Carcharu dyn o Abertawe am barhau yn aelod o fudiad Natsïaidd

  • Cyhoeddwyd
Alex DaviesFfynhonnell y llun, Andrew Matthews/PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Alex Davies yn euog ym mis Mai o fod yn aelod o fudiad eithafol National Action

Mae dyn o Abertawe oedd yn aelod o grŵp neo-Natsïaidd wedi ei garcharu am wyth mlynedd a hanner.

Fe wnaeth Alex Davies, 27, sefydlu National Action (NA) a pharhau'n aelod ar ôl i'r grŵp eithafol asgell dde gael ei wahardd ym mis Rhagfyr 2016.

Clywodd llys yr Old Bailey fod Davies wedi ei recordio yn dweud: "Rydym yn debyg i'r British National Party ond yn fwy radical, dwi ddim am ddweud beth fyddwn i yn hoffi ei wneud i Iddewon ond mae'n fwy eithafol."

Dywedodd y Barnwr Mark Dennis QC fod gan Davies ragfarnau a chredoau oedd yn wyrdroëdig a'i fod yn "parhau yn gefnogwr o Hitler a'r hyn yr oedd o'n sefyll drosto".

Ddydd Mawrth, cafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd a hanner yn y carchar a blwyddyn ychwanegol o dan drwydded estynedig.

'Y Natsi mwyaf ohonyn nhw i gyd'

Ym mis Mai fe wnaeth rheithgor benderfynu fod Davies yn euog o fod wedi parhau yn aelod o NA.

Clywodd Llys y Goron Caerwynt mai Davies oedd y mwyaf tebygol o fod y "Natsi mwyaf ohonyn nhw i gyd," a'i fod yn derfysgwr oedd yn cuddio yng ngolau dydd.

Gwelodd y rheithgor luniau oedd yn dangos Alex Davies yn gwneud salíwt Natsïaidd tra roedd mewn gwersyll-garchar yn Yr Almaen.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd National Action ei sefydlu yn 2013 gan Ben Raymond ac Alex Davies

Gofynnodd un o'r bargyfreithwyr i Alex Davies, "rydych chi'n Neo-Natsi, ydych?" a'i ateb oedd "wrth gwrs".

Roedd Davies yn un o sylfaenwyr y mudiad neo-Natsïaidd yn 2013, ac wedi'i weld yn datblygu o fudiad bach lleol yn ne Cymru i fod ar waith ledled Prydain.

Fe wnaeth rhai aelodau ddathlu pan glywon nhw am lofruddiaeth yr Aelod Seneddol Jo Cox, ac annog yr hyn roedden nhw'n ei ddisgrifio fel rhyfel hil.

Roedd aelodau hefyd yn targedu pobl ifanc, gan geisio'u perswadio i ymuno â nhw.

'Parhau' â'r mudiad

Clywodd y llys fod Davies wedi sefydlu ail grŵp eithafol asgell dde o'r enw NS131 ar ôl i NA gael ei wahardd.

Cafodd y grŵp ei ddisgrifio yn y llys fel "parhad" o NA.

Yn ddiweddarach, fe wnaeth Llywodraeth y DU ei wahardd fel mudiad terfysgol.

Dywedodd yr erlynydd Barnaby Jameson fod NA ac NS131 yn defnyddio'r un lliwiau, darparwr we ac ideoleg - oedd yn efelychu ideoleg y Natsïaid - a'u bod yn rhannu'r un strwythur ac arweinydd.

Ychwanegodd: "Pwy oedd yng nghanol y cyfan? Y sylfaenydd, yr anogwr, y recriwtiwr, Alex Davies o Abertawe. Mae'n debygol mai fe oedd y Natsi mwyaf ohonyn nhw i gyd."

'Ideoleg o gasineb'

Fe wadodd Alex Davies bod NS131 yn barhad o NA, gan fynnu bod NS131 yn fudiad gwahanol a'i fod ond yn "defnyddio ei hawliau democrataidd".

Davies yw'r 19eg person i'w gael yn euog o fod yn aelod o NA, sef y mudiad asgell dde cyntaf i gael ei wahardd ers yr Ail Ryfel Byd.

Cafwyd un o'i gyd-sylfaenwyr, Ben Raymond, fu'n byw yn y Mwmbwls, yn euog o fod yn aelod o fudiad terfysgol oedd wedi'i wahardd.

Cafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar a dwy flynedd ychwanegol ar drwydded estynedig ym mis Rhagfyr y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alex Davies ei ddedfrydu yn llys yr Old Bailey

Fe wnaeth Davies a Raymond gydweithio i ledaenu "ideoleg o gasineb" a gafodd ei ddisgrifio fel "andros o beryglus" gan heddlu gwrth-derfysgaeth.

Ymhlith y rheiny sydd wedi eu cael yn euog ers 2016 mae Mikko Vehvilainen, oedd yn aelod o'r Fyddin Brydeinig wedi'i leoli yn y barics ym Mhont Senni ym Mhowys pan oedd yn aelod o NA.

Dywedodd bod ganddo'r nod o droi pentref Llansilin yn Sir Drefaldwyn - lle'r oedd yn berchen ar dŷ - yn gadarnle i bobl wyn. Cafodd ei garcharu yn 2018.

Hefyd â chysylltiad i Gymru mae Zack Davies, aelod o'r Wyddgrug a gafodd ei garcharu am ymosod ar ddeintydd Sicaidd yn Yr Wyddgrug gyda morthwyl a machete yn 2015 tra'n gweiddi "pŵer gwyn".

'Ni allai'r niwed fod yn fwy'

Dywedodd y Barnwr Dennis QC: "Roedd hwn yn ymdrech penderfynol a threfnus i fynd yn erbyn y gwaharddiad".

Dywedodd mai nod NA oedd "trawsfeddiannu'r wladwriaeth," ac "ni allai'r niwed fod yn fwy".

Fe wnaeth "ias ddisgyn ar y llys" pan ddisgrifiodd Davies sut fyddai'n gwaredu pobl o'r wlad.

Pynciau cysylltiedig