Gêm ail gyfle: 100 tocyn am ddim i ffoaduriaid Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Cymru ac WcrainFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Cymru yn herio Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul, gyda'r enillwyr yn ennill lle yng Nghwpan y Byd

Bydd 100 o docynnau ar gyfer ffeinal y gemau ail gyfle ddydd Sul yn cael eu rhyddhau am ddim i ffoaduriaid o Wcráin.

Mae'r holl docynnau i gefnogwyr cartref ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd - sy'n dal 33,000 o bobl - wedi eu gwerthu.

Mae 5% o'r tocynnau wedi eu neilltuo i Gymdeithas Bêl-droed Wcráin, sydd ar werth ar hyn o bryd.

Y gred yw y bydd y tocynnau i ffoaduriaid yn dod ar ben y nifer sydd eisoes wedi eu neilltuo ar gyfer yr ymwelwyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod CBDC wedi gwahodd Llysgennad Wcráin i'r gêm a bydd neges o groeso yn cael ei gyflwyno i'r tîm pan fyddan nhw'n cyrraedd maes awyr Caerdydd.

Mae'r BBC ar ddeall fod y llywodraeth yn helpu CBDC i adnabod unigolion sydd wedi ffoi o Wcráin i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Hoffwn i roi croeso cynnes Cymreig i dîm pêl-droed Wcráin a'u cefnogwyr i Gaerdydd.

"Bydd hwn yn gyfle i ni ailddatgan ein cefnogaeth i Wcráin wrth iddi frwydro rhyfel ciaidd a direswm Rwsia."

Bydd yr enillwyr ddydd Sul yn ennill lle yng Nghwpan y Byd Qatar 2022, fydd yn cychwyn ym mis Tachwedd.

Mae Cymru'n gobeithio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Fe wnaeth Wcráin gyrraedd Cwpan y Byd am y tro diwethaf, a'r unig dro, yn 2006.