Pennaeth Heddlu Gogledd Cymru i ymddeol wedi 30 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Carl FoulkesFfynhonnell y llun, North Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Carl Foulkes, yn gadael ei swydd fis Hydref

Mae pennaeth Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud ei fod yn "aruthrol o falch" o'i lu wrth iddo gyhoeddi y bydd yn ymddeol.

Bydd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes yn gadael ei swydd fis Hydref wedi bron i 30 mlynedd gyda'r heddlu.

Yn wreiddiol o Gaergwrle ger Wrecsam, fe gafodd Mr Foulkes ei benodi fel pennaeth y llu yn 2018.

Dywedodd: "Do'n i wirioneddol erioed wedi meddwl y byddwn i'n arolygydd heb sôn am brif gwnstabl ac mae wedi bod yn fraint enfawr i arwain [y llu]."

Ar ôl gweithio gyda'r Llynges Frenhinol, fe weithiodd gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain cyn ymuno â llu Gorllewin Canolbarth Lloegr. Yna, fe ddaeth yn ddirprwy brif gwnstabl gyda Heddlu Glannau Mersi.

Fe dderbyniodd Fedal Heddlu'r Frenhines yn 2020 am ei wasanaeth cyhoeddus dros dri degawd.

'Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol'

"Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i bawb, ond dyw'r gwydnwch, gallu a pharodrwydd i addasu a newid sydd wedi ei arddangos gan y llu cyfan erioed wedi bod yn fwy amlwg nag yn ystod y pandemig a dwi'n aruthrol o falch o'r hyn ry'n ni wedi ei gyflawni," dywedodd.

"Dwi'n gobeithio ein bod ni wedi gallu ei wneud yn lle ychydig gwell i'r rheiny sy'n cymryd yr awenau."

Dywedodd Mr Foulkes y byddai'n gweithio gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin wrth benodi ei olynydd a dywedodd y byddai'n dal i annog pobl i ystyried gweithio yn yr heddlu fel swydd.

Ychwanegodd: "Mae plismona yn wahanol iawn i pan wnes i ymuno, ond mae'n swydd wych sy'n eich galluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac sydd ag amrywiaeth anhygoel.

"Mi fyddwn i'n sicr yn gwneud yr un peth eto."

Pynciau cysylltiedig