Theatr Ieuenctid yr Urdd yn dychwelyd i'r llwyfan

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Bydd mwy o bobl ifanc yn gallu mwynhau'r profiadau, meddai Mared Edwards

Bydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd, a fu'n fan cychwyn i yrfaoedd nifer fawr o berfformwyr Cymraeg, yn cael ei ail-lansio.

Daeth Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd i ben yn 2019 ond mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn rhoi £1m i'r mudiad dros bum mlynedd i'w helpu i ail-sefydlu'r cwmni.

Sefydlwyd Cwmni Theatr Ieuenctid Cymru yn y 1970au, er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed i fwynhau ac ehangu eu profiadau celfyddydol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r Urdd yn dathlu ei ganmlwyddiant eleni, gydag Eisteddfod yr Urdd, sy'n dychwelyd am y tro cyntaf ers 2019, yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych.

Disgrifiad,

Cynllun theatr i 'ehangu mynediad i ddiwylliant Cymraeg'

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid fel bod mynediad am ddim i'r Eisteddfod, a dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, ei fod yn falch o gefnogi ail-sefydlu'r Theatr Ieuenctid, "a fu'n darparu cyfleoedd i gynifer o actorion ifanc dros genedlaethau, gyda rhai ohonynt wedi symud ymlaen i enwogrwydd byd-eang".

"Bydd y theatr yn parhau â'i thraddodiad o ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc o bob cefndir i weithio gyda goreuon y theatr, gan agor byd y ddrama Gymraeg i gynulleidfa newydd sbon drwy gysylltiadau cymunedol cryf yr Urdd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Iddon Alaw (ar y blaen), un o sêr y West End, yn serennu yng nghynhyrchiad Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd o Les Misérables yn 2005

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dau o sêr y dyfodol yn y sioe Brenin Arthur (1980) - Siân James (canol y drydedd res) a Martyn Geraint (rhes gefn ail o'r chwith)

Mae Siân James yn un o gyn-aelodau'r cwmni aeth ymlaen i wneud enw byd-eang iddi ei hun ym maes canu a cherddoriaeth werin yn bennaf.

Cymerodd y gantores o Lanerfyl ran yn nifer o sioeau'r cwmni dros y blynyddoedd, gan ddechrau gyda Harri yn 1977, pan oedd hi'n 14 oed.

"Mi ges i rhyw fath o epiffani ar y llwyfan yn Theatr Felinfach un tro," meddai.

"Roedd y cyrtens wedi cau a ninnau ar y llwyfan yn barod i ddechrau'r sioe, ac ro'n i'n clywed y bwrlwm yma y tu ôl i'r llenni a dyma fi'n cael y rush mawr 'ma, a meddwl 'dyma be' dwi isio'i wneud! Dwi'n lecio hyn!'

"Mae gen i luniau o'r cast o nifer o'r sioeau, ac mi fedrwch chi bigo allan lot fawr o bobl sydd wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes, ac sy'n meddwl am hwnna fel y man cychwyn - pobl fel Rhys Ifans, er enghraifft.

"Felly dwi'n bendant yn croesawu'r buddsoddiad fydd yn help i ail-lansio'r cwmni."

Disgrifiad o’r llun,

Stifyn Parri (Annas) ac Elfed Dafis (Caiaffas) yn plygu clust Huw Williams oedd yn chwarae rhan Jiwdas yn un o sioeau cynnar y cwmni, Jiwdas (1979)

Mae'r actor Richard Lynch, sydd wedi chwarae rhan Garry Monk yn Pobol y Cwm ers blynyddoedd, hefyd yn falch o glywed am y gefnogaeth ac yn edrych ymlaen at weld ffrwyth y fenter.

"Cefais y fraint o gael teithio gyda'r cwmni ddwywaith yn yr 80au, a galla i ddim tanlinellu ddigon pa mor bwysig oedd y profiadau hynny i mi, drwy sbarduno'r camau cyntaf i fyd y theatr.

"Roedd cael y cyfle i ymarfer ac yna perfformio ar brif lwyfannau Cymru yn ogystal â gwneud ffrindiau oes yn brofiad hollol ysgubol, ac rwy'n diolch o galon am bob cyfle."

Disgrifiad o’r llun,

Richard Lynch: 'Diolch am bob cyfle'

Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau bod Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi cynnig cyfleoedd "unigryw a bythgofiadwy i rai miloedd o ieuenctid Cymru oedd â diddordeb ym myd y theatr".

"Gwelwn yr angen heddiw - yn fwy nag erioed yn sgil effaith Covid - i ddarparu cyfleoedd cyfartal a hyfforddiant amhrisiadwy i'n hoedolion ifanc sydd eisiau dilyn gyrfa yn y celfyddydau, ac mi fydd ail-sefydlu'r Theatr Ieuenctid yn cynnig hynny ar lefel cenedlaethol."