Rhosyn i anrhydeddu John Ystumllyn ym Mhalas Buckingham

  • Cyhoeddwyd
Rhosyn John YstumllynFfynhonnell y llun, Harkness Roses
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhosyn John Ystumllyn yn cael ei arddangos yn Sioe Flodau Chelsea hefyd

Mae rhosyn sydd wedi ei enwi ar ôl un o arddwyr du cyntaf Prydain wedi cael ei blannu ym Mhalas Buckingham.

Mae'r blodyn yn anrhydeddu John Ystumllyn a gafodd ei herwgydio o orllewin Affrica yn y 18fed ganrif cyn cael ei fagu yng ngogledd Cymru.

Daeth aelodau o brosiectau garddio cymunedol i wylio'r seremoni yng ngardd rhosod y palas gan dderbyn rhosyn i'w blannu fel rhodd.

Mae'r blodyn melyn i'w weld yn sioe RHS Blodau Chelsea yr wythnos hon am y tro cyntaf.

Cafodd yr ymgyrch i greu'r rhosyn ei harwain gan Zehra Zaidi, a wnaeth sefydlu'r grŵp 'We Too Built Britain', sy'n adrodd straeon am bobl sy'n cael eu tangynrychioli.

"Fe wnaeth y cyfnod clo a'r pandemig ddangos i ni'r pwysigrwydd o gymdeithas a phŵer adferol natur," medd Ms Zaidi, wnaeth dreulio ei phlentyndod yng Nghaerfyrddin cyn iddi ddod yn gyfreithiwr hawliau sifil.

"Mae yna rywbeth hudol a sylfaenol ynghylch plannu rhywbeth yn y ddaear, mae'n cysylltu chi â'r tir, ac mae ei wneud yn y gymuned yn eich cysylltu chi â'ch gilydd."

Pwy oedd John Ystumllyn?

Ffynhonnell y llun, Alamy
Disgrifiad o’r llun,

Darlun olew o John Ystumllyn yn 1754

Er fod pobl ddu yn byw yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif, doedd hi ddim yn gyffredin.

Roedd Prydain yn ymwneud â'r fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd ar yr adeg hon, ond yn amlach na pheidio, roedd y mwyafrif helaeth o'r rhai oedd yn gaethweision yn cael eu cludo'n syth o Affrica i'r Caribî.

Fodd bynnag, ar adegau, roedd hi'n ffasiwn cael gwas du ymhlith uchelwyr cymdeithas, ac mae'n debyg mai dyma sut wnaeth y John Ystumllyn ifanc gyrraedd stad wledig yng Ngwynedd.

Ffynhonnell y llun, Alan Fryer/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Ystumllyn wedi ei gladdu ym mynwent Eglwys Ynyscynhaearn, Cricieth

Mae cerdd ar fedd John Ystumllyn yn Ynyscynhaearn ger Cricieth yn adrodd sut wnaeth gyrraedd Cymru. Mae'n cam-leoli ei gartref fel India ond efallai mai cyfeiriad at 'India'r Gorllewin' sydd yma.

Cafodd y rhosyn ei hun ei greu gan Karness Roses yn Sir Hertford, a wnaeth hefyd greu rhosyn sydd wedi'i enwi gan y Frenhines i nodi ei Jiwbilî Platinwm.

Yn ôl y rheolwr gyfarwyddwr, David White, mae'r wlad wedi bod trwy gyfnod digynsail, ac roedd cynlluniau cymunedol fel creu rhosyn i anrhydeddu John Ystumllyn yn ffordd i helpu.

"O ganlyniad i flynyddoedd diwethaf y pandemig, a'r trafferthion mae pobl yn wynebu drwy'r argyfwng costau byw, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar iachâd ac iechyd meddwl," dywedodd.

"Rydym yn gobeithio y bydd ein cynllun yn cefnogi pobl gan greu llawenydd ac undod cymunedol."

Pynciau cysylltiedig