Bachgen 11 oed 'wedi colli ei fys wrth ffoi rhag bwlio'

  • Cyhoeddwyd
RaheemFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei fam fod Raheem wedi wynebu sarhad hiliol a bwlio oherwydd ei fod yn fach am ei oed

Bu'n rhaid i fachgen 11 oed o Abertyleri gael ei fys wedi'i dynnu ar ôl iddo anafu ei hun wrth ffoi rhag disgyblion oedd yn ei fwlio yn yr ysgol, medd ei fam.

Mae Raheem Bailey wedi bod yn ddisgybl yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri ers mis Medi.

Yn ystod yr amser hynny dywedodd ei fam, Shantal ei fod wedi wynebu sarhad hiliol a bwlio oherwydd ei fod yn fach am ei oed.

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd, a dywedodd Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn "condemnio bwlio a cham-drin hiliol".

Dywedodd Ms Bailey fod grŵp o ddisgyblion wedi "ymosod" ar ei mab ddydd Mawrth, gan ei gicio tra'r oedd ar y llawr.

Ychwanegodd ei fod wedi ceisio ffoi, gan ddringo ffens, ond cafodd anaf drwg i'w fys trwy wneud hynny.

Dywedodd ei fam fod Raheem wedi cael llawdriniaeth am chwe awr, ond eu bod wedi gorfod tynnu'r bys yn y pendraw.

'Mewn llawer o boen'

Yn ôl Ms Bailey mae Raheem adref bellach, ond yn ei chael yn anodd deall yr hyn sydd wedi digwydd.

"Mae'n gwneud yn anhygoel ond mae mewn llawer o boen," meddai.

"Weithiau mae'n dechrau dweud 'Mam, wnes i ddim colli fy mys - breuddwyd ddrwg oedd e - breuddwyd ydy hyn ie?'

"Mae'n rhaid i mi ddweud y gwir wrtho - dydw i ddim eisiau dweud celwydd a dydw i ddim eisiau smalio.

"Mae'n rhaid i mi gael sgwrs garedig ond didwyll gydag ef - gadael iddo wybod fod hyn wedi digwydd a bod yn rhaid i ni edrych ymlaen."

Ffynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Shantal Bailey fod grŵp o ddisgyblion wedi "ymosod" ar ei mab ddydd Mawrth

Ychwanegodd Ms Bailey ei bod hi a'i mab yn falch ei fod yn fyw wedi'r digwyddiad.

"Rydw i'n ddiolchgar ei fod yn hapus ac yn fyw," meddai.

"Fe ddywedodd e ei fod yn poeni ac yn meddwl y gallai fod wedi marw. Doedd e ddim yn gallu dianc dim ots beth oedd e'n ei wneud."

Ymateb yr ysgol yn 'ofnadwy'

Dywedodd fod ymateb yr ysgol wedi bod yn "ofnadwy".

"Dydy'r ysgol heb gysylltu unwaith - heb geisio siarad i weld sut mae Raheem," meddai.

Dywedodd Ms Bailey, ddechrau'r flwyddyn ysgol, fod disgybl wedi dweud wrth ei mab ei fod yn dod o "wlad dlawd", a'i bod wedi adrodd hynny i'r ysgol.

Ers hynny, dywedodd fod Raheem wedi crybwyll digwyddiadau pellach ond ei bod yn teimlo ei fod yn "ei ddal i mewn".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi derbyn "adroddiad o ddigwyddiad mewn ysgol yn Abertyleri... lle cafodd bachgen 11 oed ei anafu".

"Mae cyfarfod aml-asiantaeth wedi ei gynnal ac ry'n ni'n gweithio gyda'r ysgol fel rhan o'n ymholiadau sy'n parhau," meddai llefarydd.

Ar ran Cymuned Ddysgu Abertyleri, dywedodd llefarydd eu bod yn "gweithio'n agos gyda Heddlu Gwent a'r awdurdod lleol i sefydlu holl fanylion y digwyddiad".

"Mae lles a diogelwch ein disgyblion a staff yn parhau i fod o bwys mwyaf," meddai.

Ychwanegodd y llefarydd na fyddai'r ysgol yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.

Wedi'r digwyddiad fe wnaeth Ms Bailey hefyd sefydlu ymgyrch ar-lein i geisio codi £10,000 am fys prosthetig i'w mab. Mae dros £50,000 eisoes wedi'i addo ar y dudalen honno.

Pynciau cysylltiedig