Brwydro canser yr ymennydd yn 7 oed

  • Cyhoeddwyd
Indeg RobertsFfynhonnell y llun, Lluniau Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Indeg Roberts ar ei ffrâm chwarae yn ei gardd ym Mhenrhyn Llŷn

"Di rhywun byth yn meddwl ei fod o yn mynd i ddigwydd iddyn nhw rhywsut."

Ym mis Mehefin 2020 fe ddechreuodd Indeg Roberts, sy'n 7 oed o Rhoshirwaun ym Mhen Llŷn, gael cur yn ei phen a phyliau o gyfogi.

Fe barodd am ryw bythefnos cyn gwella am gyfnod ond fe ddychwelodd y salwch ac erbyn mis Hydref y flwyddyn honno fe waethygodd i'r pwynt ble roedd hi'n cyfogi bob diwrnod.

Pan ddaeth mis Tachwedd, er iddi barhau i wynebu'r ysgol, roedd Indeg yn amlwg yn dechrau colli pwysau a'i balans a dyna pryd gwyddai ei mam, Ceri Roberts, fod rhywbeth mawr o'i le.

Ffynhonnell y llun, Lluniau Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Indeg Roberts a Ceri Roberts yn eu cartref ym mis Mai, 2022

"Wnaeth y doctor ei gweld hi ac roedd o wedi synnu ei bod hi wedi colli cymaint o bwysau," meddai Ceri Roberts.

"Wnaeth o yrru hi yn syth i Fangor, a dwi'n cofio'r noson honno dyma nhw yn mynd â hi am CT scan. Roeddwn wedi darllen fyny fy hun a medda fi wrth y nyrs 'mod i yn gwbod yn union am be maen nhw'n chwilio."

Dangosodd y sgan yn Ysbyty Gwynedd, Bangor fod gan Indeg Ependymoma, sef math prin o ganser ar yr ymennydd.

"Yn amlwg roeddwn i wedi amau brain tiwmor ond dydi rhywun byth yn meddwl ei fod o yn mynd i ddigwydd iddyn nhw rhywsut."

Disgrifiad,

'Y person cryfaf yn hyn i gyd ydy Indeg'

'Byd yn troi ben i lawr'

"Wnaeth y byd troi ben i lawr deud gwir a nes i jest colapsio ar y llawr. Oddo'n teimlo fel rhyw fath o out of body experience," meddai Ceri.

O'r pwynt hwnnw fe ddechreuodd taith heriol i Indeg, Ceri a'i theulu. Yng nghanol haf locdown 2020 gadawodd y ddwy eu cartref yng nghefn gwlad Llŷn am Lerpwl a Manceinion. Mae'r daith honno o ben pellaf Llŷn i ogledd Lloegr wedi dod yn un cyfarwydd iawn i'r ddwy dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Aethon ni yn yr ambiwlans i Alder Hey yn Lerpwl a fanna fuon ni am fis. Gafodd hi brain surgery i dynnu'r tiwmor allan o'i phen... Roedd hi'n gorfod ail ddysgu cerdded a byta ac roedd hi yn gorfod buildio ei hun 'nôl fyny ar ôl colli pwysa," meddai Ceri.

"Ar ôl dod adra am 'chydig ddyddiau roedd rhaid i ni fynd i Fanceinion. Ac yn fanna gafodd hi ddau fis o broton radiotherapi- sef radiotherapisy'n targedu mwy ar yr area lle mae'r canser wedi bod."

Ffynhonnell y llun, Lluniau Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Indeg yn yr ysbyty yn derbyn ei thriniaeth. Mae Ependymoma yn ganser sy'n effeithio o gwmpas 30 o blant y flwyddyn ym Mhrydain yn ôl Cancer Research UK

Yn lwcus iawn fe lwyddodd y doctoriaid a'r llaw-feddygon i gyrraedd at y tiwmor cyfan pan wnaethon nhw'r llawdriniaeth.

"Roeddan ni yn byw yn Manchester am ddwy fis yng nghanol y locdown. Dwy o ganol y wlad ym Mhen Llŷn mewn dinas fel Manceinion yng nghanol hyn i gyd... roedd o'n anodd ofnadwy.

"Wedyn yn syth o hynny roedd hi'n dechrau ar y cemotherapi yn Lerpwl. Roeddan ni'n dwy yn mynd bob yn ail bob rhyw dair wythnos i gael y therapiam ryw dri, pedwar diwrnod. Ar ôl dod adra ar ôl sesiwn mi fysa hi yn mynd i ysbyty Gwynedd i gael transfusions gwaed ac i gadw ei lefelau gwaed hi'n iawn."

'Anodd egluro i blentyn'

Gydag Indeg yn un o bedair roedd y baich yn drwm ar Ceri a'r tad a roedd cymhlethdod canser yn un anodd i'w egluro i'r chwiorydd.

Meddai Ceri: "Roedd o'n anodd egluro i blentyn. Mae'r gair canser yn ddigon rili. Mae gan Indeg dair chwaer - Mared, Elliw a Siwan, ag yn amlwg roedd o'n amser anodd iawn dim jest i Indeg, dim jest i fi, dim jest i'w thad hi ond i ni gyd fel teulu.

Ffynhonnell y llun, Lluniau Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ceri Ann Roberts, sy'n fam i bedair merch 5, 7, 11 a 13 oed. Bu rhaid i chwiorydd Indeg fyw heb eu chwaer a'u mam am gyfnodau hir iawn

"Y ffordd es i o'i chwmpas i oedd deud fod gan Indeg lwmpyn yn debyg i garreg yn ei phen a bod y doctor am ei dynnu fo i ffwrdd ac y basa hi yn gorfod cael triniaeth a ffisig, neu'r "superpowers" 'ma fel oni'n deud ym Manceinion, i wneud yn saff fod y garreg ddim yn dod yn ei ôl.

"Dwni'm sut maen nhw di gwneud o ddeud gwir, mae pawb wedi bod mor dda adra. 'Dan ni'n byw yn bell o bob man a 5 oed ydi Siwan y fenga'. Maen nhw wedi gorfod jest cario mlaen."

Ansicrwydd

Gyda'r math o ganser sydd gan Indeg mae posibilrwydd iddo ddychwelyd o fewn y pum mlynedd gyntaf sy'n gadael popeth "yn hollol ansicr."

Fe dderbyniodd y cemotherapiolaf ym Mehefin 2021, roedd ei sgan diweddaraf yn glir, ac roedd y doctor yn hapus gyda'r canlyniadau. Ond mae'r ansicrwydd yn dal yn bresennol i Ceri a'i theulu a bydd y teithiau i Lerpwl yn parhau am y pum mlynedd nesaf.

Ffynhonnell y llun, Lluniau Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Derbyn prawf gwaed yn yr ysbyty. Mae Ependymoma yn fwy cyffredin mewn plant o dan 5 oed, sef oedran Indeg pan gafodd hi'r diagnosis

"Does neb byth yn gwybod be ddaw fory nagoes," meddai Ceri. "Pan aethon ni am y sgan wythnos dwytha' roedd y genod yn gofyn 'dachi'n dod adra heno mam?' a dwi'n amlwg yn poeni fy hun wrth feddwl os dwi'n dod adra heno - dwi'm yn gywbod be fydd canlyniad y sgan 'ma.

"Ond oedd raid i ni jest 'neud o, 'dan ni jest yn mynd i dynnu llun a bod yn gryf. Dyna'r unig ffordd roeddan ni'n gallu cario 'mlaen a byw bywyd o ddydd i ddydd."

'Wedi dygymod efo bob dim'

"Y person cryfaf drwy hyn i gyd ydi Indeg ei hun. Mae hi wedi dygymod efo bod dim, mae hi wedi deud wrth y staff be mae hi'n mynd i wneud a be dydi hi ddim.

"Mae hi 'di tynnu ei dressings ei hun, mae hi 'di helpu iddyn nhw dynnu gwaed... a dwi'n meddwl ei fod o wedi helpu Indeg i gario 'mlaen ac mae hi wedi dod drwyddo fo mor dda.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Pan aeth elusen Make a Wish at Indeg roedd hi yn gwybod yn union be roedd hi eisiau...

"Tra'n yr ysbyty, roedd Indeg yn mynnu cael mynd i'r parc a roeddan ni yn gorfod gofyn caniatâd y nyrsys achos roedd 'na Covid. Ond roedd hi'n cael mynd i'r parc cyn mynd yn ôl ar y ward a chael y cemo.

"Ac wedyn pan ddaeth elusen Make a Wish mewn cysylltiad a gofyn be fasa Indeg yn licio cael, 'Dwi'n gwbo be dwi isio,' medda hi."

"Treehouse a ffrâm ddringo a swings iddi hi ei hun gael chwara'. Ac mae hi newydd gael y ffrâm 'ma a 'dan ni wrthi rŵan ddydd a nos."

Pynciau cysylltiedig