Eluned King: Seren newydd seiclo yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Yn 19 oed ac yn wreiddiol o Abertawe, mae Eluned King yn prysur wneud enw mawr iddi hi'i hun o fewn peloton seiclo menywod.
Mae wedi bod yn rhan o dîm Prydain ers yn 16 oed, ac eisoes wedi cael blas ar rasys ieuenctid uchel eu parch ar y cyfandir. A hithau yn ei blwyddyn gyntaf fel beicwraig broffesiynol lawn-amser yn lifrai tîm Wahoo-Le Col, mae 2022 hyd yn hyn wedi bod yn rhywfaint o fedydd tân iddi.
"Mae'r cam i fyny o rasio ieuenctid neu rasio ym Mhrydain i gymharu gyda rasio ar y cyfandir yn enfawr," meddai Eluned King.
"I gymharu gyda 80km rydw i'n rasio 160km yn aml nawr, ond rwy'n credu mai'r gwahaniaeth mwyaf yw'r nifer o bobl ar y lefel uchaf. Mae pob tîm yn gystadleuol, pe bai'n rasio i fod yn y dihangiad neu i fod yn y tîm cyntaf mewn i sector neu ddringfa.
"Ar y lefel uchaf yn amlwg dim ond ryw 10 beicwraig sy'n gallu ennill y rasys mwyaf, ond ar y lefel is mae pawb yn ysu i dorri mewn i'r grŵp yma, ac yn y diwedd mae lefel cyffredinol y peloton yn cynyddu.
"Rydw i'n ymwybodol y bydd yn galed i gystadlu ar y lefel uchaf am y blynyddoedd nesaf ond gyda pheth gwaith, a gobeithio peth lwc hefyd, bydda i'n gallu bod yn gystadleuol rhywbryd yn y dyfodol."
Datblygiad
I feicwraig ifanc fel Eluned, mae amgylchedd dda o fewn y tîm yn hollbwysig, gan osod sylfaeni cadarn tra'n parhau i ddatblygu ei gallu.
"Mae'r tîm yn lle gwych i ddatblygu fel beicwraig ifanc ond hefyd fel unigolyn ac mae pawb mo'yn codi safon pawb o'i gwmpas. Mae'r staff mo'yn bod yn fwy a fwy proffesiynol bob blwyddyn ac yn gwneud popeth maen nhw'n gallu i wneud yn siwr ein bod ni fel beicwyr yn y lle gorau yn gorfforol ac yn feddyliol," meddai.
"Mae aelodau mwy profiadol o'r tîm yn hoffi helpu llawer, gyda chyngor am bob dim. Y peth mwyaf pwysig i fi yw bod dim gormod o bwysau ar ganlyniadau ond ar ddatblygiad."
Fel ym mhob camp, mae'r peloton yn llawn o gymeriadau gwahanol, sydd â gwahanol lefel gallu ac arbenigedd i gyd-fynd ag ystod eang ac amrywiol o rasys sy'n llenwi'r calendr.
Ym misoedd y gwanwyn, mae cyfle i rai sy'n arbenigo mewn rasys undydd serennu, yn enwedig y rhai coblog yng Ngwlad Belg a Gogledd Ffrainc. Cafodd King y cyfle i rasio'r mwyaf ohonyn nhw i gyd yn gynharach eleni, ras sy'n cael ei galw'n Uffern y Gogledd - Paris-Roubaix.
'Profiad arbennig'
"Roedd Roubaix yn wych, yn anffodus 'nes i gwympo cyn y sector gyntaf o goblau ac fe wnes i gael anaf i fy llaw ac i fy asennau. Roedd dal 90km i rasio; fe wnes i feicio rhan fwyaf o'r ffordd i'r felodrom ar ben fy hunan, yn pasio rheiny oedd hefyd wedi cael peth anlwc ond oedd yn camu bant o'u beiciau.
"Dyna'r poen mwyaf dwi wedi cael ar y beic ac roedd adegau lle doeddwn i ddim yn meddwl 'mod i'n mynd i orffen. Ond roedd y dorf yn anhygoel; roedd wal o sŵn ac fe wnaeth gymaint o bobl ddod i weld y ras. Roedd y profiad yn arbennig, ac rwy'n credu yn y blynyddoedd nesaf bydd y dealltwriaeth yma o'r ras yn talu.
"Mae'r rasio ym Mhrydain a Gwlad Belg wir yn fy siwtio i gan fy mod i'n hoffi rasys caled sydd yn nodweddiadol o'r gwledydd yma, ond rydw i hefyd mo'yn gweld siwd gallai ddatblygu yn y rasys aml-gymal gan fy mod i heb 'neud un eto ar y lefel proffesiynol."
Mae amser yn sicr ar ei hochr, a digonedd o gyfleon i sefydlu rasys sy'n gweddu i'w rhinweddau. Gall hynny ddechrau'r tymor hwn, â hithau eisoes yn holliach o'r anafiadau gafodd yn Roubaix.
"O ran fy amcanion, rydw i mo'yn rasio'r Team Pursuit a'r Road Race yn Ngemau'r Gymanwlad, gyda'r gôl fwyaf ar y Road Race i fi yn bersonol. Mis nesaf mae Pencampwriaeth Prydain ar yr heol; rydw i mo'yn ennill y Crit a chael canlyniad da yn y Road Race hefyd.
"Ar ôl yr haf 'sai wedi cael cyfle eto i weld beth hoffwn i anelu ato, ond mae eleni i gyd amdano dysgu gymaint â rwy'n gallu a chael profiad yn y rasys mwyaf ar y calendr."
Blwyddyn gyffrous i seiclo menwyod
Mae eleni'n flwyddyn hynod gyffrous yn peloton y menywod, gan nodi newydd ddyfodiad y Tour de France i ferched. Er fod fersiynau elwyd yn gyfatebol wedi bodoli'n y gorffennol, a'r Gymraes Nicole Cooke yn ennill yn 2008, mae hwn yn dod fel rhan o don newydd sy'n gyrru seiclo menywod i uchelfannau o'r newydd; darlledu hawdd ei gyrraedd a rasys mawr ei bri yn sefydlu.
"I feicio menywod mae'r ras yn grêt, ac yn hynod bwysig i ddatblygiad y chwaraeon yn gyffredinol. Mae'n teimlo fel cam enfawr i'r peloton i gyd, a rwy'n gwybod bod pawb yn y tîm yn edrych ymlaen i fod yn rhan bach o'r hanes.
"Mae teimlad o newid yn y peloton ar y foment, yn enwedig gyda'r timau World Tour yn dod 'mewn, a mwy o reolau i edrych ar ein hôl ni. Gyda chamau fel cyflog minimwm, rheolau i wneud gydag absenoldeb mamolaeth a mwy o rasys mawreddog, mae'r chwaraeon yn mynd o nerth i nerth."
A'r chwyldro'n dod ar ddechrau ei gyrfa, mae dyfodol disglair o'i blaen.