Raheem Bailey: 'Cynddeiriog mai dyma brofiad plant du Cymru'

  • Cyhoeddwyd
RaheemFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Raheem oriau o driniaeth wrth i feddygon geisio achub ei fys

Mae pennaeth Race Council Cymru "wedi ei ffieiddio" ar ôl clywed adroddiadau bod bachgen wedi colli ei fys wrth geisio ffoi rhag cael ei fwlio.

Fe gafodd Raheem Bailey, 11, ei anafu wrth geisio dringo ffens i ddianc. Cafodd driniaeth ond doedd dim modd achub ei fys.

Dywedodd ei fam, Shantal Bailey, bod ei mab - disgybl yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri ym Mlaenau Gwent - wedi dioddef hiliaeth a bwlio.

Mae ymgyrch i godi arian ar-lein a gafodd ei sefydlu gan Ms Bailey i dalu am fys prosthetig i'w mab wedi derbyn bron i £100,000 erbyn hyn.

Mae prif weithredwr Race Council Cymru, yr Athro Uzo Iwobi, yn dweud ei bod yn poeni nad yw pobl yn dal i gredu fod bywydau du o bwys.

Bydd pob campws yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri ar gau ddydd Llun am resymau iechyd a diogelwch. Bydd disgyblion yn cael eu dysgu'n rhithiol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Blaenau Gwent bod "diogelwch a lles disgyblion a staff yn parhau o bwys mwyaf i'r gymuned ddysgu a'r awdurdod lleol ar bob adeg".

'Cynddeiriog'

Wrth ymateb i'r digwyddiad, dywedodd Uzo Iwobi: "Dw i'n gwbl siomedig, wedi fy ffieiddio ac yn gynddeiriog mai dyma brofiad plant du yng Nghymru.

"Dw i'n teimlo nad oes unrhyw beth wedi gwella. Mae angen i athrawon ac arweinwyr addysgiadol adnabod hiliaeth a cham-drin hiliol a dydy pawb ddim yn gwneud hynny."

Ychwanegodd Ms Iwobi y dylai athrawon fod yn gyfrifol am gadw cofnod o ddigwyddiadau hiliol mewn ysgolion.

Dywedodd: "Gallai'r bachgen hwn fod wedi colli ei fywyd trwy geisio dianc."

Ffynhonnell y llun, TBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Uzo Iwobi "wedi ei ffieiddio" gan yr hyn ddigwyddodd i Raheem

"Y cwestiwn hoffwn i ofyn i bob athro ac awdurdod lleol addysgol yw 'Pryd fydd bywydau du yn bwysig?'

"Pryd fyddwn ni'n gwybod fod plant du yn mynd i ddod adref yn fyw heb niwed i'w bysedd a'u traed?

"Mae arna' i ofn dros ein holl y blant y gallen nhw ddod 'nôl mewn bocs."

Dywedodd bod dioddefwyr hiliaeth yn cael eu creithio â thrawma seicolegol, yn ogystal ag anafiadau corfforol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Natalie Jones yn dweud bod angen dangos empathi i brofiadau pob plentyn

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Natalie Jones o Race Council Cymru y dylai pob teulu deimlo bod "yr ysgol yn gymorth iddyn nhw.

"Fel arfer, dyna sut mae plant yn cael eu trin ond yn anffodus - yng Nghymru a Phrydain - mae 'na batrwm o blant o ethnig lleiafrifol yn cael eu trin yn wahanol i blant gwyn".

Dywedodd bod angen i bawb rhoi eu hunain "yn 'sgidiau pob plentyn".

'Torcalonnus'

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru bod ei "chalon yn torri" wedi'r digwyddiad.

Dywedodd Rocio Cifuentes: "Byddaf yn edrych ar yr achos yn fanylach ac yn ehangach o ran beth all gael ei wneud i sicrhau fod pob ysgol yn ymateb i fwlio hiliol yng Nghymru...

"... roedd hyn eisoes ar fy agenda ond mae'r achos hwn yn amlinellu'r argyfwng."

Ffynhonnell y llun, Rob Browne/Wales Online
Disgrifiad o’r llun,

Mae Raheem yn gwella wedi triniaeth

Dywedodd mam Raheem, Ms Bailey, fod grŵp o blant wedi "ymosod" ar ei mab ddydd Mawrth wrth ei gicio tra'r oedd ar y llawr.

Fe ddisgrifiodd sut wnaeth Raheem ddal ei fys yn y ffens wrth geisio dianc. Yn dilyn triniaeth, bu'n rhaid ei dorri.

"Dw i'n falch ac yn hapus ei fod e'n fyw," dywedodd.

"Fe ddywedodd ei fod yn poeni ac yn meddwl y gallai fod wedi marw, doedd e jyst ddim yn gallu dianc dim ots beth oedd e'n ei wneud."

Ffynhonnell y llun, Rob Browne/Wales Online
Disgrifiad o’r llun,

Dywed mam Raheem, Shantal, ei bod mor hapus ei fod yn fyw

Dywedodd Heddlu Gwent bod yr ymosodiad honedig wedi ei adrodd i'r llu tua 13:00 ddydd Mercher, 18 Mai.

Ychwanegodd bod swyddogion yn gweithio gyda'r ysgol fel rhan o'u hymchwiliad.

Dywedodd Cymuned Ddysgu Abertyleri eu bod yn gweithio gyda'r heddlu a'r awdurdod lleol.

Llywodraeth yn 'condemnio bwlio'

Mewn datganiad, dywedodd Gweinidog Addysg Cymru ei fod wedi ei "syfrdanu" a'i "dristáu" gan y digwyddiad.

Dywedodd Jeremy Miles y dylai pob ysgol "fod yn amgylcheddau cynhwysol a chyfeillgar", a bod y llywodraeth yn "condemnio bwlio ac aflonyddu ar unrhyw ffurf, gan gynnwys unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu hiliol".

Ychwanegodd y byddai'n rhaid aros am ymchwiliad yr heddlu er mwyn dod i "gasgliadau manwl" am yr achos, ond ei fod yn disgwyl i ysgolion gymryd "camau priodol" i "atal achosion pellach rhag digwydd".

Mae'r llywodraeth hefyd, meddai, yn ceisio "gwella profiadau dysgwyr ac athrawon" o leiafrifoedd, a gwella dealltwriaeth i amrywiaeth drwy'r cwricwlwm newydd.

Pynciau cysylltiedig