M4: Dim adolygiad o ddedfryd dyn a laddodd ddau blentyn

  • Cyhoeddwyd
Jayden a GracieFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jayden ddyddiau ar ôl ei chwaer fawr Gracie, wedi i'r ddau gael anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad ym mis Chwefror

Ni fydd y ddedfryd o garchar i ddyn a laddodd ddau blentyn tra'n gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn cael ei hadolygu.

Bu farw Jayden-Lee Lucas, 3, a'i chwaer Gracie-Ann, 4, pan gafodd car y teulu ei daro gan fan oedd yn cael ei yrru gan Martin Newman ar 5 Chwefror.

Mae cais i'r Llys Apêl i adolygu ei ddedfryd o naw mlynedd a phedwar mis, ar y sail nad oedd hi'n ddigon llym, wedi cael ei wrthod.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr M4 ger Casnewydd, ar ôl i Newman, 41, fod yn yfed gwin coch tra'n gyrru ei fan Ford Transit.

Roedd tystiolaeth ei fod hefyd wedi cymryd cocên.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Martin Newman ei ddedfrydu i naw mlynedd a phedwar mis

Eglurodd llefarydd ar ran y Twrnai Cyffredinol fod adolygiad o dan y cynllun ULS (Unduly Lenient Sentence) ond yn bosib os oedd y ddedfryd yn un "afresymol o drugarog", neu os oedd y barnwr wedi gwneud camgymeriad.

"Mae'r trothwy yn un uchel, ac ni chafodd y prawf ei gyrraedd yn yr achos yma," meddai.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ei bod yn cyflwyno deddfau newydd fyddai'n cynyddu'r ddedfryd uchaf i garchar am oes, mewn achosion o ladd tra'n gyrru'n beryglus.

Pynciau cysylltiedig