Anorecsia: Y person ar goll o fewn y cyflwr

  • Cyhoeddwyd
Siobhan a'i chariadFfynhonnell y llun, Siobhan Harries
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd gen i lais yn fy mhen yn dweud nad o'n i'n ddigon da" meddai Siobhan, yma gyda'i chariad

"Pan mae anorecsia 'da chi, dydy'ch chi ddim yn teimlo'n normal, chi'n teimlo bod y byd yn eich herbyn ac nad oes modd i unrhyw un garu na'ch gwerthfawrogi chi."

Dyma stori Siobhan Harries a'i brwydr yn erbyn anorecsia. Yn 2017, pan oedd y cyflwr ar ei waethaf roedd Siobhan yn yr ysbyty a'i chorff yn methu. Erbyn hyn mae Siobhan yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe ac yn rhannu ei stori gyda Cymru Fyw er mwyn helpu pobl eraill sy'n dioddef ag anhwylderau bwyta.

D'on i ddim erioed yn wirioneddol hapus gyda'r ffordd o'n i'n edrych. Roedd gen i lais yn fy mhen yn dweud nad o'n i'n ddigon da.

Pan o'n i'n 16 oed o'n i'n depressed a heb reolaeth dros fy emosiynau. Datblygodd o hynny i reoli'r hyn yr o'n i'n ei fwyta a mynd i'r gampfa gymaint ag y gallwn. Fe helpodd fi i reoli fy emosiynau.

Byddwn i'n dweud wrth Mam mod i wedi bwyta er mod i heb wneud.

Mae fy mrawd iau, Kyle, yn anabl ac roedd sylw Mam i gyd arno fe. Felly o'n i'n gallu parhau i fynd i'r gampfa mwy a mwy a dweud celwydd am be' o'n i'n fwyta.

Rheoli fy mywyd

Am unwaith yn fy mywyd, fi oedd y bos ar be' oedd yn digwydd yn fy mywyd. Wnaeth hyn helpu fi i ymdopi â phob dim. O'r diwedd fi oedd mewn control.

Roedd anorecsia wedi cymryd dros fy mywyd a sut o'n i'n meddwl am fy hun. Ro'n i'n meddwl trwy'r amser am fwyd ac ymarfer corff.

Ar y dechrau o'n i'n llwgu ond wrth i amser fynd yn ei flaen fe stopiodd fy nghorff ofyn am fwyd. O'n i'n ofnadwy o oer trwy'r amser - yn gorfod gwisgo leggings o dan jîns.

Gwthio i'r eithaf

Unwaith sylwais i mod i'n denau o'n i eisiau gwthio fy hun ymhellach i weld faint mwy y gallwn gyfyngu beth o'n i'n fwyta. O'n i'n prynu pils deiet dros y rhyngrwyd ac o'n i eisiau gweld pa mor bell y gallwn i fynd.

O'n i jest eisiau bod yn denau fel model ac yn 'berffaith'.

Aeth hyn ymlaen am dros flwyddyn heb i neb sylwi. Roedd pawb mor brysur ac o'n i'n dda am ei guddio ac am ddweud celwydd.

Roedd fy nillad yn hongian oddi arna'i ac o'n i'n llewygu yn y coleg ond doedd gan neb yr hyder i ddweud unrhyw beth nes i rywun yn y coleg ffonio fy mam.

Aeth mam â mi at y doctor - o'n i'n ddifrifol dan bwysau ac es i i'r ysbyty a chael fy rhoi o dan ofal CAMHS (Child and adolescent mental health services).

O'n i'n casáu fy mam am wneud hyn. Do'n i ddim yn teimlo mod i angen yr help. D'on i ddim yn gweld yr hyn 'oedd pawb arall yn ei weld.

Pan o'n i'n edrych yn y drych d'on i ddim yn gallu gweld y realiti. O'n i'n pinsho'r cnawd ac yn ei weld fel braster ond dim ond croen oedd e.

Erbyn 2017 o'n i'n obsessed ac yn gorfod aros yn yr ysbyty lle o'n i wedi fy ngwahanu wrth bawb. O'n i'n gwthio'r holl gasineb o'n i'n teimlo tuag at fy hun ar fy nheulu.

Ffynhonnell y llun, Siobhan Harries
Disgrifiad o’r llun,

Siobhan gyda'i brawd Kyle a'i chariad

Brwydro

O'n i'n teimlo fel carcharor. Roedd pob pryd bwyd yn frwydr rhwng fi a fy nheulu. Roedd mynd o un dafell o fara i ddwy dafell o fara yn fy mrechdan yn beth anferthol i fi.

Pan chi yn y meddylfryd hwnnw chi'n meddwl bod eich rhieni yn eich erbyn a chi ddim yn ymddiried ynddyn nhw.

O'n i'n teimlo byddai'n haws pe byddwn i ddim yno.

Trobwynt

Roedd gwneud gwaith coleg yn help gan mod i'n astudio seicoleg ac o'n i'n astudio anorecsia ac fe helpodd fi i'w ddeall ac i newid fy meddylfryd.

Roedd cwrdd â phobl oedd wedi gwella o anorecsia yn help hefyd, yn arbennig siarad â phobl oedd ddim yn gweld fi fel y salwch. Mae'r cwnselwyr a'ch rhieni yn eich gweld chi fel yr anorecsig ond nid y person oddi tano.

Dod o hyd i fy llais

Fe wnaethon ni feddwl am y syniad o alw'r llais 'anorecsia' yn Gollum felly ar adegau pan oedd y llais yn rheoli, roedd Mam a fi yn siarad â Gollum.

Roedd rhoi enw iddo a gallu gwahanu fy hun o'r salwch yn help mawr.

Gwella

Roedd yn help i gael targed, sef mynd i'r brifysgol yn Abertawe i astudio seicoleg. Roedd pob cam yn gam tuag at y targed hwnnw.

Mae gwella yn broses hir, mae'n rhaid fi gymryd e bryd wrth bryd. Efallai mod i'n cael diwrnod gwael ond dw i'n trio cofio nad yw hynny'n golygu bod yn rhaid iddo fod yn wythnos, mis a blwyddyn wael.

Roedd pawb yn fy ngweld i jest fel anorecsic ac o'n i'n teimlo bod y person ar goll y tu mewn.

Nid fy salwch yn unig o'n i, o'n i dal i fod yn berson hyd yn oed gyda'r salwch yn fy rheoli. Roedd yn lot o help pan sylweddolodd pobl hynny.

Ffynhonnell y llun, Siobhan Harries
Disgrifiad o’r llun,

"Dw i'n edrych ar anorecsia fel fy ail gyfle mewn bywyd"

Stigma

O'n i'n sâl iawn a dw i ddim eisiau i unrhyw un arall gyrraedd y lle hwnnw. Mae cymaint o stigma o gwmpas anhwylderau bwyta - chi'n teimlo cywilydd a chi'n teimlo'n llai o berson o'i herwydd.

Bydd anorecsia bob amser yn rhan ohona'i. Pan o'n i'n sâl roedd bwyd yn anghyfleustra ond nawr dw i'n ei fwynhau.

Mae gwella'n dibynnu ar eich meddylfryd ond mae sylweddoli hefyd nad ydych chi ar eich pen eich hun yn help.

Dw i'n cyfyngu ar beth dw i'n ei fwyta o hyd ond dw i'n mwynhau bwyta allan a dw i ddim yn teimlo'n euog am fwyta mwyach.

Erbyn hyn, dw i'n edrych ar anorecsia fel fy ail gyfle mewn bywyd, cefais fy stripio yn ôl i groen ac asgwrn a thrwy fy nerth fy hun dw i wedi gallu ailadeiladu fy hun.

Dw i'n cael cyfle nawr i fyw bywyd cryf ac iach.

Hefyd o ddiddordeb