Nadolig yn 'storm berffaith' i rai ag anhwylderau bwyta

  • Cyhoeddwyd
Manon Wilkinson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Manon Wilkinson eisiau rhannu ei phrofiad er mwyn ceisio helpu eraill

"Ma' pwshio unrhyw berson tu hwnt i'w ffiniau nhw'r adeg yma o'r flwyddyn yn gallu gwaethygu'r peth gymaint mwy."

Dyna brofiad un ferch o Fangor fu'n diodde' efo anorecsia pan yn iau ac sy'n gweld y Dolig fel cyfnod heriol iawn i rai sy'n diodde' gydag anhwylderau bwyta.

Daw neges Manon Wilkinson, 36, wrth i elusen Beat rybuddio eu bod yn disgwyl mwy o alwadau dros gyfnod yr Ŵyl, yn enwedig wrth i'r pandemig wneud pethau'n anoddach fyth.

Erbyn hyn mae Manon, sy'n actores, wedi delio gyda'i salwch ac eisiau rhannu ei phrofiad er mwyn ceisio helpu eraill.

'Cymryd drosodd y meddwl a'r corff'

"Rai blynyddoedd yn ôl nes i ddiodde' o anorecsia, yn ystod blynyddoedd ifanc pan o'n i'n coleg yn gwneud gradd mewn actio," meddai.

"O'dd o'n salwch o'dd 'di dechra' rhai blynyddoedd ynghynt - ella mynd ar ddeiet, bwyta llai, bod yn fwy ymwybodol o 'nghorff.

"O'n i jyst yn bwyta llai a llai a llai ac mae o jyst yn cymryd drosodd y meddwl a'r corff wedyn, so mae'r meddwl yn wan a dydy'r corff methu symud ac mae'n anodd dod allan o grafangau rhywbeth fel 'na.

"O'dd 'na deimladau tywyll iawn i fod yn onest, yn enwedig ar fy ngwana' a jyst meddwl 'fedra i ddim gwneud hyn, fedra' i ddim cario 'mlaen mynd drwy'r frwydr gyson yma, mae'n cymryd gymaint o egni'."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Manon ei bod yn teimlo fod "disgwyliad i roi wyneb ymlaen, i ymuno yn y cinio Dolig"

Mae Manon yn cofio sut oedd cyfnod y Nadolig yn gallu gwaethygu pethau.

"O'dd y ddau beth yn anodd - gymaint o fwyd a diod o gwmpas Dolig, mae o'n bob man. A dwi'n meddwl y disgwyliad 'na i roi wyneb ymlaen, i ymuno yn y cinio Dolig.

"Dwi'n meddwl i'r mwyafrif o bobl fydd bwyta'r cinio Dolig ddim yn beth anodd i'w wneud, ond i'r person sy'n diodde' mae 'na gymaint o boen meddwl yn mynd mewn i cyn y digwyddiad, yn ystod y pryd bwyd, falla ar ôl y pryd bwyd. Jyst emosiynau cymhleth.

"Dwi'n meddwl mai dyna ydy'r peth i bobl sylwi, mae o'n gymaint mwy nag un pryd o fwyd, mae o'n gymaint mwy na bwyta neu ddim. Mae o am yr holl boen ymenyddol a chorfforol sy'n dod yn sgil hynny."

Mwy yn troi am gymorth

Wrth ragweld cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau, bydd elusen Beat yn rhoi cefnogaeth i bobl drwy gyfnod y Nadolig.

Mae'n amser prysur iddyn nhw bob blwyddyn, ond mae'r elusen yn disgwyl cynnydd mawr yn nifer y galwadau i'w llinell gymorth eleni, yn rhannol oherwydd bod ansicrwydd y pandemig yn gwneud pethau'n anoddach fyth i rai ag anhwylderau bwyta.

Rhwng mis Rhagfyr y llynedd ac Ionawr eleni roedd Beat wedi cynnig 901 o sesiynau cymorth, sy'n 185% yn fwy o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn ynghynt, pan oedd y ffigwr yn 313.

Yn ystod 2020/21 roedd yr elusen wedi rhoi cefnogaeth mewn 4,999 o achosion yng Nghymru - sy'n 220% yn fwy nag yn ystod 2019/20, pan gynigion nhw 1,561 o sesiynau cymorth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Marc Williams fod y Nadolig yn cael ei weld fel "adeg sy'n ffocysu ar fwyd"

Yn ôl Dr Marc Williams, seicolegydd clinigol ac uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n arbenigo mewn anhwylderau bwyta, does dim syndod bod cynnydd yn y galw dros yr Ŵyl.

"Mae'r Nadolig yng nghyd-destun y pandemig mewn ffordd yn storm berffaith. Be' chi'n gweld yw adeg sy'n ffocysu ar fwyd a ma' hynny yn ei hun yn anodd fel arfer i bobl gydag anhwylderau bwyta," meddai.

"Ond hefyd mewn cyd-destun pandemig sy'n ffynhonnell o stress i bobl yn ei hun, a hefyd falle mae'r pandemig yn gwneud hi'n anoddach i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau fyddai fel arfer yn ymlacio nhw, fel mynd mas i lefydd er mwyn ymlacio.

"Mae'n rhoi cyfyngiad ar y ffyrdd o ymdopi efo emosiynau hefyd."

'Helpu'r unigolyn i ymlacio'

Ychwanegodd fod modd i bobl ag anhwylderau gynllunio o flaen llaw er mwyn ceisio lleihau'r gofid.

"I ryw rai mae 'na fath penodol o fwyd sy'n heriol neu maen nhw'n gofidio am y math o betha' fydd pobl yn dweud wrthyn nhw," meddai.

"Felly mae'n bosib cynllunio o flaen llaw y math o amgylchedd er mwyn gwneud e'n fwy hwylus.

"Hefyd cynllunio o flaen llaw pa fath o ymateb chi mo'yn gael os ma' rhywbeth yn peri gofid - oes unrhyw weithgareddau all helpu'r unigolyn i ymlacio os bydd rhywbeth yn mynd o'i le, fel hoff gerddoriaeth neu hoff lyfrau, unrhyw weithgaredd fydd yn helpu'r unigolyn i ddelio gydag emosiynau uchel ar ddydd Nadolig neu rownd y cyfnod."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Manon ei bod yn teimlo'n gryfach ar ôl dod dros ei chyfnod tywyll, ac yn gallu edrych ymlaen at ddathlu'r Nadolig

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn deall pa mor anodd all cyfnod y Nadolig fod i rai sy'n profi anhwylderau bwyta, a'u bod yn argymell pobl i "siarad ag arbenigwyr sydd wedi'u hyfforddi fel llinell gymorth Beat".

Ychwanegodd llefarydd: "Ers 2020 rydym wedi darparu £100,000 o gyllid ychwanegol i ehangu ar eu cefnogaeth werthfawr yng Nghymru a bydd y llinell ar agor diwrnod Nadolig i rai sydd ei hangen.

"Rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta ac ers 2017 mae byrddau iechyd wedi derbyn £3.8m yn ychwanegol i gefnogi gwelliannau.

"Dros y 12 mis diwetha', mae Dr Menna Jones wedi gweithio fel Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Anhwylderau Bwyta, yn cefnogi cyflwyno newidiadau pellgyrhaeddol i wasanaethau anhwylderau bwyta ar draws Cymru.

"Rydym yn ystyried opsiynau i gynnal yr arweiniad clinigol yma yn y dyfodol."

'Agor sgwrs am y peth'

Yn y cyfamser, mae Manon Wilkinson yn teimlo'n gryfach ar ôl dod dros gyfnod tywyll yn y gorffennol ac yn gallu edrych ymlaen at ddathlu'r Dolig.

"Fy nghyngor i fasa i agor sgwrs am y peth i gychwyn, i weld sut mae'r person yna'n teimlo - ydyn nhw angen help? Ydyn nhw'n y lle i dderbyn help?

"O'dd gen i gasgliad o bobl a ffrindiau o 'nghwmpas i 'nath helpu fi ddod allan o grafangau'r peth - ond mae 'na lot o bethau allan yna i gynnig help i bobl.

"Does 'na ddim diwrnod yn mynd heibio lle nad ydw i'n fythol ddiolchgar 'mod i wedi dod allan y pen arall ac wedi profi bod 'na fywyd ar ôl y diodde' fel 'na. So dwi'n edrych ymlaen yn ofnadwy at y Dolig."

Mae gwybodaeth am sefydliadau a all roi cyngor a chymorth ar gael yma.