Busnesau Caerdydd i elwa o'r pêl-droed a'r Jiwbilî

  • Cyhoeddwyd
Farrah, Gareth a Caryl
Disgrifiad o’r llun,

Mae perchnogion busnesau yn y brifddinas ac arbenigwyr yn y diwydiant yn paratoi am benwythnos prysur

Mae "degau o filoedd" o bobl wedi tyrru i'r brifddinas ar gyfer atyniadau hanner tymor.

Dechreuodd y cyfnod prysur gyda chyngherddau Ed Sheeran, tra bod gemau pêl droed a dathliadau'r Jiwbilî i ddod.

Mae'r brifddinas yn paratoi i groesawu torfeydd i wylio parêd cerddorol y lluoedd arfog ddydd Iau a chyngerdd yng Nghastell Caerdydd nos Sadwrn. Bydd picnic ym mharc Biwt ddydd Sul.

Bydd cefnogwyr pêl-droed yn y ddinas ddydd Sul hefyd, wrth iddyn nhw ddod i wylio Cymru yn chwarae naill ai Yr Alban neu Wcráin yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd.

Ond, wrth i rai fusnesau ffynnu, rhybuddiodd arbenigwr bod gwyliau banc, ar y cyfan, yn cael effaith negyddol ar dwf economaidd.

Mae'r prysurdeb wedi creu penawdau yn barod, gyda thrafodaeth ynglŷn â pha mor barod oedd y ddinas i ymdopi â'r nifer o ymwelwyr wedi trafferthion ar y ffyrdd a gyda threnau yn sgil cyngherddau'r penwythnos diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Farrah Jenkins, rheolwr cyffredinol bar Bootlegger yn y ddinas, yn disgwyl penwythnos "hynod o brysur"

Dwedodd FOR Cardiff, sy'n cynrychioli busnesau yn y brifddinas, bod degau o filoedd o bobl yn dod i Gaerdydd ar gyfer y gyfres o ddigwyddiadau mawr.

Mae hi'n gyfnod pwysig i fusnesau lletygarwch, yn ôl Farrah Jenkins, sydd yn rheolwr cyffredinol ar far Bootlegger yng nghanol y ddinas.

"O'n ni yn gweld, yn enwedig dydd Sadwrn, roedd lot fawr o bobl yma," dywedodd.

"Roedd yn hynod o brysur, ac roedd e'n neis i weld pobl mas, pobl yn joio, a gweld pobl yng Nghaerdydd."

Tra bod y sector lletygarwch wedi dioddef yn wael yn ystod cyfnodau gwaethaf Covid, mae Farrah Jenkins yn gweld cyngherddau a dathliadau y Jiwbilî fel cyfle i ddathlu a denu cwsmeriaid.

"Ni'n disgwyl bod yn hynod o brysur. Mae lot o bethau yn digwydd dros y penwythnos gyda bandiau yn chwarae a'r dathliadau.

"Felly rydyn ni'n disgwyl ymlaen i gael pobl mewn yma i ddawnsio."

Ffynhonnell y llun, Original Cottages
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Mahoney'n dweud bod hyder pobl wedi cynyddu ers i'r cyfyngiadau Covid lacio

Un sydd yn dyst i boblogrwydd Caerdydd ydy Gareth Mahoney, sy'n rheoli lleoedd gwyliau hunan-ddarpar ledled Cymru.

"Mae'r galw yng Nghaerdydd yn gryf iawn," meddai.

"Ni wedi bod yn ffodus. Yn yr wythnos diwethaf ry'n ni wedi cael Ed Sheeran, mae gyda ni pêl droed i ddod, ac mae reslo wedi'i gyhoeddi ar gyfer mis Medi hefyd.

"Mae'r holl ddigwyddiadau hynny sydd yn dod â phobl i'r ddinas yn helpu ein diwydiant."

Dwedodd Mr Mahoney bod hyder wedi cynyddu ers i gyfyngiadau Covid gael eu llacio.

"Nawr bod pobl yn gallu cyd-aros mewn lle gwyliau, mae pethau wedi mynd lot fwy yn ôl i'r arfer," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae baneri'r Ddraig Goch a Jac yr Undeb wedi eu codi ar draws y ddinas, a'r siopau'n manteisio ar eu gwerthu hefyd

Yng nghanol Caerdydd mae baneri Cymru yn chwifio ochr yn ochr â baneri Jac yr Undeb er mwyn nodi Jiwbilî Platinwm y Frenhines.

Mae busnesau yn gobeithio elwa o'r dathliadau hefyd.

Dim ond ers deufis mae siop goffi Blŵm wedi bod ar agor yn ardal Cathays o'r brifddinas, ac mae'r perchennog, Caryl Edwards, yn trefnu te prynhawn yn arbennig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Caryl Edwards, perchennog caffi Blŵm yn y ddinas, yn bwriadu cynnal te prynhawn i nodi'r Jiwbilî

"Ni'n neud te prynhawn fel rhywbeth gwahanol, a'r bwriad yw i gael pobl drwy'r drws sydd eisiau dathlu'r Jiwbilî," dywedodd.

"Bydd gyda ni blondies, brownies, bisgedi Jiwbilî a te neu goffi.

"Ni jyst eisiau trio rhywbeth gwahanol i gael pobl mewn, a bach o ddathlu."

Effaith negyddol ar economi yn bosib

Ond, tra bod y sector lletygarwch a rhai siopau yn bwriadu manteisio ar y Jiwbilî i ennyn diddordeb yn eu busnesau, dydy'r digwyddiad ei hun ddim yn debygol o roi hwb sylweddol i'r economi yn ôl un arbenigwr.

Dywedodd y darlithydd busnes, Dr Robert Bowen o Brifysgol Abertawe, y gallai gwyliau banc gael effaith negyddol ar yr economi ehangach.

"Os ydyn ni yn edrych 'nôl ar y Jiwbilî Aur yn 2002 a'r Jiwbilî Diemwnt yn 2012, roedden ni wedi gweld gostyngiad yn lefel y GDP yn ystod y misoedd yna," eglurodd.

"[Gostyngiad o] 2.2% yn 2002 ac 1.5% yn 2012. Felly mae'r Jiwbilî falle yn cael effaith negyddol o ran beth mae ffigurau yr economi yn dangos.

Ond, yn ôl Dr Bowen, 'dyw hynny ddim yn dangos y darlun cyflawn. Mae'n cydnabod bod cyfle gan fusnesau i elwa.

"Mae 'na hyder yn dod o ddathliadau fel hyn, ac mae hyder yn rhywbeth pwysig iawn i'r economi wrth i bobl weld eu bod nhw yn gallu gwario arian, a falle yn prynu pethau i baratoi am ddathliadau."

Pynciau cysylltiedig