Pryder bod efengylwr 'homoffobig' yn cael llwyfan yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Franklin GrahamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Franklin Graham yn fab i'r diweddar Billy Graham

Mae'n "ofid" i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford bod efengylwr o'r Unol Daleithau yn mynd i gynnal digwyddiad mewn canolfan gynhadledd sy'n eiddo'n rhannol i Lywodraeth Cymru.

Mae Franklin Graham, wnaeth ddweud bod priodas hoyw yn bechod, yn dod â'i daith God Loves You Tour i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn.

Mae'r llywodraeth yn berchen ar y ganolfan ar y cyd â'r Celtic Manor.

Wrth ateb cwestiwn yn y Senedd, fe ddywedodd y Prif Weinidog nad ydy'r llywodraeth yn rhedeg y safle nac yn gyfrifol am y digwyddiadau yno.

Fe gafodd ymweliad Mr Graham ei ganslo yn 2020 yn sgil ei farn ar gyfunrywioldeb.

'Nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol'

Yn y Senedd brynhawn Mawrth dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Mae gan Mr Graham hawl i'w gredoau homoffobig ond yn sicr ni ddylai gael llwyfan i'w rhannu mewn canolfan sy'n 50% eiddo i Lywodraeth Cymru."

Gofynnodd a yw ymddangosiad Mr Graham yn cyfleu mai'r neges o Gymru yw bod "homoffobia a chasineb yn parhau i fod yn dderbyniol".

Dywedodd y prif weinidog: "Mae'n ofid i mi fod y digwyddiad y mae Adam Price wedi ei gyfeirio ato yn mynd yn ei flaen ond nid Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu.

"Nid ni sy'n rhedeg y ganolfan ac mae e fyny i'r rhai sy'n gyfrifol i wneud y penderfyniadau hynny.

"Dwi'n flin bod person sydd â chredoau o'r fath yn cael llwyfan i'w rhannu nhw yma yng Nghymru ac yn bendant dydyn nhw ddim yn adlewyrchu yr hyn y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i'w gymeradwyo."

Disgrifiad o’r llun,

Jake Daniels,17, yw'r pêl-droediwr proffesiynol cyntaf i ddweud yn agored ei fod yn hoyw

Yn ystod y trafodaethau yn y Senedd fe wnaeth y ddau wleidydd roi teyrnged i Jake Daniels, 17 - y pêl-droediwr proffesiynol cyntaf i ddweud yn agored ei fod yn hoyw.

"Mae e'n ddyn ifanc dewr iawn," medd Mr Drakeford.

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gynllun "sy'n anelu i'n gwneud yn wirioneddol gyfeillgar i bobl LHDTC+".

Dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru ei bod wedi "cael sicrwydd gan Gymdeithas Efengylaidd Billy Graham na fydd cynnwys y sioe God Loves You Tour yn mynd yn groes i reolau'r DU ac na fydd y Parchedig Franklin Graham yn siarad yn erbyn unrhyw un nag unrhyw grŵp o bobl".

Fe fydd ei neges, medd llefarydd, yn un fydd yn "arddangos cariad Duw ac yn un na fydd yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un".