Hi-de-Hi! Hanes lliwgar Butlin's Pwllheli
- Cyhoeddwyd
"Hi-de-Hi! Morning campers!"
Mae'n 75 mlynedd ers i wersyll Butlin's agor ym Mhwllheli, un o'r gadwyn o wersylloedd gwyliau a ysbrydolodd gyfarchiad enwog Gladys Pugh yn y gyfres deledu gomedi o'r wythdegau, Hi-de-Hi!
Côt felen oedd gan Gladys Pugh (y Gymraes Ruth Madoc) a'i chydweithwyr ond y Redcoats oedd yn diddanu a chadw trefn ar y rhai oedd ar eu gwyliau yn Butlin's.
Miloedd yn dod ar wyliau
Yn ei anterth roedd yn agos i 12,000 o ymwelwyr yr wythnos yn mynd i Butlin's Pwllheli yn yr haf.
Syniad arloesol y dyn busnes Syr Billy Butlin oedd y gwersylloedd oedd yn cynnig llety, adloniant, bwyd a bariau i gyd yn yr un lle ac o fewn cyrraedd cyflogau pobl gyffredin.
Roedd rhai yn erbyn y gwersyll pan agorodd yng ngogledd Cymru yn 1947 oherwydd ofnau y byddai'n annog yfed ymhlith pobl ifanc ac yn Seisnigeiddio'r fro.
Ond daeth yn rhan fawr o fywyd pobl leol.
"Gan fod 'na gymaint o bobl leol wedi mynd i weithio yna, a gweinidogion lleol wedi mynd yn gaplaniaid yno ac yn cynnal gwasanaethau ar y Sul, buan iawn y sefydlwyd perthynas digon cyfeillgar rhwng y fro leol a'r gwersyll," meddai'r hanesydd Bob Morris a fu'n gweithio ar y dodgems a'r olwyn fawr yno ei hun fel llanc ifanc.
"Roedd o'n cyfoethogi bywyd person ifanc i fod mewn lle efo gymaint o fwrlwm a mor wahanol i fywyd bob dydd gartref."
Daeth hefyd wrth gwrs yn lle poblogaidd iawn ar gyfer tripiau Ysgol Sul o bob rhan o ogledd Cymru.
Cario cesys
Mae tair cenhedlaeth o deulu'r gyflwynwraig Ffion Emyr wedi gweithio yno - ei brawd wedi gweithio ar y sleidiau, ei thad yn cario bagiau i ymwelwyr, a'i thaid yn un o'r cotiau coch enwog.
"Ond paratoi clybiau golff a chyrtiau tennis oedd o yn hytrach na chanu a dawnsio!" meddai Ffion sy'n cyflwyno rhaglen i gofio am y gwersyll ar Radio Cymru.
Mae tad Ffion, Emyr Evans, yn siarad ar y rhaglen am ei gyfnod yn "cario cesys" i ymwelwyr bob haf, fel degau o hogiau ifanc Eifionydd.
"Roedd yr ymwelwyr yn dod efo car, bys neu drên. Doeddan nhw ddim yn cael mynd â ceir at y chalets wedyn oedd angen rywun i gario'u cesys nhw.
"Doedd na'm cyflog i'w gael, mond cael tips."
"Roedd Syr Wiliam, Billy [Butlins], yn menthyg y trycs 'ma inni."
Syr Billy Butlin
Roedd Billy Butlin yn ddyn busnes craff a ddechreuodd heb ddim a dod yn filiwnydd gyda'i ymerodraeth o wersylloedd gwyliau yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon - a'r Bahamas!
Dysgodd ei grefft fel dyn ifanc drwy helpu yn ffeiriau teithiol ei deulu yng ngogledd Lloegr.
Dywedir iddo daro ar ei fformiwla lwyddiannus ar gyfer gwyliau llawn adloniant pan welodd deuluoedd wedi diflasu ar wyliau yn Ynys y Barri heb unman i fynd yn ystod y dydd nes oedd eu llety gwely a brecwast yn ail-agor gyda'r nos.
Agorodd ei wersyll gyntaf yn Skegness yn 1936 cyn datblygu dwy arall yn Clacton a Filey.
Gwyliau fforddiadwy
"Roedd egwyddor Butlin's yn un syml iawn iawn, bod chi'n cael gwyliau am wythnos, am gyflog wythnos," meddai Bob Morris.
"Yn y 30au roedd hyn yn golygu bod chi'n talu £5 y pen am wythnos yn y gwersyll ac roedd cyflog cyfartalog yr adeg hynny tua £5.
"Roedd wedi cynyddu erbyn diwedd y rhyfel ond mi roedd o yn ffordd fforddiadwy i deuluoedd dosbarth gweithiol gael gwyliau am flynyddoedd lawer."
Cafodd gwersylloedd cynnar Billy Butlin eu meddiannu gan y lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd i'w defnyddio ar gyfer y fyddin.
Dyna ddigwyddodd i'r pedwerydd safle Butlin's ym Mhwllheli hefyd - drwy gytundeb gyda'r swyddfa ryfel cafodd ei adeiladu ar gyfer y morlu, dan yr enw HMS Glendower, lle roedd y Tywysog Phillip ymysg y swyddogion.
"Wedi'r rhyfel mi addasodd o nifer o'r adeiladau fel y neuaddau bwyta mawr ac yn lle barics pren be wnaeth o ond codi rhesi o chalets o goed a phlastar syml iawn, iawn ond yn dilyn yr un llinellau a barics a bob un rhes efo bloc toiledau a baddonau yn rhan ohona fo," meddai Bob Morris.
Roedd Billy Butlin ei hun yn gymeriad "lliwgar iawn iawn" meddai Bob Morris ac mae'n ei gofio yn ymweld yn aml i gadw golwg arnyn nhw a chrwydro strydoedd y gwersyll i siarad gyda'r gwersyllwyr i sicrhau eu bod yn cael gofal gan y staff.
'Dyn joli'
Un oedd â chysylltiad agosach na'r rhan fwyaf gyda'r miliwnydd oedd Mandy Williams, wyres i reolwr y gwersyll, Frank Bond, oedd wedi symud yno o wersyll Dovercourt ger Harwich yn 1947.
"Mi oedd Billy Butlins yn ffrindiau mawr efo Nain a Taid a hefyd oedd Nain a Taid yn mynd ar wyliau efo fo a'i wraig i Ffainc a llawer o lefydd," meddai.
"Roedd Billy Butlins yn dad bedydd imi.
"Do'n i ddim yn gweld llawer ohono fo ond pan oedd o'n dod i fyny i Bwllheli oedd o bob amsar yn aros yn Broom Hall (y stad ger y gwersyll lle roedd Taid a Nain Mandy yn byw).
"Dyn joli ofnadwy efo ni fel teulu ond i'r bobl tu allan, dyn reit ddistaw, reit reserved ond ffrindiau mawr efo Nain a Taid."
Adloniant a'r cotiau cochion
"Roedd dau fath o got goch," meddai'r diweddar Wil Parry Williams o Forfa Nefyn mewn cyfweliad yn 2009 sydd i'w glywed ar y rhaglen radio.
"Oedd gynnoch chi'r rhai oedd yn diddori, yn rhoi adloniant, y bobl broffesiynol oedd yn canu a'r comedïwyr, a wedyn dyletswyddau cyffredinol, dyna o'n i'n neud. Trefnu a rheoli gweithgaredd fel cystadleuthau chwaraeon a phethau felly.
"Be bynnag oeddach chi'n neud gyda'r nos, o'r theatr neu'r bingo, oeddach chi'n gorfod mynd at y Wallflowers i ddawnsio yn y ballroom fawr; pawb yn canu 'Goodnight campers, I can see you yawning (...good night campers, see you in the morning...')"
Yn ogystal â'r cotiau cochion lleol roedd llawer ohonyn nhw'n dod o Lerpwl a Manceinion a pherfformwyr adnabyddus yn dod yno i ddiddanu, gydag enwau fel Frank Carson, Diana Dors a Ringo Starr wedi eu cysylltu â'r gwersyll.
Curo seren Hollywood
Mae Janet Evans o Lanbed yn cofio nosweithiau da yn gwylio Bob Monkhouse a Lenny Henry yno.
Ond ymysg ei hatgofion melysaf mae llwyddiant ei phlant yn y cystadlaethau talent oedd yn cael eu cynnal ym mhob gwersyll - gall ei merch, Mair, hawlio iddi guro perfformiwr sydd erbyn hyn yn seren Hollywood mewn cystadleuaeth canu.
Ar wyliau yn Butlin's Pwllheli yr enillodd Mair ei chystadleuaeth dalent gyntaf drwy ganu cân Gymraeg roedd hi wedi ei dysgu ar gyfer eisteddfod, Gwen a Mair yn Mynd i'r Ffair.
Dysgodd gân Saesneg ar gyfer y rownd nesaf, oedd yn cael ei chynnal yn unig wersyll arall Butlin's yng Nghymru, Ynys y Barri, a dod yn fuddugol yno hefyd.
"Ond yn fwy diddorol na bod Mair wedi ennill y gystadleuaeth," meddai Janet, "yn ail yn y gystadleuaeth oedd neb llai na'r enwog erbyn hyn, Catherine Zeta-Jones!"
"Fel rhan o'r wobr o'n ni'n cael gwylie am ddim." Fe gawson nhw fynd ymlaen i Wlad yr Haf a dod yn drydydd yno.
"Dechreuodd y mab, Huw, gystadlu wedyn a enillodd e sawl gwyliau am ddim so ni wedi gwneud yn eitha' da o Butlin's a dweud y gwir!"
Newid byd
Roedd Butlin's Pwllheli wedi newid ei enw yn Starcoast World yn y 1980au ac wrth i fwy a mwy o bobl fynd dramor am wyliau, gostwng wnaeth nifer yr ymwelwyr ac fe gaeodd ei drysau am y tro olaf yn 1998.
Hafan y Môr yw enw'r safle heddiw wedi i gwmni Haven Holidays brynu'r gwersyll a'i ailagor.
Merch leol, Emma Williams, yw pennaeth profiad y gwersyll: "Mae'r safle wedi trawsnewid erbyn hyn a datblygu llawer ers dyddiau Butlin's," meddai.
"Mae'r chalets wedi mynd a mae 'na garafanau moethus yn eu lle... Ond yn y bôn mae o dal yn barc gwyliau i deuluoedd, digon i neud, popeth ar y safle.
"'Dan ni'n cael tua 60,000 o deuluoedd drwy'r giât bob blwyddyn. Yn enwedig dros Cofid mae pobl yn gwerthfawrogi gallu dod i rywle fel hyn a cael gwyliau heb orfod teithio yn rhy bell."
Er fod ei enw wedi diflannu o Benychain, Pwllheli, does dim gymaint â hynny wedi newid yno o ran gweledigaeth Billy Butlin felly.
Ac mae'r enw Butlin's yn parhau mewn tair safle: Minehead, Bognor Regis a, lle dechreuodd y cyfan, Skegness.