De Affrica: Dau chwaraewr heb gap yng ngharfan Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd dau chwaraewr yn ymuno â charfan rygbi Cymru am y tro cyntaf wrth deithio i Dde Affrica fis Gorffennaf.
Mae James Ratti yn chwarae safle wythwr i Rygbi Caerdydd, a Tommy Reffell yn flaenasgellwr gyda Chaerlŷr.
Bydd Dan Biggar yn aros yn ei rôl fel capten ar gyfer y tair gêm brawf, er bod Alun Wyn Jones wedi ei ddewis yn rhan o'r garfan.
Mae disgwyl i George North ddychwelyd ar ôl blwyddyn allan gydag anaf, ond ni fydd Jonathan Davies o'r Scarlets yn ymuno â'r garfan.
Er iddo chwarae dros ei wlad am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, ni fydd Jac Morgan o'r Gweilch yn teithio i Dde Affrica chwaith.
Mae Rhys Patchell a Dan Lydiate yn dychwelyd i'r garfan.
Y garfan yn llawn
Blaenwyr: Rhys Carre, Wyn Jones, Gareth Thomas, Ryan Elias, Dewi Lake, Sam Parry, Leon Brown, Tomas Francis, Dillon Lewis, Adam Beard, Will Rowlands, Alun Wyn Jones, Ben Carter, Dan Lydiate, Josh Navidi, James Ratti, Taulupe Faletau, Taine Basham, Tommy Reffell.
Olwyr: Gareth Davies, Kieran Hardy, Tomos Williams, Dan Biggar (capten), Gareth Anscombe, Rhys Patchell, George North, Nick Tompkins, Owen Watkin, Johnny Williams, Josh Adams, Alex Cuthbert, Louis Rees-Zammit, Liam Williams.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2022
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2021