivan ym Mhenfro ar 17 Rhagfyr.
Mewn gwrandawiad ddydd Llun fe wnaeth Lewis Haines, 31 oed o Landyfái, Sir Benfro, bledio'n euog i ddynladdiad.
Ond penderfynodd yr erlyniad y byddant yn bwrw 'mlaen ag achos o lofruddiaeth, a fydd yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Abertawe ar 20 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2021