Agor cwest wedi marwolaeth bachgen yn Afon Tawe
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth bachgen 13 oed a gafodd ei ganfod mewn afon yn Abertawe wedi ei agor.
Daeth y gwasanaethau brys o hyd i gorff Kane Edwards yn Afon Tawe ar 24 Mai.
Roedd criwiau wedi eu galw yn dilyn adroddiadau bod bachgen oedd yn nofio heb gael ei weld yn dod allan o'r dŵr.
Cafodd ei dynnu o'r afon ger Parc Menter Abertawe am 18:05 a'i gyhoeddi'n farw ar yr un safle.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad oedd unrhyw un arall yn rhan o'r digwyddiad.
Cafodd y cwest ei ohirio nes mis Tachwedd gan yr Uwch Grwner dros dro, Colin Phillips.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022