John Ystumllyn a stori pobl ddu 'gyntaf' Cymru
- Cyhoeddwyd
John Ystumllyn - garddwr, gŵr, tad ac aelod gwerthfawr o'i fro - oedd un o'r bobl ddu gyntaf yng Nghymru i gael hanes ei fywyd wedi ei gofnodi.
Roedd yn byw yn ardal Cricieth rhwng 1742 a 1786 ac hefyd yn cael ei alw yn Jac Ddu neu Jack Black.
Ond nid John na Jac oedd ei enw iawn - does neb yn gwybod erbyn hyn beth oedd yr enw hwnnw gan iddo gael ei gymryd o'i famwlad, rhywle ar gyfandir Affrica, pan oedd tua wyth oed, ei roi ar long a'i gludo i Gymru i'w roi i deulu bonedd Ellis Wynn o stad Ystumllyn, Cricieth.
Fe wnaethon nhw ei fedyddio mewn eglwys yng Nghricieth a rhoi'r enw John Ystumllyn iddo.
Stori Jac ei hun oedd ei fod yn cofio chwarae ar lan afon mewn coedwig yn ceisio dal iâr ddŵr pan gafodd ei gipio gan ddynion gwyn a'i gario i'w llong gyda'i fam yn rhedeg ar eu holau "gan wneud oernadau dychrynllyd".
'Anrheg' i'r teulu
Mae rhai yn dweud mai un o'r teulu Wynn wnaeth ei gipio a dod ag o adref tra mae stori arall ei fod wedi ei roi fel anrheg gan chwaer Ellis Wynn oedd yn byw yn Llundain.
Efallai mai Mary oedd hon a oedd yn briod â William Hollier, o bosib yr un Hollier ag oedd yn ysgrifennydd i'r African Company of Merchants oedd yn delio mewn masnach caethweision ar yr Arfordir Aur.
Beth bynnag yw'r stori wir, mae'n anodd dychmygu faint o ofn fyddai ar y bachgen bach wedi ei dynnu o freichiau ei deulu a'i gludo dros y môr i blasty carreg mewn gwlad ddieithr lle nad oedd yn siarad gair o'r iaith a neb yn ei ddeall yntau.
Er y dechrau trawmatig yma i'w fywyd, fe wnaeth Jac oresgyn ei ofnau, dysgu Cymraeg a Saesneg a dod yn aelod uchel ei barch o'r gymuned.
Cafodd ei roi i weithio yn y gerddi lle dysgodd yn gyflym i fod yn arddwr ac yn grefftwr arbennig o dda.
Datblygodd perthynas rhyngddo â morwyn y plasty, Margaret Gruffydd o Drawsfynydd, a rhedodd Jac i ffwrdd i'w phriodi yn Nolgellau, gan adael ei swydd yn Ystumllyn.
Ymhen amser rhoddodd y teulu waith a chartref iddo eto. Fe gafodd y ddau saith o blant, er i ddau farw yn ifanc.
Ysgrifennwyd hanes Jac gan y bardd Alltud Eifion, dolen allanol 100 mlynedd wedi ei farw ac wedi ei seilio ar atgofion pobl yr ardal oedd yn ei weld fel rhyfeddod pan gyrhaeddodd gyntaf.
"Mae 'na straeon amdano fo ddim yn hapus yno yn y dechrau (a fedra i ddim ei feio!) ond roedd pobl yn meddwl ei fod yn ddyn gonest a pharchus ac rydyn ni'n gwybod fod y teulu yn ei licio fo," meddai Dr Marian Gwyn, hanesydd sy'n arbenigo yn hanes masnach caethweision.
Joseph Potiphar, 1687
Mae stori Jac yn arbennig am fod cofnod mor fanwl i'w gael o'i fywyd. Ond dydi hi ddim yn unigryw.
Roedd ffasiwn ymhlith y dosbarth bonheddig o gael gweision ifanc du yn gweithio a gweini yn eu plastai.
Mae rhai degau o enghreifftiau wedi eu canfod hyd yma yng nghofrestri plwyfi Cymru y 18fed a'r 19fed ganrif.
Daw'r cofnod swyddogol cynharaf o berson du yng Nghymru yn 1687 pan fedyddiwyd Joseph Potiphar yng Nghaerdydd, eglura Dr Marian Gwyn.
"Yn y rhestr fedyddio mae'n dweud 'Joseph Potiphar, a black belonging to Sir Roland Gwin'.
"Cafodd dyn arall ei fedyddio ar 12 Gorffennaf 1747, yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe.
"Yn y gofrestr, dim ond un llinell sydd; mae'n dweud 'John Jones, a black' a dim byd arall amdano fo o gwbl.
"Mae ganddo enw Cymraeg a heb y geiriau 'a black' fydden ni ddim yn gwybod dim byd amdano o gwbl."
Un arall oedd Cesar Picton, caethwas o Senegal, oedd yn byw gyda theulu Syr John Phillips o Gastell Picton, Hwlffordd, yn 1781 a ddaeth yn fasnachwr glo cyfoethog yn Llundain.
Roedd Nathaniel Wells, ustus heddwch Sir Fynwy a sheriff du cyntaf Prydain, wedi ei eni yn gaethwas a mab i Gymro oedd yn berchen planhigfa yn 1779. Etifeddodd gyfoeth ei dad, prynu tŷ crand ger Casgwent a dod yn berchen ar gaethweision ei hun.
'Top hat' a chot felfed
"Pan oedden nhw'n gweithio yn y tai mawr yn gweini te i'r bobl gyfoethog roedden nhw'n gallu pigo fyny manners yr elite ac roedd ganddyn nhw'r cysylltiadau hefyd," meddai Dr Gwyn.
"Roedden nhw'n aml yn cael tips ariannol ac felly erbyn roedden nhw'n hŷn roedd llawer ohonyn nhw'n gallu sefydlu eu hunain mewn busnesau da, fel Cesar.
"Aeth mab John Ystumllyn, Richard, ymlaen i fod yn heliwr i arglwyddi Newborough yng Nglynllifon am 58 mlynedd.
"Mae 'na stori amdano yn gwisgo top hat a chot felfed gyda choler gwyn uchel."
Roedd yn cael ei ddisgrifio fel dyn urddasol, uchel ei barch a dyn ei gymuned.
Ond fe wnaeth John Ystumllun brofi rhagfarn a hiliaeth, meddai Dr Gwyn.
"Ddaru o brofi hiliaeth ddwy waith. Ddaru dau was lleol wisgo fyny fel fo, duo eu wynebau a mynd allan i archebu nwyddau o siopau yn ei enw, a ddaru hyn ei wneud yn sâl iawn pan glywodd o hyn.
"Ond roedd pawb arall yn meddwl y byd ohono fo."
Uniaethu gyda Jac
Wedi ei magu ym Mhwllheli gyda rhieni o Jamaica mae Natalie Jones yn teimlo cysylltiad efo John Ystumllyn.
Mae Natalie yn cyflwyno ei hanes ymysg llawer o rai eraill mewn cyfres o glipiau am hanes pobl ddu Cymru ar raglen Heno, S4C dros Fis Hanes Pobl Ddu 2020.
"Er ein bod ni wedi ein geni dros 200 o flynyddoedd ar wahân, o'n i wedi byw yng Nghricieth, jyst lawr yr hewl iddo fe," meddai Natalie, sydd bellach yn byw yn San Clêr.
"A'r math o hiliaeth oedd o wedi ei gael, ro'n i wedi cael rhywbeth tebyg: pobl yn gwneud pethau yn meddwl bod nhw'n ddoniol fel gwneud wyneb du a phethau fel'na.
"Ond dwi wedi cael swyddi da, dwi ddim wedi cael problem cael swydd a dwi wedi priodi Cymro, so mewn ffordd mae'n bywydau ni yn 'eitha tebyg yn y ffordd yna.
"Ond dwi ddim wedi cael fy nwyn o wlad arall - nes i ddod o Birmingham, doedd o ddim mor bell! Ac roedd fy rhieni i wedi dod o Jamaica, so fy hunaniaeth i ydy Cymraes a Jamaican."
Jac a thafarn y Black Boy
Mae stori John Ystumllun yn cael ei grybwyll fel un eglurhad i enw tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon: y ddwy theori arall yw ei fod wedi ei enwi ar ôl bwi du oedd yn yr harbwr neu ar lys-enw'r brenin Siarl II am fod Brenhinwyr yn arfer cwrdd yn ddirgel yno.
Bu Natalie yn aros yno wrth ffilmio'r eitem i Heno a does ganddi ddim problem efo'r enw mae rhai yn ei weld fel un hiliol.
"Dwi'n ei weld o fel teyrnged iddo fe, se'n neis defnyddio ei enw fo, er falle bod John Ystumllyn yn anodd i pobl ddweud - ond dydw i ddim yn ei weld o yn beth drwg, o gwbl, dwi'n weld o fel arall, dwi'n gweld ei fod o'n dangos fod black lives matter am bod nhw wedi enwi'r pyb ar ei ôl o."
Dydi Dr Gwyn ddim mor siŵr bod cysylltiad rhwng y dafarn â Jac ei hun: "Mae'r dyddiadau'n anghywir, ac, yn y dyddiau hynny, byddai Caernarfon yn teimlo fel miliwn o filltiroedd i ffwrdd o Bwllheli. Hefyd, gan ei bod yn dref borthladd, byddai pobl ddu wedi cyrraedd yno dros nifer o flynyddoedd, a gallai'r enw ymwneud ag un o'r rheini."
'Sgerbwd Ogof Pafiland
Er mai'r fasnach gaethwasiaeth ddaeth â llawer o'r bobl ddu sydd wedi eu cofnodi yng Nghymru yn y 17fed a'r 18fed Ganrif, mae hanes amrywiaeth a phobl ddu yng Nghymru yn llawer hŷn, yn mynd nôl i oes y Rhufeiniaid ac ymhellach.
"Y sgerbwd ddaru nhw ei ddarganfod mewn ogof wrth ymyl Abertawe, Ogof Pafiland, chwarter miliwn o flynyddoedd yn ôl, cyn Oes yr Ia, maen nhw'n meddwl rŵan mai croen du oedd ganddo," meddai Dr Gwyn.
"Roedd pobl ddu yma ers amser y Tuduriaid: roedd na lawer o bobl dduon yn gweithio yng Nghymru, ddim yn gaethweision o gwbl, roedden nhw'n gweithio yn yr un meysydd â phobl wyn.
"Mae'n hollbwysig ein bod yn dweud straeon pobl fel Jac Ystumllyn. Mae pobl dduon wedi bod yn byw yma am gannoedd o flynyddoedd, yn gweithio yma, yn byw yma, yn cyfrannu i'r wlad.
"Mae'n rhaid inni gydnabod eu cyfraniad i Gymru fel pobl Gymraeg," meddai Dr Gwyn.
"Mae'n siŵr bod rhai o ddisgynyddion John Ystumllyn yn dal i fyw yn yr ardal. Falle bod pobl ddim yn gwybod eu bod yn perthyn iddo? Byddai'n wych gwybod."
"Mae'n bwysig siarad amdanyn nhw," cytuna Natalie sydd hefyd yn hyfforddi i fod yn athrawes Gymraeg ac wedi bod yn gwneud cyflwyniadau ar y tebygrwydd rhwng Cymru a Jamaica mewn ysgolion.
"Roedd o'n brilliant y ffordd roedd y plant yn gwrando a lot o ddiddordeb gynnyn nhw, sy'n dangos bod 'na angen dweud y straeon 'ma achos mae gan y plant ddiddordeb ynddyn nhw, maen nhw eisiau dysgu am hanes pobl eraill yng Nghymru, dydyn nhw ddim eisiau 'run un straeon drwy'r adeg."
Hefyd o ddiddordeb: