Gŵyl Triban: Edrych ymlaen at 'barti go iawn'
- Cyhoeddwyd
Bydd Gŵyl Triban yn dechrau ar faes Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf ddydd Iau.
Wrth ddathlu ei chanmlwyddiant, mae'r Urdd wedi disgrifio'r digwyddiad yn Ninbych fel "aduniad mwya'r ganrif".
Bydd tri llwyfan ar y Maes gydag ystod o artistiaid yn perfformio, gan gynnwys Adwaith, Tara Bandito, Bwncath, Yws Gwynedd a N'Famady Koyaté.
Bydd Eden hefyd yn perfformio ar noson ola'r ŵyl ddydd Sadwrn.
Dywedodd Siân Eirian, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, bod yr ŵyl "yn ddatblygiad cyffrous" ac yn "gyfle i ni ddathlu'r holl elfennau o ddiwylliant Cymraeg".
'Dathliad go iawn'
Un sy'n gyffrous am y penwythnos yw Non Parry o'r grŵp pop Eden, sydd wedi disgrifio arlwy'r ŵyl fel "lein-yp anhygoel".
"Fyswn i'n dod yma i wylio bob un - os taswn i ddim yma yn perfformio fy hunan fyswn i bendant yn dod yma," meddai.
"'Dan ni really yn teimlo y dathliad yma, y 100 mlynedd ac mae'n mynd i fod fatha gŵyl go iawn yn yr haul gobeithio.
"Mae 'na ddathliad go iawn, parti go iawn - ac yn y lle gorau i gael parti.
"Mae e'n mynd i fod yn benwythnos i'w gofio."
'Datblygiad cyffrous'
Dywedodd Siân Eirian bod yr ŵyl yn "cynnig gwledd i bawb o bob oed".
Yn ogystal â'r gerddoriaeth, bydd Cwis Mawr yr Urdd nos Sadwrn yn profi gwybodaeth cyn-aelodau.
Wrth rannu ei chyffro am yr ŵyl, cyfeiriodd Siân at gynnal Jambori cynta'r Urdd ar y cyd â Dilwyn Price, sy'n adnabyddus am ei waith yn arwain Jamboris y mudiad.
"Pam wnes i a Dilwyn gynnal y Jambori cyntaf yn Rhyl yn 1988, doedden ni byth yn meddwl y bydden ni'n dod yn ôl at ein gilydd i gynnal un arall ar y Maes yn 2022."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd31 Mai 2022