Damwain beic: Llywodraeth Cymru yn cadw iawndal yn gyfrinachol
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi talu iawndal mewn perthynas â damwain beic
Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod datgelu faint mae wedi'i dalu fel iawndal am ddamwain beic.
Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James i'r taliad fis diwethaf.
Ond mae Llywodraeth Cymru, sydd heb gyfaddef ei bod ar fai, wedi gwrthod dweud dim mwy wrth BBC Cymru am y digwyddiad, gan nodi'r angen am ddiogelu data.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod gweithredoedd y llywodraeth yn yr achos hwn "mor glir â mwd".
'Adnabod y person'
Ar 5 Mai cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar ei gwefan fod Ms James wedi "cytuno i dalu hawliad trydydd parti".
Pan ofynnwyd iddi, cadarnhaodd y llywodraeth fod yr hawliad yn ymwneud â "damwain beic" ond dywedodd nad oedd yn gallu darparu unrhyw fanylion pellach.

Mae cyfrifoldebau Julie James yn cynnwys diogelwch ar y ffyrdd
Mewn ymateb i gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru, dywedodd swyddog fod y llywodraeth wedi talu iawndal heb dderbyn cyfrifoldeb, ond gwrthododd rhoi mwy o fanylion am yr hyn ddigwyddodd a maint y taliad.
Dywedodd fod y wybodaeth "yn cynnwys data personol trydydd parti".
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru "yn yr achos hwn, trwy ddatgelu lleoliad a swm yr iawndal a dalwyd, byddai'n hawdd iawn, trwy ymchwilio i wybodaeth arall sy'n gyhoeddus, adnabod y person dan sylw."
Mae'n credu y byddai datgelu nid yn unig yn "peryglu anhysbysrwydd [y] person a fu'n rhan o'r ddamwain," ond hefyd "nad oes unrhyw fudd cyhoeddus cyfreithiol neu hollbwysig a fyddai'n gwneud y datgeliad yn angenrheidiol".
Mae'n ychwanegu y byddai datgelu'r wybodaeth hefyd yn "torri cytundeb yn y setliad i gadw'r wybodaeth yn gyfrinachol".
Galwad am dryloywder
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae'n hanfodol bod gweinidogion y llywodraeth Lafur mor dryloyw â phosib gyda'r cyhoedd ynglŷn â sut a pham mae arian trethdalwyr yn cael ei wario, ond mae eu gweithredoedd yma mor glir â mwd.

Dywed Andrew RT Davies y dylai'r llywodraeth Lafur fod "mor dryloyw â phosib gyda'r cyhoedd ynglŷn â sut a pham mae arian trethdalwyr yn cael ei wario"
"Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael i gyfiawnhau'r gwariant hwn, nid lleiaf y swm a wariwyd, beth achosodd y ddamwain hon yr oedd angen ei ddigolledu, a'r camau a gymerwyd i'w hatal rhag digwydd eto.
"Ni all Llafur barhau i fod yn ofnus o graffu pryd bynnag y bo'n gyfleus."
Gwrthododd Llywodraeth Cymru wneud sylw pellach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd9 Medi 2021
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2021