Eisteddfod: Gwyn Nicholas i dderbyn medal TH Parry-Williams

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwyn NicholasFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai'r arweinydd côr, Gwyn Nicholas yw enillydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams eleni.

Mae'r fedal yn cael ei rhoi yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

Dywed y trefnwyr fod "dylanwad a chefnogaeth ymarferol Gwyn Nicholas wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc yn ei filltir sgwâr dros gyfnod o hanner canrif a mwy".

Bydd y cyn-reolwr taliadau gyda'r Gwasanaeth Iechyd o Lanpumsaint, Sir Gâr yn derbyn y fedal ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion - y prifwyl agored cyntaf ers cyn y pandemig.

Mae Gwyn Nicholas yn cael ei ddisgrifio fel person sydd wedi treulio'i amser hamdden yn cyfeilio a beirniadu mewn eisteddfodau cefn gwlad ar draws Cymru.

Mae ei "gariad at gerddoriaeth yn amlwg i bawb" ac mae'n "adnabyddus fel arweinydd corawl a chynulleidfaol, yn arwain ysgolion cân a chymanfaoedd canu", medd yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Yn fwyaf oll, mae'n gyfarwydd i'r rhan fwyaf ohonon ni fel arweinydd Côr Llanpumsaint, ac ef sydd wedi sicrhau eu bod nhw wedi cystadlu a theithio llawer iawn dros y blynyddoedd.

"Mae llawer o'i waith yn digwydd yn dawel di-ffws, gyda'r enwebiad ar gyfer y Fedal hon yn sôn am yr 'oriau dirifedi gwirfoddol mae Gwyn wedi'u rhoi i ieuenctid a cherddoriaeth, yr oriau o drosi cerddoriaeth o'r Hen Nodiant i Sol-ffa, a threfnu caneuon a chyfansoddi emynau'."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim amcan wrth gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Aberteifi yn 2019 y byddai'n rhaid gohirio'r Brifwyl am ddwy flynedd oherwydd pandemig

Dywed yr Eisteddfod bod cyfraniad a gwaith Mr Nicholas "wedi dylanwadu ar genedlaethau o bobl ifanc yn lleol" wrth iddo "eu helpu gyda gwaith theori cerddoriaeth, eu dysgu i chwarae'r piano a chanu.

"Yn unigolion, partïon neu gorau, mae Gwyn wedi cefnogi cannoedd o bobl ifanc ei fro dros y blynyddoedd.

"Yn annog corau Ysgol Bro Myrddin, neu'n helpu i roi sglein ar berfformiadau clybiau ffermwyr ifanc yr ardal cyn cystadlaethau a chynorthwyo yn ysgol gynradd Llanpumsaint, mae Gwyn bob amser yn hael gyda'i gyngor ac yn barod ei gymwynas."

Mae Prifwyl eleni'n cael ei chynnal ar gyrion Tregaron rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst.

Pynciau cysylltiedig