Iechyd meddwl: Mam yn dweud fod ysbyty wedi 'methu' ei merch

  • Cyhoeddwyd
Lowri MillerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lowri Miller o drafferthion gyda'i chalon ar ôl cymryd cymysgedd o gyffuriau

Mae mam sy'n galaru yn dweud fod gwasanaeth iechyd meddwl sydd bellach dan adolygiad wedi "methu'n llwyr" i ddelio ag achos ei merch.

Yn ôl Sue Miller, ni ddylai ei merch Lowri fod wedi cael ei rhyddhau o Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant. Bu farw'r diwrnod canlynol.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) bellach yn adolygu gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn dilyn cwestiynau ynglŷn â rhyddhau pobl o'r ysbyty.

Dywed y bwrdd iechyd y bydd yn ystyried unrhyw argymhellion.

Cwest: 'Dim bai ar yr ysbyty'

Bu farw Lowri, 32, o drafferthion gyda'i chalon yn nhŷ ffrind ar ôl cymryd cymysgedd o gyffuriau.

Fe wnaeth cwest gasglu nad oedd doctoriaid yn ymwybodol fod ganddi gynllun i ddod â'i bywyd i ben pan gafodd ei rhyddhau o'r ysbyty.

Fe wnaeth y crwner Graeme Hughes recordio casgliad naratif, gan ddweud na allai fod yn sicr fod Lowri wedi bwriadu dod â'i bywyd i ben, ac "nad oedd unrhyw gyfraniad i'w marwolaeth yn esgor o'r penderfyniad clinigol i'w rhyddhau o'r ysbyty".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ni ddylai Lowri fod wedi cael ei rhyddhau o'r ysbyty, yn ôl ei mam Sue

Mae teulu Lowri wedi'u siomi gan y casgliad, ac yn credu y bu methiannau yn ei gofal.

Clywodd y cwest fod Lowri wedi dweud wrth ei gweithiwr cymdeithasol nad oedd hi "eisiau bod yn fyw bellach", ac roedd ganddi gynllun i ddod â'i bywyd i ben.

Ond ni rannwyd y gofidion yma gyda chyfarwyddwr clinigol yr uned cyn y penderfyniad i'w rhyddhau, er i'r gweithiwr cymdeithasol ddweud wrth aelod o'r tîm nyrsio.

'Risg uchel o hunanladdiad'

Bu Lowri Miller yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar sawl achlysur cyn ei marwolaeth oherwydd achosion o hunan-niwedio.

Aeth hi i'r ysbyty yn Llantrisant ar 4 Chwefror 2020 wedi iddi gymryd gorddos, ac fe gafodd ei dynodi fel rhywun oedd â "risg uchel o hunanladdiad" yn ôl adolygiad gan y bwrdd iechyd.

Cymrodd orddos arall tra yn uned iechyd meddwl yr ysbyty, ble y gwnaeth hi hunan-niweidio eto. Fe'i rhyddhawyd o'r ysbyty ar ôl tridiau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhiannon a Sue, chwaer a mam Lowri, yn feirniadol o'i gofal cyn ei marwolaeth

Cred ei mam yw bod Lowri yn cael ei hystyried yn "niwsans".

"Roedd y discharge yn hollol groes i'n dymuniadau," meddai Sue Miller.

"Allwn ni ddim wedi bod yn gliriach pa mor gryf oedden ni'n teimlo ei bod hi'n peri risg iddi hi ei hun.

"Doedden ni ddim eisiau iddi fod yn ddim ond ystadegyn allen nhw ddysgu ohoni. A dyma ni, achos wnaethon nhw ddim gwrando."

Dywedodd chwaer Lowri, Rhiannon, fod yr ysbyty heb helpu ei chwaer.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sue a Rhiannon yn cofio am Lowri fel "merch fach hapus iawn"

Mae Sue a Rhiannon yn cofio am Lowri fel "merch fach hapus iawn" oedd wedi cael plentyndod hyfryd, ond oedd wedi "dilyn llwybr anghywir" tra yn ei harddegau.

Bu mewn trwbl gyda'r heddlu ar sawl achlysur, a threulio amser yn y carchar. Maes o law fe gafodd ddiagnosis o gyflwr personoliaeth emosiynol ansefydlog.

Ar ôl gadael y carchar, mwynhaodd Lowri "nifer of flynyddoedd hapus ac iach", yn ôl ei mam, ond dirywiodd ei iechyd meddwl unwaith eto wedi profedigaeth yn 2018.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Lowri a Rhiannon yn blant

Mae rhaglen Wales Live wedi gweld adolygiad gan y bwrdd iechyd yn dilyn marwolaeth Lowri sy'n casglu nad oedd y "digwyddiad trasig" yn "rhagweladwy, na chwaith y gellid ei atal", ond mae hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â'i gofal yn yr ysbyty.

Casglodd yr adolygiad fod yna "ddiffyg ymchwilio" am ofidion Sue a'r gweithiwr cymdeithasol ynglŷn â stad meddwl Lowri, a'r ffaith fod yna "fynegiant clir o anobaith a thrallod" ganddi.

Yn ôl yr adolygiad doedd dim proses i ohirio neu aros cyn ei rhyddhau o'r ysbyty, er gwaetha'r ffaith i Lowri gael ei darganfod ar lawr yr ystafell ymolchi gyda llafn ar ôl hunan-niweidio ddiwrnod ynghynt, a'i bod wedi dweud wrth staff bod "neb yn gwrando".

Argymhellwyd proses lle byddai'n bosib i unrhyw aelod o dîm clinigol, neu aelod teulu, allu atal dros dro gadael i glaf adael yr ysbyty os ydyn nhw'n teimlo na fyddai'n ddiogel.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Sue, Lowri a Rhiannon mewn dyddiau hapusach

Dywedodd Rhiannon fod y bwrdd iechyd wedi "methu" ei chwaer.

"Os wnaethon nhw ddim byd o'i le, pam fod yna felly broses newydd wrth adael pobl i adael yr ysbyty, o achos y ffordd wnaethon nhw drin Lowri?"

Hoffai Sue gyfarfod â'r gweinidog iechyd i drafod "beth sy'n digwydd" gyda gwasanaethau iechyd meddwl yn yr ysbyty.

"Dydyn nhw ddim wedi trin fy merch fel person. Maen nhw wedi methu'n llwyr, ac ry'n ni wedi colli rhywun mor annwyl yn ein bywydau," meddai.

Gofidion ehangach

Mae yna ofidion ehangach ynglŷn â gwasanaethau iechyd meddwl yn yr ardal.

Yn fuan ar ôl i Lowri adael yr ysbyty, fe aseswyd Zara Radcliffe - a aeth ymlaen i ladd dyn mewn archfarchnad - fel "risg isel".

Dywedodd y bwrdd iechyd llynedd y byddai yna adolygiad "trylwyr" o'r achos. Bydd adolygiad AGIC yn cael ei gyhoeddi fis Awst.

Ffynhonnell y llun, Google

Dywedodd uwch swyddog nyrsio a gofal cleifion Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Greg Dix: "Hoffwn estyn ein cydymdeimlad diffuant unwaith eto i deulu Lowri.

"Rydym yn gwerthfawrogi pa mor galed yw hi i golli anwylyn, yn enwedig mewn amgylchiadau mor drasig. Ry'n ni'n derbyn casgliadau'r crwner yn dilyn y cwest i farwolaeth Lowri.

"Fel bwrdd iechyd rydyn ni'n ymroi i wrando a dysgu, sydd yn ein galluogi ni wedyn i wella'r gofal rydyn ni'n cynnig i gleifion.

"Fel rhan o hynny, byddwn yn gweithio gydag AGIC ar eu hadroddiad, ac rydym yn edrych ymlaen at ystyried unrhyw argymhellion sy'n codi."

Mae rhaglen Wales Live ar gael ar iPlayer.