'Penaethiaid Prifysgol Abertawe wedi trafod dylanwadu ar ymchwiliad heddlu'
- Cyhoeddwyd
Roedd uwch staff mewn prifysgol wedi trafod rhoi pwysau ar yr heddlu i ymchwilio i gyn academydd - mae tribiwnlys wedi clywed.
Cafodd yr Athro Marc Clement, cyn ddeon ysgol reolaeth Prifysgol Abertawe, ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol yn 2019 ond gollyngodd yr heddlu gyhuddiadau o lwgrwobrwyo.
Mae ef a'i gyd gyn-weithiwr Steven Poole yn honni iddyn nhw gael eu diswyddo'n annheg mewn tribiwnlys cyflogaeth.
Mae Prifysgol Abertawe yn gwadu eu bod wedi ystyried dylanwadu ar ymchwiliad heddlu.
Mae cyfreithwyr sy'n cynrychioli'r brifysgol wedi cwestiynu honiadau'r Athro Clement a'u perthnasedd i'r achos.
Prosiect £200m
Cafodd y diswyddiadau eu gwneud mewn perthynas â phentref llesiant gwerth £200m oedd yn yr arfaeth yn Llanelli.
Cyhuddwyd yr Athro Clement gan Brifysgol Abertawe o fod yn barod i elwa'n bersonol o'r prosiect.
Cafodd y cyn is-ganghellor yr Athro Richard Davies hefyd ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol ac esgeulustod difrifol yn dilyn proses ddisgyblu gan y brifysgol, ond nid yw wedi dod â'i achos i dribiwnlys eto.
Ar ôl y diswyddiadau, daeth yr heddlu i'r casgliad "bod y canllawiau caffael cywir wedi'u dilyn a'u goruchwylio gan gwmnïau cyfreithiol arbenigol", heb unrhyw achos troseddol.
Mewn tribiwnlys cyflogaeth yng Nghaerdydd ddydd Mercher, honnodd yr Athro Clement fod uwch aelodau o gyngor y brifysgol wedi cyfnewid e-byst yn dweud y gallai'r Athro Clement, Mr Poole ac eraill gael eu herlyn gan yr heddlu neu eu hatal o'u gwaith, gan ddweud "a dweud y gwir, byddai erlyniad yn haws i ni".
Mewn e-bost dyddiedig 20 Rhagfyr 2018, clywodd y tribiwnlys fod cyn-gofrestrydd y brifysgol, Andrew Rhodes, wedi dweud wrth aelodau cyngor Prifysgol Abertawe "bydd yn llawer haws dylanwadu ar yr heddlu i weithredu gyda phwysau gwleidyddol".
Clywodd y tribiwnlys iddo fynd ymlaen i ddweud "Mae gen i driciau i fyny fy llawes" i wneud i Heddlu Dyfed-Powys fynd â'r achos ymhellach a disgrifiodd "bwysau gwleidyddol yn y cefndir".
Mae'r e-byst, a ddarllenwyd i'r tribiwnlys gan yr Athro Clement, yn awgrymu bod Mr Rhodes yn bwriadu ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford i herio "diffyg symudiad yr heddlu" yn erbyn y gweithwyr oedd wedi'u gwahardd.
'Cyff gwawd'
Clywodd y tribiwnlys hefyd bod Syr Roger Jones, cyn-gadeirydd cyngor y brifysgol, wedi dweud mewn e-bost ar 17 Rhagfyr 2018: "Rydym mewn perygl o gael ein gwneud yn gyff gwawd. Rwy'n hapus i ddefnyddio pa bynnag ddylanwad sydd gennyf, yn ffurfiol neu'n anffurfiol, trwy gysylltiadau gwleidyddol neu gysylltiadau eraill i symud y sefyllfa anodd hon yn ei blaen."
Gofynnodd yr Athro Clement, yn cynrychioli ei hun, i gadeirydd presennol cyngor y brifysgol, Bleddyn Phillips: "A yw'n briodol i brifysgol ddefnyddio pwysau gwleidyddol i ofyn i'r heddlu weithredu?"
Gwrthododd Mr Phillips wneud sylw.
Mae Prifysgol Abertawe bob amser wedi mynnu bod ei hymchwiliad disgyblu ar wahân i ymchwiliad yr heddlu.
Yn y tribiwnlys, dywedodd Mr Phillips "nad oedd y ffaith bod yr heddlu yn gysylltiedig â'r achos wedi cael unrhyw ddylanwad o gwbl ar benderfyniad y panel".
Awgrymodd cyfreithiwr y brifysgol, James Laddie QC, i'r tribiwnlys fod yr Athro Clement wedi camddehongli cyd-destun e-byst yn disgrifio pwysau ar yr heddlu.
Wrth siarad ar ôl y gwrandawiad, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe: "Nid yw'r dogfennau dan sylw yn dangos aelodau'r brifysgol yn trafod sut i ddylanwadu ar ymchwiliad yr heddlu.
"Yn hytrach maen nhw'n pryderu am yr oedi gweithdrefnol yn ymchwiliad yr heddlu, yn enwedig yn sgil trafodaethau rhwng yr heddluoedd ynghylch pa heddlu fyddai'n arwain ar yr ymchwiliad, gan fod y brifysgol yn awyddus i symud materion yn eu blaenau."
Mae'r tribiwnlys yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019