Wizz Air: Canslo hediad drwy decst awr cyn y daith

  • Cyhoeddwyd
Awyren Wizz AirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tim Kelland wedi bwcio hediad Wizz Air o Gaerdydd i Bortiwgal

Mae cwmni hedfan wedi ymddiheuro i gwsmeriaid ar ôl i hediadau i mewn ac allan o Gaerdydd gael eu canslo dros y penwythnos.

Dywedodd un teithiwr o Bontypridd fod pobl "wedi ein gadael heb gymorth" ar ôl clywed fod hediad Wizz Air o Gaerdydd i Faro wedi ei ganslo drwy neges destun, a hynny awr yn unig cyn yr oedden nhw'n disgwyl camu ar yr awyren.

Roedd Tim Kelland wedi bwcio gwyliau 10 diwrnod gyda'i wraig Marian.

"Roedd pobl yn flin iawn gan fod y daith eisoes wedi ei gohirio am awr, felly roedden ni'n barod wedi bod yn aros," meddai.

'Gwyliau cyntaf ers y pandemig'

"Dyma oedd ein gwyliau cyntaf ni ers y pandemig," meddai'r cyfrifydd 55 oed.

Ychwanegodd eu bod wedi eu "gadael heb gymorth," gan ddweud nad oedd unrhyw un yn y maes awyr i'w helpu, nac ychwaith tacsis na thrafnidiaeth wedi eu trefnu gan y cwmni hedfan i'w cludo adref.

Yn y diwedd, llwyddodd i fwcio hediad gyda chwmni arall o Fryste fore Sul.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Mr Kelland deithio o Fryste wedi i'r daith o Gaerdydd gael ei chanslo

Ond nawr mae'n poeni am y daith adref ymhen wythnos, am ei fod wedi clywed nad ydy'r sefyllfa'n well ym maes awyr Faro.

Dywedodd y cwmni hedfan mai "prinder staff ar raddfa eang" oedd un o'r prif resymau dros y newidiadau.

Dywedodd Wizz Air ei fod wedi cynyddu "cyfathrebiad gyda'n holl gwsmeriaid drwy negeseuon testun, e-byst a dros y ffôn er mwyn sicrhau - i'r gorau o'n gallu - eu bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i'n gwasanaethau".

Mae meysydd awyr eraill hefyd wedi gweld hediadau'n cael eu gohirio a'u canslo dros yr wythnosau diwethaf.

Ym maes awyr Gatwick, cafodd dwsinau o hediadau Easyjet eu canslo dros y penwythnos a ddydd Llun.

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Grant Shapps wrth y BBC ddydd Sul y "dylai cwmnïoedd hedfan fod yn ofalus i beidio gorwerthu eu hediadau", a "lle mae yna broblemau, mae'n rhaid eu datrys ar frys".

Pynciau cysylltiedig