'Sioc a siom' wrth i gwmni Telynau Teifi ddod i ben

  • Cyhoeddwyd
Telynau TeifiFfynhonnell y llun, Telynau Teifi

Mae nifer o gerddorion wedi mynegi sioc a siom wedi i gwmni Telynau Teifi yn Llandysul gyhoeddi ei fod yn dod i ben.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol nos Fercher dywedodd y cwmni: "Gyda thristwch mawr y mae'n rhaid inni roi gwybod i chi, oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, fod ein tîm yn Telynau Teifi wedi gorfod rhoi'r offer i lawr am y tro olaf yr wythnos hon.

"Rydym yn falch iawn o'r offerynnau yr ydym wedi'u gwneud a'r cyfeiriadau newydd yr ydym wedi gwthio'r delyn fel offeryn traddodiadol Cymreig.

"Rydym wedi gwneud ein gorau glas i ddiogelu a chofnodi'r technegau traddodiadol a ddefnyddiwyd fel na fydd o leiaf etifeddiaeth ein sylfaenydd Allan Shiers yn cael ei golli."

Cafodd y cwmni, sy'n fenter gymunedol, ei sefydlu yn Llandysul yn 2004.

'Sain gwbl arbennig'

"Dwi'n cofio'n iawn Allan Shiers yn sefydlu'r cwmni yn nannedd storm y dirwasgiad ac fe lwyddodd e," medd y delynores a'r athrawes gwersi telyn Eleri Turner o Benrhyn-coch wrth siarad â Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Telynau Teifi

"Mae'r newyddion yn un trist iawn - mae gan delynau Teifi sain gwbl arbennig ac wrth gwrs roedd gan Allan Shiers brofiad helaeth gan ei fod wedi bod yn brentis i'r gwneuthurwr telynau o fri, y diweddar John Weston Thomas.

"Roedd yna amrywiaeth o delynau ar gael - roedd y Siff Saff a'r Dryw yn gwbl addas i ddechreuwyr ac yna roedd modd symud lan yr ysgol i gael telynau mwy - roedden nhw i gyd o ansawdd anhygoel.

"Roedden nhw hefyd yn llogi telynau - a hynna'n wych wrth gwrs."

Ychwanegodd: "Mae dylanwad y cwmni i'w weld ar draws Ewrop wrth wella'r sain a'r ffordd roedden nhw'n gwneud y telynau yn barhaus.

"Roedd Allan wastad yn meddwl tu allan y bocs a wastad yn llwyddo i gyfuno y traddodiadol gyda thechnoleg arloesol gan ddefnyddio deunyddiau fel ffibr carbon.

"Yr hyn oedd yn hyfryd oedd bod gweithwyr lleol yn gwneud llawer o'r telynau â llaw - pawb wedi cael eu trwytho gan y meistr ei hun.

"Os oedd rhywbeth yn bod, roedd modd mynd i Landysul - roedd y cyfan yn becyn rhywsut ac fe fyddai rhywun yn teimlo'n rhan o'r teulu.

"Dyma'r unig gwmni o'i fath yng Nghymru i ddweud y gwir - ac mae'n siom ond yr hyn sy'n dda yw bod y dull a ddefnyddiwyd i wneud y telynau wedi cael ei gofnodi yn fanwl - ac felly fe fydd y gwaith amhrisiadwy y cwmni ddim yn mynd yn angof - mae hynny'n bwysig."

Colled i Landysul

Dywedodd y cynghorydd lleol Keith Evans bod y newyddion yn ergyd i Landysul

"Roedd ganddyn nhw fusnes reit dda - yn allforio ar draws y byd ac roedden nhw'n cyflogi pobl leol," meddai.

"Heb os mae'n gyfnod anodd iawn i fusnesau wrth iddyn nhw ail-adeiladu ar ôl Covid - ac mae'n gyfnod anodd beth bynnag.

"Maen nhw wedi llwyddo i roi Llandysul ar y map ac fe fydd yn golled fawr i'r ardal."

Pynciau cysylltiedig