Euros Lyn a'i brofiad cyfarwyddo 'hapusaf' ar Heartstopper
- Cyhoeddwyd
"Mae 'mhrofiad personol i yn tyfu lan fel bachgen hoyw yng Nghwm Tawe - mae gweld y stori 'na ar y sgrin, neu fersiwn o'r stori yna, yn rhywbeth sy'n bersonol. Ond yn fwy na 'na mae'n stori am gariad a beth mae cwympo mewn cariad fel beth bynnag dy oedran, os ti'n 15 neu 50 - a dwi'n credu taw falle hynny sy' wedi cysylltu gyda cynulleidfaoedd ar draws y byd."
Mae'r cyfarwyddwr Euros Lyn o Gwm Tawe wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus yn y byd ffilm a theledu gan weithio ar gyfresi fel Broadchurch a His Dark Materials - ond mae ei gyfres ddiweddaraf ar Netflix, Heartstopper, yn un sy'n agos iawn at ei galon.
Dywedodd Euros am y gyfres Heartstopper, sy'n ddrama am gyfeillgarwch pobl ifanc yn eu harddegau ac sy'n dangos stori serch dau fachgen yn datblygu: "Mae 'di bod yn un o'r profiadau hapusaf dwi byth wedi cael.
"'Nes i ddarllen sgript Heartstopper cyn bod fi wedi darllen y nofel graffeg [gan Alice Oseman, sy'n sail i'r gyfres] a ges i ymateb mor gynnes i'r stori, o'n i'n teimlo'n emosiynol pan o'n i'n darllen e.
"Mae 'na draddodiad nawr o romcoms hoyw ac mae'n wych bod 'na draddodiad o straeon serch ynglŷn a phobl hoyw hefyd."
Newid byd
Mae'r stori'n dangos byd sy'n wahanol iawn i'r cyd-destun pan oedd Euros yn tyfu fyny yng Nghwm Tawe, fel mae'n esbonio: "Yn yr 80au roedd e'n gyfnod pan oedd y llywodraeth yn dod mewn â Section 28 oedd yn golygu bod nhw'n gwahardd hyrwyddo bod yn hoyw mewn ysgolion a dwi'n credu bod hynny wedi gosod tôn eitha' cas i'r holl gyd-destun o fod yn hoyw.
"Doedd e ddim yn beth oedd pobl yn trafod mewn ysgolion. Doedd athrawon yn sicr ddim yn teimlo mai rôl nhw oedd gwarchod pobl hoyw rhag cael eu bwlio - er dwi'n siwr fod 'na athrawon mas 'na fyddai'n gwneud hynny.
"Oedd e'n amser pan oedd HIV ac AIDS newydd ymddangos yn y byd ac 'oedd 'na backlash gan yr asgell dde yn erbyn hoywon oherwydd hynny. Erbyn hyn ni'n gweld fod y byd wedi newid mor syfrdanol lle mae pobl ifanc yn teimlo'n gyfan gwbl hyderus yn trafod beth yw eu rhywioldeb nhw.
"Dyw rhywioldeb ddim yn rhywbeth mae rhywun yn gallu ei ddysgu na'i ddad-ddysgu - mae'n rhywbeth sy'n rhan ohono ni.
"Mae gwybod fod 'na ryddid a chefnogaeth i bobl ifanc i fod yn nhw eu hunain nawr yn beth anhygoel."
Mae'r ymateb i'r gyfres Netflix wedi bod yn bositif iawn, meddai Euros, gyda'r portread o serch ifanc yn cyffwrdd llawer. Ac mae rhai wedi rhannu straeon am sut mae gweld perthynas hoyw plant yn eu harddegau ar sgrin wedi ysgogi nhw i fod yn agored am eu rhywioldeb.
Dywedodd Euros: "Mae'n beth gwych bod pobl yn gallu gweld bod ffordd i fod yn agored ynglŷn a pwy ydych chi a bod pobl ifanc yn gallu gweld fod 'na gymdeithas sy'n mynd i gefnogi nhw, beth bynnag yw eu rhywioldeb nhw.
Hiraeth
"Dwi wedi cael lot fawr o ymateb wrth bobl sy' dipyn yn hŷn na rhywun yn ei arddegau - mae 'na rhyw fath o hiraeth ynddyn nhw yn gwylio'r gyfres am arddegau na chawson nhw byth.
"Er bod nhw'n gallu dathlu pa mor wych yw e bod cenhedlaeth o bobl ifanc sy'n gallu byw bywyd hoyw yn eu harddegau a chael y profiad yna o gwympo mewn cariad am y tro cyntaf, cwympo mas o gariad am y tro cyntaf - maen nhw dal yn galaru rhywfaint am y profiadau 'na gathon nhw fyth mo'r cyfle i gael eu hunain.
Ieuenctid
"Pan o'n i yn fy arddegau o'n i dipyn bach dros bwysau ac yn brysur iawn yn chwarae fy trombôn ac yn adolygu ar gyfer fy lefel A - dwi'n siwr bydde capten y tîm rygbi byth wedi dewis fi ta beth!"
Yn ogystal â Heartstopper, mae Euros wedi gweithio fel cyfarwyddwr ar gyfresi mor amrywiol â Doctor Who, Sherlock, Black Mirror, Y Llyfrgell a Happy Valley.
Ond beth mae e'n credu yw cyfrinach ei lwyddiant?
Meddai: "Mae ddim rhoi lan pan mae pethau'n mynd o'i le yn rili bwysig - mewn unrhyw orchwyl creadigol mae'n rhaid cymryd risgiau a phan chi'n cymryd risgiau mae pethau'n mynd i fynd o'i le a 'dyw popeth ddim yn gweithio mas.
"Mae'n bwysig dal ati a trio dysgu o'r camgymeriadau a trio 'neud rywbeth mwy diddorol tro nesa'.
"Dwi'n credu bod dod o ddiwylliant lleiafrifol fel dod o Gymru yn dysgu chi bod 'na mwy na un persbectif - o hyd mae mwy na un persbectif. Dwi'n ymwybodol iawn pan dwi'n cyfarwyddo drama bod 'na sawl safbwynt gwahanol a dim jest un safbwynt diwylliannol ar rhywbeth - dwi'n credu bod hwnna wedi bod o help mawr i fi.
Cyngor
"Y newyddion da yw bod 'na mwy o gynyrchiadau teledu yn digwydd ar y funud nag erioed o'r blaen ac mae'r diwylliant yn chwilio am dalent ifanc felly mae lot o gyfleoedd mas 'na.
"Beth sy'n bwysig yw bod chi'n ymarfer y grefft - os chi ishe ysgrifennu, ysgrifennwch ffilmiau byr. Os chi ishe cyfarwyddo, defnyddiwch ffôn i ffilmio.
"Mae 'na lot fawr o swyddi yn y crefftau - swyddi colur a gwisgoedd, cynllunio ac adeiladu setiau. Mae 'na lot fawr o gyfleodd a chyrsiau i gael mewn colegau. Mae 'na lot o gyrsiau byr i gael hefyd."
Adre
Er bod Euros yn teithio dipyn fel rhan o'i swydd, mae ei gartref yn y Gŵyr: "Achos ges i'n fagu yng Nghwm Tawe o'n i'n dod i'r Gŵyr i fynd i lan y môr fel plentyn - oedd 'na wastad rhyw hud yn perthyn i'r lle, mae mor bert.
"Daeth cyfle i symud lawr 'ma a dyma lle mae'n cartref ni - fi'n teimlo mor lwcus, ni ar lan y môr ac mae 'na lot o lefydd i fynd am dro ac mae 'na gymuned gynnes braf 'ma."