Nifer y padlfyrddwyr sy'n mynd i drafferthion wedi dyblu

  • Cyhoeddwyd
PadlfyrddwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithgareddau fel padlfyrddio a chaiacio wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diweddar

Mae rhybudd i bobl fod yn fwy gofalus wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr.

Daw wedi i raglen Newyddion S4C ddarganfod bod achosion o bobl sy'n mynd i drafferthion wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae gweithgareddau fel padlfyrddio a chaiacio wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diweddar.

Ond, gyda hynny mae mwy o bobl yn gorfod cael eu hachub o sefyllfaoedd peryglus.

Ar ôl profiad dychrynllyd ar y môr rai blynyddoedd yn ôl, y gronfa ddŵr ydy'r unig le mae Cory Owens yn teimlo'n ddiogel ar ei badlfwrdd.

Ffynhonnell y llun, Cory Owens
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cory Owens a'i chwaer fraw wrth badlfyrddio ar y môr

"Cwpl o flynyddoedd yn ôl aeth chwaer fi a fi mas ar y môr ar y paddleboards. Fe 'naethon ni rentu nhw a 'wedodd y dyn bod y conditions yn iawn," meddai.

"Fe aethon ni mas mewn un direction yn iawn ond oedden ni ffaelu dod nôl wedyn. Oedden ni'n trio ond methu symud lot.

"Roedden ni'n chwifio i mam a dad i gael help, ond roedden nhw'n meddwl mai jyst chwifio helo oedden ni i ddechrau.

"Fe n'ethon nhw sylwi wedyn bod ni isie' help ac fe ddaeth dyn mas ar jetski i'n helpu.

"Roedd e'n brofiad scary. Chi jyst yn meddwl am y gwaethaf a ma'r meddyliau yma yn mynd trwy'ch pen chi."

Dydy profiad Cory ddim yn anghyffredin. Mewn blwyddyn fe gynyddodd nifer y bobl gafodd eu hachub yng Nghymru 22% rhwng 2020 a 2021.

Mae ffigyrau Sefydliad Brenhinol y Badau Achub yn cynnwys pobl aeth i drafferthion wrth wneud amryw o weithgareddau dŵr - o hwylio i fod ar feiciau dŵr.

Ar gyfer y rhai ar badlfwrdd, fe wnaeth i ffigwr fwy na dyblu o 15 i 32.

Digwyddiad trasig Hwlffordd

Diwedd yr hydref y llynedd fe ddaeth un achos i ddiweddglo hynod o drasig, ar ôl i bedwar person farw ar Afon Cleddau yn Hwlffordd tra'n padlfyrddio.

Bu farw Paul O'Dwyer, 42 o Aberafan, Morgan Rogers, 24 o Ferthyr Tudful, a Nicola Wheatley, 40 o Bontarddulais, yn yr afon.

Wythnos yn ddiweddarach, ar 5 Tachwedd, bu farw Andrea Powell, 41 o Ben-y-bont ar Ogwr, yn Ysbyty Llwynhelyg.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tirion Dowsett mai'r nod ydy "atal pethau rhag digwydd cyn iddyn nhw ddigwydd"

Ar draeth Aber-porth ar lan Bae Ceredigion, mae'r môr yn dawel, ond mae achubwyr bywyd yma yn paratoi at haf prysur arall.

"Mae llawer mwy o bobl wedi dod i'r traeth lawr fan hyn yng Ngheredigion yn y blynyddoedd diwethaf," meddai Tirion Dowsett, goruchwylydd achubwyr bywydau gyda Sefydliad Brenhinol y Badau Achub.

"Mae llawer mwy o bobl yn defnyddio pethau fel padlfyrddau a caiacs ar y traeth.

"Ni'n brysur iawn. Ni'n trio siarad gyda phob un sy'n mynd mewn i'r môr. Ein bwriad ni yw ceisio atal pethau rhag digwydd cyn iddyn nhw ddigwydd yn y môr."

Mae'n dweud mai'r cyngor pwysicaf os yn defnyddio padlfwrdd neu gaiac yw gwisgo siaced bywyd a mynd â ffôn symudol neu radio gyda chi i alw am help pe bai angen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Pinner yn dweud bod paratoi ar gyfer amodau sy'n newid yn gyflym ar y môr yn hanfodol

Cadw'n ddiogel cyn mentro ar y môr ydy'r neges felly - un sy'n cael ei ategu gan yr hyfforddwr awyr agored Rhys Pinner o gwmni Cardiff Paddleboard and Kayak.

"Dwi'n gweithio mewn lot o lefydd gwahanol, dwi'n gweithio ar y môr, ar afonydd ac mae'r amodau o hyd mor wahanol," meddai.

"Ewch am wers, mae 'na lot o gwmnïau ar hyd Cymru sy'n rhedeg gwersi. Mae 'na lot o adnoddau ar-lein hefyd."

Pynciau cysylltiedig