Y Ffair Aeaf: Sawl 'her' wrth flaenoriaethu diogelwch

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Y dorf yn Ffair Aeaf 2018
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf yn Ffair Aeaf 2018 - a fydd yr olygfa yn wahanol eleni?

Union fis cyn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, mae cynllunio ar gyfer un o uchafbwyntiau'r calendr amaethyddol yn fwy heriol nag arfer.

Mae paratoadau'r cystadleuwyr wedi hen ddechrau, ond y neges glir gan y trefnwyr eleni ydy fod yn rhaid i ymwelwyr hefyd gynllunio ymlaen llaw.

Eleni does dim modd prynu tocynnau wrth y fynedfa.

"Mae'n rhaid prynu tocynnau o flaen llaw ar-lein er mwyn sicrhau ein bod ni'n gwybod enw a rhif ffôn pawb sy'n mynychu," eglura Mared Rand Jones, Pennaeth Gweithrediadau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Mae'r trefnwyr yn ymwybodol fod nifer fawr o selogion y Ffair Aeaf heb fynediad i'r we.

"Yn sicr mae'n sialens," ychwanega Ms Rand Jones. "Oes oes unrhyw un yn cael anawsterau i brynu tocynnau ar-lein, mae 'na groeso mawr iddyn nhw i ffonio swyddfa'r Gymdeithas.

Disgrifiad o’r llun,

Mared Rand Jones, Pennaeth Gweithrediadau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

"Efallai bod modd gofyn am gymorth perthnasau hefyd. Felly ry'n ni'n trio cyfathrebu 'da phawb.

"Ry'n ni'n gweithio 'da'r undebau amaethyddol a gwahanol bartneriaid i wneud yn siŵr fod y neges yn mynd allan.

"Fydd hi ddim yn bosib cael mynediad i'r maes heb bàs Covid neu brawf llif unffordd negyddol.

"Ni'n derbyn y pàs oddi ar ap neu mae modd cael y fersiwn papur drwy ffonio'r NHS. Mae'r ddau opsiwn yn dderbyniol. Ond dyw'r cerdyn brechu ddim yn ddilys."

'Gobaith am Ffair Aeaf sbesial eleni'

Yn naturiol, bydd nifer o gyfyngiadau a rheolau ar y maes. Sicrhau fod pawb yn ddiogel yw'r flaenoriaeth, yn ôl Alwyn Rees, Cadeirydd Y Ffair Aeaf

Disgrifiad o’r llun,

Alwyn Rees, Cadeirydd y Ffair Aeaf

"Ar sail bod angen prynu tocynnau o flaen llaw, 'da ni'n gwybod faint o bobl fydd yn mynychu," meddai.

"Bydd hynny i ryw raddau yn gneud pethau rywfaint yn haws.

"Mi fydd mygydau i'w gwisgo o fewn adeiladau. Ac mi fydd hi'n her o ran y tywydd oherwydd fydd bobol yn fwy awyddus i fynd dan do.

"Ond 'den ni'n edrych ymlaen i wynebu'r heriau hynny a neud y Ffair Aeaf yn un sbesial eleni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwynne Davies yn falch bod y Ffair Aeaf yn cael ei chynnal eleni

Yn Llanddewi Brefi, mae Gwynne Davies wrthi'n dewis a dethol ei ddefaid er mwyn cludo'r goreuon i'r Ffair Aeaf.

"Mae digon anodd ar y gore i gael pâr o ŵyn yn barod, achos chi'n meddwl nawr hefyd a ydy'r Ffair Aeaf yn mynd i fod 'mla'n," meddai.

"Ond dwi gant y cant yn credu fe fydd y Ffair Aeaf yn mynd ymla'n. Os allan nhw gael 70,000 yn y Stadiwm ar y Sadwrn [ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol], fi'n siŵr allwn ni gael Ffair Aeaf yn Llanelwedd.

"Ac ry'n ni fel arddangoswyr wir ishe mynd i'r Ffair Aeaf achos ry'n ni wedi colli allan llynedd."