Canwr opera dall am ddangos nad oes rhwystrau
- Cyhoeddwyd
Mae canwr dall wnaeth ymddiddori mewn opera dros Zoom yn deud ei fod am ddangos i bobl nad oes 'na rwystrau.
Mae Toben Durrant, 16, o'r Bont-faen ym Mro Morgannwg, wedi caru cerddoriaeth erioed ac wedi chwarae offeryn ers yn blentyn.
Mae ei gariad at opera yn deillio o'r ffordd mae'r cynnwys yn gallu cyffwrdd yr unigolyn, ac mae sêr fel Andrea Bocelli, sydd hefyd yn ddall, yn dangos beth ellir ei gyflawni.
"Mi allwch chi wneud unrhyw beth," meddai.
Ymarfer ar Zoom
Mi ymunodd Toben - sydd â chyflwr genetig prin o'r enw Leber's congenital amaurosis - ag Opera Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (OCIC) fis Medi 2020 yn ystod y pandemig.
Bu'n ymarfer ar Zoom tan ei berfformiad cyhoeddus cyntaf - o flaen y Frenhines yn ystod agoriad y chweched Senedd yn 2021.
Mae ar hyn o bryd ynghanol ymarferion, yn darllen cerddoriaeth drwy braille a dysgu ar lafar, ar gyfer The Black Spider, sy'n agor ddiwedd Mai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
Mae Toben yn chwarae'r ffidil a'r fiola ers pan oedd yn blentyn, cyn iddo droi ei law at ganu fel rhan o'i arholiadau cerddorol.
"Roedd fy nghyfeilydd yn fy helpu ac mi ddywedodd 'ah, ti'n gallu canu' ac mi ddywedodd y dylwn i ddechrau derbyn gwersi canu. Mi wnes, a dyna sut nes i ddechrau," meddai.
Trodd ei fryd at opera gan fod llawer o'r darnau yr oedd disgwyl iddo berfformio ar gyfer arholiadau yn glasurol, a dywedodd ei fod wedi'i gyffwrdd gan natur y darnau a'r dylanwad y gall ei gael ar bobl.
"Roeddwn yn caru'r theatrig a'r ffaith nad yw'n realistig," meddai.
"Dyna be' dwi'n garu amdano fe, mae'n rhyfedd, ac allwch chi fynegi eich hun. Mae'n hyfryd gwneud hynny."
Yn ôl Toben, mae sefydliadau cefnogol yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth helpu pobl anabl i gyflawni.
Dywedodd fod yr OCIC wedi rhoi llawer o gefnogaeth iddo ehangu ei orwelion.
"Maen nhw wedi bod yn rhyfeddol. Maen nhw wedi fy nghynnwys i ym mhob peth. 'Dyw fy nallineb ddim wedi bod yn broblem."
Er mwyn ceisio cefnogi Toben, mae'r cwmni wedi cyflwyno marciau gwead ar y llawr, partner sy'n gallu darparu cefnogaeth symud, a set wedi'i dylunio'n arbennig."
Mae hefyd yn cael y sgôr gerddorol mewn braille, ond dywedodd ei fod gan fwya'n dysgu drwy ailganu cymalau mae eraill yn eu canu iddo.
Erbyn hyn mae'n dysgu'r geiriau "fel sgript".
"Dwi wedi cymysgu o dro i dro ond mae rhaid i chi ailgydio a dal i fynd," meddai.
"Roeddwn i'n meddwl y bydde dipyn o rwystrau oherwydd mae'n boen - dwi dal yn araf yn darllen cerddoriaeth braille, ond dwi'n cyflymu ac mae'r rhwystrau yna bellach yn fendith ac yn wersi."
Dywedodd ei fod yn gobeithio pan fydd eraill yn ei weld yn perfformio y bydd yn gwneud gwahaniaeth.
Prif nod Toben, sy'n sefyll ei arholiadau TGAU ar hyn o bryd, yw parhau â cherddoriaeth yn ei fywyd, un ai fel perfformiwr neu therapydd cerddorol.
Rhian Hutchings yw cyfarwyddwr yr opera, a dywedodd fod OCIC wedi gwneud gymaint ag y gallai i gefnogi Toben ond hefyd ei wthio fel perfformiwr.
Dywedodd: "Ni sy'n creu rhwystrau felly ry'n ni'n trafod gydag e beth rwy' am ei gyflawni a cheisio darganfod beth yw'r ffordd orau o wneud hynny ac sy'n gyfforddus o fewn y terfynau ar y set."
Esboniodd eu bod yn ofalus er mwyn ei gadw'n saff ond mae'n hapus i wthio ffiniau.
"Popeth sydd wedi'i drafod mae wedi dweud 'ie, beth am i ni drio hynny'," meddai.
"Mae'n drafodaeth a dweud y gwir er mwyn gwneud yn siŵr y gall e wneud y gorau yn y rôl."
Y cwmni 'mor feddylgar'
Yn ôl ei fam, Julia, mae agwedd Toben yn gwneud gwahaniaeth, ac nad yw'n rhywbeth y maen nhw wedi'i brofi bob amser.
Dywedodd: "Mae wedi mwynhau canu erioed a bod yn rhan o gorau ysgol ac mae'n wych gweld sut mae wedi cael cymorth.
"Fel mam i blentyn dall, chi wastad yn poeni pan chi'n eu cyflwyno i awyrgylch newydd neu glybiau, ond dyma'r tro cyntaf y cawsom ni alwad ffôn ymlaen llaw.
"Dyma nhw'n holi beth oedd y gofynion, beth oedden ni ei angen.
"Mi gawson ni wahoddiad i ddod i mewn ymlaen llaw gan fod Toben wedi ymuno cyn y cyfnod clo, felly doedd e ddim wedi cwrdd ag unrhyw un yn yr opera."
Esboniodd fod hynny "mor feddylgar er mwyn ei wneud i deimlo'n ddiogel", sydd "mor bwysig" i bobl ifanc ag anableddau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd30 Mai 2021
- Cyhoeddwyd18 Medi 2019
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2021