Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig

  • Cyhoeddwyd
Ysbytai ardal Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am dair ysbyty cyffredinol - Glan Clwyd, Gwynedd a Wrecsam Maelor

Mae'r bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd ar hyd gogledd Cymru wedi gwella digon i gael ei dynnu allan o fesurau arbennig sydd wedi bod arno ers pum mlynedd a hanner, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwneud digon o welliannau ac na fydd y llywodraeth yn ei rheoli mwyach.

Mae'r corff sy'n gyfrifol am ysbytai a gwasanaethau eraill y GIG ledled gogledd Cymru wedi bod o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru ers haf 2015.

Ar ôl cyfres o drafferthion ariannol, methiannau rheoli a rhestrau aros cynyddol, cafodd y cam ei gymryd yn dilyn adroddiad hynod feirniadol o uned iechyd meddwl Tawel Fan.

Roedd problemau hefyd yn ymwneud â gwasanaethau mamolaeth, gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau arferol ac arweiniad a rheolaeth y bwrdd.

Ym mis Hydref dywedodd y gweinidog bod "pryderon o hyd" a mwy o waith i'w wneud cyn symud y bwrdd allan o fesurau arbennig.

Ond yn y Senedd brynhawn dydd Mawrth, dywedodd Mr Gething ei fod wedi gwneud y penderfyniad yn sgil cyngor a roddwyd mewn cyfarfod rhwng y llywodraeth, Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gynharach yn y mis.

Dywedodd y byddai'r bwrdd yn symud allan o'r lefel uchaf o fesurau arbennig, ac yn symud i gategori "ymyrraeth wedi'i thargedu".

Dywedodd y bwrdd iechyd bod "llawer mwy o waith o'n blaenau" ond eu bod yn hyderus y bydd modd cyflawni'r "trawsnewidiad mawr o wasanaethau iechyd ledled gogledd Cymru".

Dywedodd Mr Gething bod "gwelliannau ar draws y bwrdd iechyd" a bod "mwy o ffydd y bydd yn gwneud rhagor o gynnydd".

"Trwy gydol y pandemig mae'r sefydliad wedi gweithio'n galed i wneud ei ran i ofalu am bobl y mae'r feirws wedi effeithio arnynt."

Ychwanegodd bod "rhai meysydd o bryder" yn parhau, fel iechyd meddwl, ond bod y bwrdd yn cydnabod bod lle i wella.

"Mae ymyrraeth wedi'i thargedu yn dal i fod yn lefel ddwys o uwchgyfeirio sy'n gofyn am weithredu sylweddol gan y bwrdd iechyd."

Pryd aeth pethau o'i le?

Yn ôl yn 2013 daeth adroddiadau bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mewn dyfroedd dyfnion yn dilyn adroddiad ynglŷn a methiannau rheoli a thrafferthion ariannol.

2015 a 2018: Cafwyd dau adroddiad beirniadol iawn i uned iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd - sydd bellach ynghau - a oedd yn dweud bod rheolwyr yn "anhrefnus". Roedd un adroddiad yn manylu ar honiadau un o gam-driniaeth, er i'r rhain gael eu gwrthod gan yr adolygiad olynol.

2015: Cafodd y bwrdd iechyd ei rhoi o dan fesurau arbennig. Dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones: "Rwy'n credu bod pobl gogledd Cymru a'r llywodraeth wedi cael digon." Mark Drakeford oedd y gweinidog iechyd ar y pryd.

2016: Cafodd cynlluniau i ganoli gofal fasgwlaidd arbenigol yn ysbyty Glan Clwyd eu beirniadu, gyda honiadau y byddai bywydau yn cael eu peryglu yn enwedig yn ardal Gwynedd. Mae'r ddadl hon yn parhau hyd heddiw.

2017: Er i benaethiaid iechyd fynnu bod gwelliannau wedi cael eu gwneud, daeth adolygiad annibynnol i'r casgliad fod cynllunio ariannol, rhagweld a rheoli risg yn "or-syml, wedi'i dan ddatblygu ac yn rhy ynysig oddi wrth gynllunio'r gwasanaeth a'r gweithlu".

2018: Roedd gan ysbytai Wrecsam Maelor a Glan Clwyd y ffigurau amser aros damweiniau ac achosion brys gwaethaf yng Nghymru.

2019: Cafodd y cynnydd ar welliannau eu disgrifio fel rhai "annerbyniol o araf" ac fe gododd ei ddiffyg yn y gyllideb i £42m. Roedd archwilwyr yn amheus am ​gallu'r bwrdd iechyd i ddatrys ei broblemau yn gyflym. Roedd yna feirniadaeth hefyd o'r penderfyniad i gyflogi ymgynghorydd i ddod o hyd i gynilon ar gost o £2,000 y dydd.

2020: Cyhoeddodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething bod y bwrdd ar ei ffordd allan o'r mesurau am eu bod yn gwneud "cynnydd gwirioneddol," yn ogystal a £40m o arian ychwanegol i dalu am ei ddiffyg. Bydd Prif Weithredwr newydd yn dechrau ym mis Ionawr. Mae Jo Whitehead yn dychwelyd i Gymru ar ôl rhedeg y gwasanaeth iechyd yn Queensland, Awstralia.

Beth mae mesurau arbennig yn ei olygu?

Mae pob corff iechyd yn cael ei fonitro am ei berfformiad gan arolygwyr iechyd ac archwilwyr ac yn cael sgôr.

Mae pedair lefel uwchgyfeirio yn y fframwaith sydd yn cael ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru:

  • Trefniadau arferol

  • Monitro uwch

  • Ymyrraeth wedi'i thargedu

  • Mesurau arbennig

Mae tri bwrdd iechyd, yn ogystal â sefydliadau fel gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n cael eu monitro ysgafnaf.

Mae'r lefel uchaf ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn Cwm Taf Morgannwg a chyn y cyhoeddiad, Betsi Cadwaladr, lle mae'r llywodraeth yn cymryd rôl fwy ymarferol.

Beth ydy ymateb Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr?

Roedd cadeirydd y bwrdd, Mark Polin, a'r prif weithredwr dros dro, Gill Harris, yn croesawu'r cyhoeddiad a chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

"Rydym yn cael ein calonogi gan yr hyder cynyddol yn ein cynlluniau i wneud gwelliannau tymor hir strategol ar yr un pryd â chydnabod bod llawer mwy i'w wneud", meddai'r ddau mewn datganiad ar y cyd.

"Bydd y pecyn cymorth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn ein helpu i adeiladu ar waith i ddatblygu atebion trawsnewidiol a chynaliadwy i heriau tymor hir mewn gofal heb ei drefnu, diagnosteg, gofal wedi'i gynllunio a gwasanaethau iechyd meddwl.

"Rydym yn hyderus y bydd ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol yn gwella profiad ac amseroedd aros cleifion.

"Rydym yn hynod falch bod cydweithwyr ar draws y sefydliad wedi ymateb i her Covid-19 ac wedi dangos positifrwydd, gwytnwch ac ymrwymiad i gleifion yn yr amgylchiadau anoddaf. Rydyn ni'n diolch iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi'i wneud i ofalu am gleifion a chadw ein cymunedau'n ddiogel."

Beth mae'r gwrthbleidiau'n ei ddweud?

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Andrew RT Davies: "Ar ôl pum mlynedd o fesurau arbennig - y cyfnod hiraf i unrhyw sefydliad iechyd yn y DU - byddai'n rhaid croesawu unrhyw wir gamau 'mlaen."

Dywedodd ei fod yn canmol ymroddiad y staff a gwirfoddolwyr, ond holodd am amseru'r cyhoeddiad.

Dywedodd ei fod yn gobeithio nad oedd hyn yn "gam sinigaidd cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai, ond ei fod yn nodi cam cyntaf tuag at newid y sefydliad i fod yn ddarparwr effeithiol o wasanaethau iechyd dosbarth cyntaf, lle mae diogelwch y claf a safon y gwasanaeth i bobl y gogledd yn cael blaenoriaeth."

Cafodd y gweinidog ei gyhuddo o wneud cyhoeddiad er budd gwleidyddol gan AS Ceidwadol dros Orllewin Clwyd, Darren Millar.

Dywedodd Mr Millar "nad oes modd cyfiawnhau'r" penderfyniad, ac na fyddai'r gweinidog yn "twyllo pobl gogledd Cymru i feddwl bod popeth yn iawn".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew RT Davies a Rhun ap Iorwerth wedi codi cwestiynau am amseru'r cyhoeddiad gan y llywodraeth

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, "ei bod yn rhyfedd bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi newid mor fuan wythnosau wedi i'r gweinidog iechyd ddweud bod yna nifer o faterion i ymdrin â nhw".

Ychwanegodd bod angen ad-drefnu'r bwrdd i gael "dechrau newydd", rhywbeth mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano ers tro.

Dywedodd Llyr Gruffydd, sy'n cynrychioli Plaid Cymru dros ranbarth y gogledd: "Rhaid i mi ddweud, yng ngoleuni problemau parhaus a'r methiant i ddatrys sgandalau hirsefydlog sy'n cynnwys darpariaeth iechyd meddwl, rwy'n parhau i fod heb fy argyhoeddi y bu digon o welliannau i ddod allan o fesurau arbennig.

"Mae hyn yn ymddangos fel 'stynt' gwleidyddol fel y gall y llywodraeth Lafur hon ddweud ei bod wedi gwella gwasanaethau iechyd yn y gGogledd pan mae'n amlwg nad yw'r bwrdd iechyd wedi cymryd camau breision yn eu dwylo nhw."

Dadansoddiad ein gohebydd iechyd, Owain Clarke

"Ni fydd cleifion unigol sy'n derbyn gofal ar hyn o bryd yn gweld llawer o wahaniaeth, yn enwedig o ystyried bod y GIG ym mhobman yn mynd i'r afael â'r don ddiweddaraf o Covid-19.

"Ond mae'r cyhoeddiad bod Betsi Cadwaladr o'r diwedd, ar ôl 1,996 diwrnod, yn cael ei dynnu o fesurau arbennig yn hynod symbolaidd o ystyried ei hanes cythryblus diweddar.

"Mae wedi cael ei lethu gan broblemau, ac ar adegau pan oedd yn ceisio gwneud newidiadau, roedd y bwrdd iechyd yn wynebu beirniadaeth ffyrnig yn gyson - sy'n arwydd sicr nad oedd rhannau o'r boblogaeth yn ymddiried yn y rhai oedd yn gyfrifol am y gwasanaethau.

"Ond gyda'r pedwerydd prif weithredwr mewn pum mlynedd a hanner i fod i ddechrau yn y flwyddyn newydd - mae'r Gweinidog Iechyd wedi penderfynu mai nawr yw'r amser iawn i lacio ychydig ar yr oruchwyliaeth.

"Ond beth bynnag yw statws y bwrdd iechyd - bydd cwestiynau yn parhau - a oedd dyfodol bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn y fregus o'r cychwyn cyntaf un -  drwy fod yn sefydliad rhy fawr i'w reoli'n hawdd?"