Apêl am gerrig yn Nhregaron i nodi ymweliad y brifwyl

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
carreg
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Tre Tregaron yn gobeithio cael cerrig tebyg i'r rhain i godi cofeb

Mae 'na apêl yng Ngheredigion i ffermwyr y sir roi cerrig mawr er mwyn creu cofeb i nodi bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld â Thregaron eleni.

Y bwriad yw casglu deuddeg o feini tal ac un garreg fawr i'w rhoi yn y canol, yn debyg i Gerrig yr Orsedd a'u gosod ynghanol y dre.

Ers sawl blwyddyn bellach, mae'r Orsedd wedi defnyddio cerrig ffug er mwyn cynnal eu seremonïau ar faes yr Eisteddfod, sy'n golygu nad oes cerrig go iawn yn cael eu codi yn man lle mae'r brifwyl yn cael ei chynnal.

Ond mae Cyngor Tref Tregaron am godi cofeb barhaol i nodi ymweliad yr Eisteddfod ym mis Awst eleni.

Disgrifiad o’r llun,

'Bydd hi'n braf cofio bod yr Eisteddfod wedi bod yn Nhregaron," medd Owain Pugh o'r Cyngor Tref

Dywedodd Owain Pugh o Gyngor Tref Tregaron: "Ni wedi aros am hir i'r eisteddfod ddod i Dregaron ac yn meddwl ei bod yn syniad ei chofio hi ar ôl iddi fod.

"Fe fydd hi'n brysur iawn ar y pryd a chyn i ni wybod fe fydd y 'steddfod wedi pasio ac fe fydd yn neis cofio bod yr eisteddfod wedi bod 'ma.

"Ni'n edrych am gerrig o'r sir i gyd achos Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yw i a fi'n gobeithio y gallwn ni gael cymaint o help ac y gallwn ni."

'Digon o gerrig yn tŷ ni'

Er taw'r bwriad yw ail-greu cofeb fyddai'n edrych fel cerrig yr orsedd, ni fydd yr Orsedd yn eu defnyddio fel rhan o'i seremonïau.

Felly mae Cyngor Tref Tregaron wedi gofyn am sêl bendith yr Orsedd i alw'r gofeb yn Gerrig yr Orsedd.

Mae BBC Cymru yn deall bod enw swyddogol y gofeb yn cael ei ystyried gan yr Orsedd.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae digon o gerrig mawr yn tŷ ni," medd Owen Jones sydd eisoes wedi rhoi carreg

Un sydd eisoes wedi cyfrannu carreg fawr yw Owen Jones o fferm Penlan-wen yn Llanddewi Brefi.

"Mae'n neis rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned ac i gofio," meddai.

"Un peth sydd ddim yn brin iawn yn tŷ ni yw cerrig gan bo ni mor uchel lan - mae cerrig fel hyn yn cael eu defnyddio fel postys gatiau, postys ffens - mae tyllau ynddyn nhw ac mae weiars yn gallu dod trwyddo neu fachyn i ddal y gatiau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Macsen, Ianto, Elin a Delun yn edrych ymlaen

Wrth i'r cyngor tref geisio sicrhau cofeb barhaol i'r Eisteddfod, mae 'na ddigon o edrych ymlaen at y brifwyl ar ôl iddi gael ei gohirio ddwywaith oherwydd Covid.

"Ni'n edrych ymlaen i'r holl fwrlwm ddechrau achos ni wedi bod yn aros am y 'steddfod yma am ddwy flynedd, medd Elin, disgybl yn Ysgol Henry Richard.

"Fi'n edrych ymlaen i wario amser gyda ffrindiau fi mewn lle lleol a mwynhau'r bwrlwm a'r caneuon a'r cystadlaethau," meddai Macsen.

"Fi'n edrych ymlaen i weld pawb yn y caeau yn joio," meddai Delun ac mae Ianto yn edrych ymlaen i gerdded rownd y maes a gweld y stondinau i gyd.

50 diwrnod sydd yna bellach tan yr Eisteddfod ac mae'r cyngor tre yn benderfynol o gofio ymweliad y brifwyl â'r dre.