Eisteddfod yr Urdd: 'Tensiwn' cyhoeddi enillwyr yn 'gyffrous'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na "gyffro" ychwanegol i brif seremonïau Eisteddfod yr Urdd eleni - gan nad ydy'r cystadleuwyr eu hunain hyd yn oed yn gwybod pwy sydd wedi ennill.
Am y tro cyntaf, mae'r tri olaf yn cael eu cyflwyno ar y maes yn y bore, ond yr un ohonyn nhw'n gwybod pwy sy'n fuddugol nes y cyhoeddiad am 15:00.
Y Fedal Gyfansoddi yw'r brif seremoni ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu yn Sir Ddinbych eleni, ac yn ôl prif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, bydd hi'n dda cael ychydig o "densiwn" wrth gyhoeddi.
"Ni'n edrych ar fel mae pobl eraill yn gwneud y math yma o beth, a 'dyn ni'n dysgu o brofiadau sy'n llwyddiannus, felly ni'n edrych ymlaen," meddai.
Merch 12 oed ymhith y tri
Kai Fish, cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gwynllyw sydd bellach yn astudio yng Ngholeg Chweched Dosbarth Henffordd, ydy un o'r tri cyfansoddwr sydd wedi dod i'r brig eleni.
Ar ôl teithio i fyny i'r maes yn Ninbych, mae'n ysu am weld y canlyniad.
"Mae bach yn annoying a dweud y gwir, dwi angen aros tan 15:00!" meddai gyda gwen.
"Ond mae'n dda, dwi'n hoffi'r suspense, mae'n 'neud y canlyniad yn fwy cyffrous."
Un arall o'r cystadleuwyr yw Gwydion Rhys, o Lanllechid yng Ngwynedd a bellach yn astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain.
"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at wybod pwy sydd 'di ennill," meddai.
"Dwi'n falch iawn efo'r darn, a dwi'n edrych 'mlaen i bobl glywed o os yn bosib."
Yr ieuengaf o'r tri yw Shuchen Xie, 12, o Gaerdydd, sy'n ddisgybl yng Ngholeg St John's ac hefyd yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
"Dyw fy nheulu i ddim yn gerddorol, ond nes i ddechrau chwarae'r piano pan o'n i'n bedair," meddai.
"Nes i ddechrau cyfansoddi wedyn cwpl o flynyddoedd yn ôl.
"Dwi'n hoffi steil llai confensiynol o gyfansoddi, ac mae hwnna'n cael ei adlewyrchu yn y math o gerddoriaeth dwi'n chwarae hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022