Cyhuddo dyn o lofruddio dynes 48 oed ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Disgrifiwyd Buddug Jones fel y "fam, nain a'r chwaer orau y gallai unrhyw un ofyn amdani"
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes 48 oed ar Ynys Môn fis Ebrill.
Cafodd corff Buddug Jones ei ddarganfod mewn tŷ ym Maes Gwelfor ym mhentref Rhyd-wyn yng ngogledd yr ynys ar 22 Ebrill.
Bydd Colin John Milburn, 52 oed o Ryd-wyn, yn ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau wedi'i gyhuddo o'i llofruddio.
Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa nes hynny.

Cafodd corff Buddug Jones ei ddarganfod mewn tŷ ym mhentref Rhyd-wyn ar 22 Ebrill
Wedi'r digwyddiad dywedodd teulu Ms Jones "na fydd ein bywydau byth yr un peth" hebddi.
"Buddug oedd y fam, nain a'r chwaer orau y gallai unrhyw un ofyn amdani.
"Roedd ganddi wên ar ei hwyneb bob amser ac roedd bob amser yn ofalgar, yn gariadus ac yn barod i helpu unrhyw un, yn enwedig ei theulu yr oedd yn ei charu.
"Mae hi wedi cael ei chymryd yn greulon oddi wrthym yn llawer rhy gynnar a bydd ei meibion, ei hwyrion a'i brodyr a chwiorydd i gyd yn gweld ei heisiau bob dydd.
"Gallwn ddweud yn onest na fydd ein bywydau hebddi byth yr un peth eto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2022