Ailystyried hyd dedfryd dyn a laddodd dau o blant ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Bydd dedfryd dyn a laddodd dau blentyn ifanc o Dredegar mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ar gyrion Casnewydd yn cael ei hystyried i asesu a oedd yn ddigon llym.
Bu farw Gracie Ann Lucas, pedair, a'i brawd tair oed, Jayden Lee Lucas, o'u hanafiadau yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar 5 Chwefror eleni.
Cafodd eu mam, Rhiannon Lucas anafiadau difrifol hefyd wedi i fan Ford Transit Martin Newman daro Ford Fiesta'r teulu wrth iddyn nhw deithio adref o barti pen-blwydd.
Fe gafodd Newman, 41, ei ddedfrydu ar 8 Ebrill i naw mlynedd a phedwar mis o garchar ar ôl pledio'n euog yn Llys Y Goron Caerdydd i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Clywodd y llys bod Newman wedi yfed gwin coch wrth yrru a bod cocên yn ei system pan wyrodd ei fan i gar y teulu Lucas, oedd wedi tynnu i mewn i'r llain galed.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol, Suella Braverman, ddydd Mawrth: "Rydym wedi derbyn cais i ystyried y ddedfryd yma dan y cynllun ULS (Unduly Lenient Sentence).
"Mae gan Swyddogion y Gyfraith 28 diwrnod o'r ddedfryd i ystyried yr achos a gwneud penderfyniad."
Mae hawl gan unrhyw un i ofyn am adolygiad, a does dim rhaid iddyn nhw fod wedi bod yn rhan o'r achos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2022