Mynediad i Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych am ddim
- Cyhoeddwyd
![Urdd Gobaith Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4068/production/_121988461_0ad5f637-a0a3-4a7d-89ef-91d69ef8b07c.jpg)
Y nod yw denu mwy o ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o Gymru
Bydd mynediad i Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 am ddim wedi buddsoddiad ariannol gwerth £527,000 gan Lywodraeth Cymru i nodi canmlwyddiant yr Urdd.
Yn ôl cyfarwyddwr yr ŵyl, Siân Eirian y gobaith ydy ceisio denu cynulleidfaoedd newydd ac ehangu gorwelion plant Cymru.
Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Addysg a'r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles, ei fod yn gobeithio gweld mwy o bobl "yn manteisio ar y cyfle" i fynychu.
Fe ohiriwyd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn 2020 oherwydd y pandemig.
Ond gyda'r ŵyl bellach i'w chynnal ar yr un flwyddyn ag y mae'r mudiad yn dathlu 100 mlynedd o gefnogi pobl ifanc, fe roddwyd buddsoddiad o dros £500,000 i ddiddymu ffi mynediad ac ehangu cynulleidfa'r ŵyl.
'Denu mwy o bob cefndir'
"'Dan ni'n hynod ddiolchgar i'r gweinidog ac i Lywodraeth Cymru," meddai cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau, Sian Eirian.
![Sian Eirian](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/409B/production/_121993561_b2c888fb-0266-4ede-8c9c-23809c7db40d.jpg)
"Fe wnaeth yr Eisteddfod T agor drysau newydd," medd Sian Eirian, cyfarwyddwr yr Eisteddfod
"'Dan ni'n ymfalchïo ein bod ni'n sefydliad cynhwysol, yn agored i blant a phobl ifanc o bob cwr a'n gobaith ni ydy denu mwy o ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o Gymru gan gynnwys ardaloedd difreintiedig.
"Ac efallai bydd y rhai a oedd ond yn dod am ddiwrnod yn treulio dau ddiwrnod neu dri rŵan.
"Mae'n holl bwysig ein bod ni'n newid, mae'r Eisteddfod T wedi agor y drysau i gynnwys pobl newydd... a dwi'n credu bydd hyn yn wir yn Ninbych."
Ychwanegodd Ms Eirian fod y mudiad wedi ceisio dod yn gynhwysol drwy gynnig aelodaeth am £1 i blant o gartrefi incwm isel yn hytrach na £10.
Dim cynulleidfa yn y Cylch na'r Sir
Cyhoeddodd yr Urdd ddydd Mawrth hefyd y byddai holl Eisteddfodau Cylch a Sirol y mudiad yn ddi-gynulleidfa oherwydd Covid-19.
Mi fydd cystadlaethau llwyfan i'r aelodau sydd rhwng 19 a 25 yn mynd yn syth i'r Genedlaethol yn Ninbych.
Ym Mhrestatyn mae disgyblion Ysgol y Llys wedi bod yn ysu am y cyfle i groesawu cystadleuwyr ar draws Cymru i'r caeau ar gyrion tref Dinbych.
![Dyfan Phillips](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1DC3/production/_121991670_4dc0b22f-f5bd-448d-b0cc-f6cb8dfa59b4.jpg)
"Mae Cymru yn edrych 'mlaen at eisteddfod draddodiadol," medd Dyfan Phillips, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith
Wedi dwy flynedd o aros mae 'na gynnwrf yn ôl pennaeth yr ysgol a chadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Dyfan Phillips.
"Mae 'di bod yn gyfnod hir yn ystod Covid, gymaint o ansicrwydd ond mae'r ffaith ein bod ni'n cael y buddsoddiad ariannol yn goblyn o hwb mawr i ddenu cynulleidfaoedd eang," meddai.
"Mae cynnig mynediad am ddim i deuluoedd - mae'n dangos pa mor gynhwysol ydy'r Urdd fel mudiad.
"Mae 'na garfan o blant ar draws ysgolion Cymru wedi colli allan felly mae 'na hen edrych 'mlaen.
"Dwi'n meddwl fod Cymru benbaladr yn edrych 'mlaen at eisteddfod draddodiadol."
Barn y plant
Yn ôl Cerys, un o ddisgyblion blwyddyn 5 Ysgol y Llys, mae hi'n gyfnod cyffrous.
"Dydy llawer o bobl heb gael cystadlu dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd Covid ac mae o jest yn neis cael hwyl y flwyddyn yma."
![Bethan, Cerys ac Evissa o Ysgol y Llys, Prestatyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17500/production/_121988459_7f03e1cf-3a5e-4b72-9837-04fe9f6532b4.jpg)
Mae Bethan, Cerys ac Evissa o Ysgol y Llys, Prestatyn yn edrych ymlaen
Dywedodd Evissa sydd ym mlwyddyn 6 fod cystadlu ar-lein wedi bod yn hwyl yn ystod Eisteddfod T ond ei bod hi'n edrych ymlaen at ddychwelyd i lwyfan yr ŵyl.
"Dwi'n gobeithio y byddwn ni'n gallu practisio gyda'n gilydd a chael help er mwyn gwybod y caneuon," meddai.
Yn ôl Bethan o flwyddyn 5 mae hi'n "andros o gyffrous" croesawu cystadleuwyr ar draws Cymru i Ddinbych.
Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Addysg a'r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles ei fod yn falch bod modd i Lywodraeth Cymru "gefnogi'r ŵyl" ar flwyddyn mor bwysig i'r mudiad.
![Urdd 100](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/8EBB/production/_121993563_413b819a-f398-4eb6-8509-82ca5af6a76a.jpg)
"Rwy'n falch iawn o gefnogi'r ŵyl wych hon drwy gyhoeddi y bydd mynediad i Eisteddfod yr Urdd 2022 am ddim," meddai.
"Rwy'n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cyfle i fynychu a dathlu canfed blwyddyn y mudiad.
"Mae Eisteddfod yr Urdd, nid yn unig yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ond hefyd yn ffordd wych i'n plant a'n pobl ifanc weld a chlywed ein hiaith, ei siarad eu hunain, a chymryd rhan yn y digwyddiadau cystadleuol a chymdeithasol niferus sydd ar gael."
Mi fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych ym mis Mai gyda'r gobaith o ddenu mwy na'r 90,000 sydd fel arfer yn mwynhau hwyl Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2021