Yma o Hyd gan Dafydd Iwan ar frig siartiau iTunes
- Cyhoeddwyd
Mae cân Yma o Hyd wedi cyrraedd brig siartiau iTunes.
Daw hyn ychydig ddyddiau wedi i dîm pêl-droed Cymru ei chanu ochr yn ochr â Dafydd Iwan yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Mae cefnogwyr Cymru wedi mabwysiadu'r gân yn ddiweddar, ac fe gafodd Dafydd Iwan wahoddiad i'w pherfformio cyn y gêm dyngedfennol yn erbyn Wcráin ddydd Sul.
Roedd Yma o Hyd yn ail yn y siartiau fore Mercher, ond mae bellach wedi cymryd lle Running Up That Hill gan Kate Bush ar y brig, sydd wedi dod yn ôl i boblogrwydd wedi iddi ymddangos ar gyfres Stranger Things ar Netflix.
Hefyd y tu ôl i Dafydd Iwan ar y siartiau mae Harry Styles, Lady Gaga, a Lizzo.
Er nad ydy siart iTunes mor ddylanwadol ag y bu oherwydd gwasanaethau ffrydio, mae'r gân bellach wedi cael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify hefyd.
Yn ogystal, roedd yna gynnydd o 200% yn y nifer o weithiau y cafodd y gân ei ffrydio ddydd Sul o'i gymharu â'r diwrnod cynt, meddai Spotify wrth BBC Cymru.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi derbyn canmoliaeth am annog yr iaith Gymraeg, yn enwedig yn ystod ei hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022